The essential journalist news source
Back
26.
February
2018.
Darpariaeth digartrefedd yng Nghaerdydd

  • Mae'r cyngor yn helpu nifer o bobl sy'n ddigartref ac mae darpariaeth eang ar gael, o lety dros dro statudol i bobl y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd tuag atynt, i lety â chymorth arall drwy'r Porth Pobl Sengl a'r Porth Pobl Ifanc. 

 

  • Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni Strategaeth Cysgu ar y Stryd, gan gynnwys mabwysiadu polisi ‘Dim Noson Gyntaf Allan' a threialu dulliau newydd, gan gynnwys model ‘Tai'n Gyntaf' sy'n symud pobl sy'n cysgu ar y stryd i gartref parhaol. 

 

  • Ar y cyfan mae gennym 216 o lefydd hostel i bobl ddigartref sengl, 45 o welyau brys, a 390 o unedau llety â chymorth.

 

  • Dros y gaeaf, mae 86 gwely brys ychwanegol ar gael - sy'n fwy nag erioed. Rydym yn monitro defnydd o'n llety brys yn barhaol i sicrhau bod lleoedd ar gael, ac rydym yn ceisio rhagweld a mynd i'r afael ag unrhyw gynnydd tebygol yn y galw oherwydd tywydd oer.

 

  • Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartrefedd fel Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich a'r YMCA i ddarparu llety hostel, y rhediad brecwast, canolfan ddydd i bobl ddigartref, a gwasanaeth bws nos. 

 

  • Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag unigolion i'w helpu i fanteisio ar wasanaethau ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a gyda'r nos i gysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o orfod cysgu ar y stryd. 

 

  • Ers Ebrill y llynedd, rydym wedi helpu 175 o bobl i mewn i lety a oedd yn cysgu ar y stryd o'r blaen.

 

  • Mae ystod eang o wasanaethau holistig ar gael bob dydd i unigolion gan gynnwys gwasanaethau meddygol, iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol ynghyd â gwasanaethau llety. 

 

  • Mae unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn aml yn wynebu problemau cymhleth iawn ac mewn rhai amgylchiadau maent yn dewis peidio â defnyddio ein llety, ac yn cysgu ar y stryd am flynyddoedd lawer. Yn yr amgylchiadau hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd. 

 

  • Mae tua 40% o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd yn dod o'r tu allan i'r ddinas, heb gysylltiadau lleol. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau felly, pan fo'n briodol, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w helpu i ail-ymgysylltu'r unigolion hyn â'u hardaloedd cartref.

 

  • Rydym yn parhau i ariannu nifer o brojectau tai arloesol i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas. Mae'r holl gynlluniau hyn yn cynnwys cymorth dwys i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o broblemau y mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn eu gwynebu, ac i'w helpu i aros mewn llety.