The essential journalist news source
Back
16.
February
2018.
Arweinydd Cyngor Caerdydd i gwrdd â phrif negodwr yr UE, Michel Barnier

Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd ac arweinwyr dinasoedd eraill y DU yn cwrdd â phrif negodwr yr UE, Michel Barnier, ym Mrwsel ddydd Llun 19 Chwefror i drafod perthnasau ôl-Brexit ag Ewrop. 

Bydd y Cynghorydd Huw Thomas ymysg yr arweinwyr a'r meiri sy'n cynrychioliDinasoedd Craidd y DU - y 10 dinas allweddol y tu allan i Lundain sy'n gartref i 20m o ddinasyddion ac sy'n gyfrifol am 25% o economi'r DU.  Ymysg y pynciau i'w trafod fydd budd cyffredin eu dinasoedd a sut i fodloni anghenion cymunedau a busnesau lleol cyn ac ar ôl Brexit. 

Bydd Dinasoedd Craidd y DU yn mynd i Bencadlys y Comisiwn Ewropeaidd gyda llywydd y rhwydwaith dinasoedd Ewropeaidd, EUROCITIES, sy'n cynrychioli tua 200 o ddinasoedd Ewrop. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Dwi'n edrych ‘mlaen at eistedd i lawr yng nghwmni Mr Barnier i ddadlau'r achos dros gynnal cysylltiadau cryfion â'n cyfoedion Ewropeaidd ar ôl Brexit. Mae Caerdydd yn ddinas â chysylltiadau rhyngwladol cryf a bleidleisiodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac er fy mod yn deall fod y wlad wedi pleidleisio i adael, mae'n rhaid i'r bobl fod yn ymwybodol o rai ffeithiau anochel. 

"Does dim amheuaeth y bydd Brexit yn niweidio ein prifddinas. Mae 61% o allforion y ddinas yn mynd i wledydd yr UE. Rydyn ni ymysg y pum dinas sy'n fwyaf dibynnol ar farchnadoedd yr UE yng ngwledydd Prydain. Mae llawer o fusnesau Caerdydd yn dibynnu ar weithwyr o wledydd yr UE, yn arbennig y rheini yn y meysydd adeiladu, manwerthu, lletygarwch, iechyd a gofal cymdeithasol. 

"Beth am i ni ystyried gwasanaethau iechyd Caerdydd? Maent yn dibynnu ar feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill o bedwar ban byd - llawer ohonynt o'r UE. Rhaid i Brexit beidio â'i gwneud hi'n anoddach recriwtio i'r rolau hanfodol hyn a chadw'r gweithwyr. 

"Mae tua 3,000 o fyfyrwyr yn y ddinas-ranbarth yn dod o'r UE - pedwar y cant o'r boblogaeth myfyrwyr - sy'n wynebu ansicrwydd o ran eu statws. Mae'r myfyrwyr hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol. Gallai newidiadau i ffioedd myfyrwyr yr UE arwain at ostyngiad syfrdanol mewn niferoedd dros y blynyddoedd nesaf, gan arwain at golled flynyddol o £10m mewn ffioedd dysgu i brifysgolion Caerdydd. 

"Mae Cymru hefyd yn fuddiolwr net o fod yn aelod o'r UE; mae'r wlad yn derbyn tua £680m o gyllid bob blwyddyn gan yr UE. I roi hyn mewn rhyw fath o gyd-destun, nid yw'r Fargen Ddinesig werth ond £1.2bn mewn cyllid dros gyfnod o 20 mlynedd. Er mwyn sicrhau na chawn ein gadael i wywo ar y gangen, bydd angen i lywodraeth y DU ddod o hyd i o leiaf £330m y flwyddyn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unig. Byddai aros yn yr UE werth o leiaf chwe Bargen Ddinesig dros yr un cyfnod o 20 mlynedd, pe bai'r lefelau presennol o gyllid yn cael eu cynnal. 

"Felly, mae'n amlwg i mi, hyd yn oed ar ôl Brexit, y bydd Ewrop yn parhau i fod yn farchnad allweddol i fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd a dyna pam y byddaf yn brwydro dros fynediad rhydd i'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau. Rhaid i ni sicrhau bod ein lleisiau yn dal i gael eu clywed yn glir ar y cyfandir. 

"Gall gweithio gydag EUROCITIES ein helpu i gyflawni hyn a rhoi cyfleoedd i ni ddysgu sut y gallwn roi hwb i'n cynhyrchiant a'n gwneud yn fwy cystadleuol ar ôl i Brydain adael yr UE. Mae'n hanfodol bod Caerdydd yn parhau'n agored ac eangfrydig.Rydyn ni eisiau parhau i gynyddu nifer y busnesau a swyddi dros y blynyddoedd i ddod.I wneud hynny, mae'n hanfodol fod perthnasau cadarnhaol â dinasoedd, sefydliadau, partneriaid a rhwydweithiau Ewropeaidd yn goroesi i'r dyfodol er budd Caerdydd a'n Dinasoedd Craidd partner, ynghyd â dinasoedd ledled yr UE." 

Mae'r Dinasoedd Craidd yn gartref i 20m o ddinasyddion ac yn gyfrifol am 25% o economi'r DU. Maent yn gartref i fwy na chwarter o fusnesau'r DU, yn darparu 29% o fasnach ryngwladol y DU ac yn gartref i 37.5% o fyfyrwyr prifysgol y DU. 

Y rhain hefyd yw canolfannau rhyngwladol pwysicaf y DU y tu allan i Lundain. Amcangyfrifir bod y Dinasoedd Craidd wedi allforio mwy na £72 biliwn yn 2016, gyda 48% o hyn i'r UE a 52% i wledydd y tu allan i'r UE.