Mae modurwyr yn cael eu rhybuddio bod dau droad a waherddir newydd bellach yn cael eu gorfodi yn y ddinas gan ddod â'r cyfanswm o droadau a waherddir sy'n cael eu monitro trwy gamerâu cydnabod rhifau cofrestru i 14.
Gosodwydycamerâu newydd ar Ffordd Churchill, lle na chaniateir i yrwyr droi i'r dde iStryd Ogleddol Edward a hefyd ar Colum Road, i atal y sawl sy'n teithio tua'r ddinas rhag troi i'r dde i Heol Corbett.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Ni chaniateir troi mewn rhai llefydd am resymau da fel gwella diogelwch, helpu llif traffig i leddfu tagfeydd neu wella llwybrau i fysus yn y ddinas. Nid yw'r rhain yn newydd, maen nhw ar waith ers cryn amser, ond rydym bellach yn eu monitro i sicrhau bod pobl sy'n anwybyddu'r rheolau ac weithiau'n peryglu bywydau pobl yn cael eu cosbi."
Mae'r troadau a waherddir canlynol yn cael eu monitro yng Nghaerdydd:
Yng nghanol y ddinas, os ydych yn teithio ar hyd Ffordd Churchill,ni allwch droi i'r dde i Stryd Ogleddol Edward
Yng nghanol y ddinas o Stryd Y Gamlas ni cheir troi i'r chwith i faes parcio John Lewis(Heol Pont-Yr-Aes)
Yng nghanol y ddinas, os ydych yn teithio i lawr Heol y Porth, ni chewch droi i'r chwith i Stryd Wood
Yng nghanol y ddinas, os ydych yn dod i lawr rhan isaf Heol Eglwys Fair, ni chewch droi i'r chwith i Lôn-y-felin
Yn Cathays, os ydych yn gadael canol y ddinas ar Heol y Gogledd, ni chewch droi i'r dde i Heol y Coleg
Yn Cathays, os ydych yn teithio i lawr Colum Road tua Phlas-y-parc, ni chewch droi i'r dde i Heol Corbett
Ym Mhlasnewydd, ar Heol Casnewydd, ni allwch wneud tro pedol wrth Wordsworth Avenue
Yn Nhredelerch, os ydych yn dod allan o New Road, ni chewch droi i'r dde i Heol Casnewydd
Yn Adamsdown, os ydych yn dod o Piercefield Place ni allwch droi i'r dde i Heol Casnewydd
Yn y Mynydd Bychan, os ydych yn teithio ar hyd Smith Road, nid oes ffordd drwodd i Malvern Drive
Yn y Mynydd Bychan, os ydych yn teithio i Birchgrove Road, ni allwch droi i'r chwith i Manor Way
Yn Grangetown, nid oes ffordd drwodd i fyny Paget Street yn y gyffordd â Redlaver Street
Yn Llanisien, os ydych yn teithio i'r Crystal Glen, ni allwch droi i'r dde i Heathwood Road
Yng Nghaerau, os ydych yn teithio i lawr Amroth Road, ni chewch droi i'r chwith i Heol Orllewinol Y Bont-Faen.