Mae Credyd Cynhwysol yn dod i Gaerdydd
Mae gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol yn dod i'r ddinas yr wythnos nesaf ac mae Cyngor Caerdydd â chynlluniau yn eu lle i helpu pobl y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt.
Yn unol â'r newidiadau, ni fydd cartrefi sydd o oedran gweithio yn gallu hawlio o'r newydd fudd-daliadau fel Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Budd-dal Tai a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, y'u gelwir nawr yn fudd-daliadau ‘o'r gorffennol'.
O ddydd Mercher 28 Chwefror, bydd cartrefi yn y ddinas sydd â llai na thri plentyn sy'n gwneud hawliad newydd, yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.Gallai newidiadau i amgylchiadau cartref hefyd olygu y bydd angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyled i gyfrif banc ac fel taliad unigol i gartref. Bydd angen i hawlwyr hawlio a chynnal eu cyfrif ar-lein.
Mae help ar gael yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ac yn y rhwydwaith o hybiau cymunedol ledled y ddinas i baratoi pobl ar gyfer Credyd Cynhwysol, gan gynnwys defnydd am ddim o gyfrifiaduron a Wifi am ddim.
Mae staff rheng flaen yn rhoi cymorth digidol i hawlwyr o hanfodion defnyddio'r rhyngrwyd i agor cyfrif banc a'i reoli ar-lein, gan gynnwys sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Gall y Tîm Cyngor Ariannol helpu hawlwyr gyda chyllidebu misol a chyngor sylfaenol ar ddyledion yn ogystal â chymorth ar fwyhau incwm a lleihau costau.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Bydd hawlio Credyd Cynhwysol yn wahanol iawn i'r profiadau blaenorol o hawlio budd-daliadau y gallai pobl fod wedi'u cael, ac mae'r Cyngor yma i roi cymorth a chyngor i helpu pobl gyda'r broses.
"Mae adeg pan fydd angen i rywun hawlio Credyd Cynhwysol yn amrywio'n fawr ar eu hamgylchiadau a nifer y plant sydd yn y cartref."Rydym yn disgwyl y bydd bron i 3,000 o hawlwyr newydd yng Nghaerdydd yn y mis cyntaf ond yn y pen draw bydd angen i bawb sy'n hawlio un o'r budd-daliadau o'r gorffennol, hawlio Credyd Cynhwysol.
"Rydym yn disgwyl twf yn y galw am ein gwasanaethau cynghori o ganlyniad i'r newidiadau ac mae staff yn ein hybiau yn barod i gefnogi pobl y mae angen cymorth arnynt gyda'u hawliad.
Gallwn hefyd helpu hawlwyr gyda chyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli, paratoi ar gyfer gwaith a gwneud cais am swyddi.
"Mewn ardaloedd lle mae newidiadau eisoes wedi'u rhoi ar waith, mae awdurdodau lleol wedi gweld cyfraddau casglu rhent yn lleihau ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol, a chyfrannau sylweddol o denantiaid sydd ar Gredyd Cynhwysol yn mynd i ddyled.
"Yn amlwg, dyma rywbeth rydym am ei osgoi yng Nghaerdydd a byddwn yn gweithio gyda thenantiaid a chleientiaid i helpu i leihau effaith y newidiadau."
Yn ogystal â chymorth a gwybodaeth yn hybiau cymunedol y ddinas, mae'r Cyngor bellach yn rhedeg gwasanaeth cynghori allgymorth mewn Banciau Bwyd yn y ddinas i helpu gyda materion ariannol a rhoi cymorth i bobl i fynd ar-lein ac i mewn i waith.
I ddysgu mwy am y gwasanaeth hwn ewch ihttps://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w/16134.htmlneu am fwy o wybodaeth am gymorth a chyngor sydd ar gael mewn hybiau yn y ddinas, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/yrhybneu ffoniwch 029 2081 7000.