Mae galwadau ar Lywodraeth y DU i fanteisio ar gyfle prin i dorri hyd siwrneiau trên rhwng Caerdydd a Bryste er mwyn hybu cyflogaeth ac economi'r rhanbarth.
Mae arweinwyr Cyngor Caerdydd, Cyngor Dinas Bryste a Chyngor Dinas Casnewydd (yn cynrychioli Dinasoedd Mawr y Gorllewin) wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling, i wthio am welliannau i gysylltedd y rheilffyrdd rhwng y tair dinas i gyd-fynd â buddsoddiadau mewn systemau trafnidiaeth dinas-rhanbarthol, sydd ar y gweill dan eu Bargeinion Dinesig perthnasol.
Mae'r tri chyngor hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud y buddsoddiadau sydd eu hangen i wella gorsafoedd Caerdydd Canolog a Bristol Temple Meads.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae cyfle prin iawn yma i gyflwyno cyfres o welliannau trafnidiaeth a allai fod o fudd mawr i gymudwyr ac economïau Caerdydd, Bryste a Chasnewydd.
"Os gallwn dynnu 20 munud oddi ar hyd y siwrnai rhwng Bryste a Chaerdydd - o 54 munud i 38 munud, bydd posibiliadau enfawr ar gyfer cymudwyr sy'n teithio i'r gorllewin a'r dwyrain ac ar gyfer busnesau sydd am gyflogi pobl.
"Mae'r ddwy ddinas-ranbarth yn gwella'u systemau Metro rhanbarthol yn sylweddol. Gyda'r buddsoddiad ym Mhrif Linell Great Westerm, bydd hyd taith trên i Lundain yn gostwng yn fuan. Y cyswllt rhwng Bryste a Chaerdydd, sy'n cysylltu'r ddwy ddinas-ranbarth ac sy'n rhedeg drwy ardaloedd busnes Caerdydd Canolog, Parcffordd Llaneirwg, Casnewydd, Filton Abbey Wood a Bristol Temple Meads, yw'r unig ddarn nad yw'n cael ei wella. Byddai hefyd yn cyflymu'r buddsoddiad sydd ei angen i wella Caerdydd Canolog a Bristol Temple Meads. Os cawn hyn yn iawn, gallwn greu Pwerdy Gorllewinol all gystadlu gyda chanolbarth a gogledd Lloegr.
"Dyna pam rydyn ni'n credu y dylai lleihau hyd siwrneiau, a darparu rhagor o drenau yn ystod yr oriau brig, rhwng Dinasoedd Mawr y Gorllewin - Bryste, Casnewydd a Chaerdydd - fod yn flaenoriaeth i fasnachfraint newydd Great Western. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gau'r bwlch yn y gwasanaeth a chyflwyno cynllun fydd yn rhoi hwb i'r ardal economaidd gyfan. Byddai'n wirion colli'r cyfle hwn, gyda'r Metro'n weithredol a'r lein wedi ei thrydaneiddio, ochr yn ochr â'n cynlluniau i sicrhau bod Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog yn addas at y dyfodol."
Mae Dinasoedd Mawr y Gorllewin wedi anfon llythyr at y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS yn egluro sut mae gwaith modelu cychwynnol sydd wedi ei wneud gan Network Rail yn awgrymu y gellid torri ar y siwrnai rhwng dinasoedd o 54 munud i 38 munud. Byddai lleihad o'r fath, ochr yn ochr â gwasanaethau mwy cyson rhwng y tair dinas, yn dod â'r marchnadoedd yn y tair dinas at ei gilydd ymhellach a chynyddu cynhyrchiant y rhanbarth.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox: "Mae Casnewydd wrth galon rhanbarth Dinasoedd Mawr y Gorllewin. Mae economïau Caerdydd a Bryste yn chwarae rhan bwysig ym mywydau dyddiol ein cymunedau ac mae gwell cysylltedd rhwng y tair dinas yn hanfodol i sicrhau gwell cyfleoedd i bawb. Fel partneriaeth, rydym yn bendant fod angen blaenoriaethu buddsoddiad er mwyn lleihau hyd y siwrneiau a byddwn yn annog Llywodraeth y DU i wneud hynny. Mae clwstwr o fusnesau digidol a gweithgareddau cefnogol yn tyfu o amgylch Gorsaf Casnewydd a bydd gwell cysylltedd rhwng y tair dinas yn helpu i ddenu rhagor o fusnesau fydd yn hybu economi ardal economaidd Dinasoedd Mawr y Gorllewin."
Eglurwyd yr achos dros wella cysylltedd rhwng y tair dinas yn yr adroddiad 'Britain's Western Powerhouse' yn 2016, a ddangosodd fod yr achos dros gysylltedd rhwng Dinasoedd Mawr y Gorllewin yn gryfach hyd yn oed na'r achos cyffelyb dros Bwerdy Gogledd Lloegr. Mae mwy o bobl yn cymudo rhwng ardaloedd Metro Caerdydd a Bryste nag sy'n gwneud yn ardal Leeds/Manceinion, er bod y pellteroedd a hyd y siwrneiau'n debyg.
Mae'r llythyr hefyd yn nodi y bydd dileu tollau ar Bont Hafren yn cael effaith gadarnhaol, ond yn cynyddu tagfeydd a llygredd. Byddai gwella'r ddarpariaeth drenau mewn ffordd debyg yn helpu i liniaru'r risgiau hyn a ffurfio datrysiad trafnidiaeth holistaidd rhwng y dinasoedd.
Mae Dinasoedd Mawr y Gorllewin yn fenter ar y cyd rhwng Bryste, Caerdydd a Chasnewydd, sydd â'r nod o harneisio twf posibl y dinasoedd a denu buddsoddiad, er mwyn darparu seilwaith cenedlaethol strategol, yn enwedig o ran cysylltedd, i Orllewin Prydain, i gystadlu â ‘Phwerdy Gogledd Lloegr' ac 'Injan Canolbarth Lloegr'.