Mae'n edrych yn debyg mai Glanfa'r Iwerydd yw'r dewis safle i arena dan do arfaethedig Caerdydd, a fydd yn cynnwys 15,000 o seddi.
Gallai'r cyfleuster amlbwrpas arfaethedig newydd - cartref posibl i ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon ac adloniant mawr yn y ddinas - gael ei adeiladu ar ddau safle ar Lanfa'r Iwerydd wrth ymyl pencadlys Sirol Cyngor Caerdydd a Chanolfan Red Dragon gerllaw ym Mae Caerdydd.
Mae'r cynlluniau'n dangos y gellid adeiladu'r arena heb fod angen i'r Cyngor adleoli o'i Bencadlys presennol yn Neuadd y Sir, ond bydd astudiaeth ddichonoldeb fanylach yn ystyried dewisiadau gan gynnwys gwerthu'r safle 30 acer cyfan ar gyfer gwaith ailddatblygu i sicrhau y gall y datblygiad gynhyrchu'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyllid y cynllun o du'r sector preifat.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ar yr Arena yn ei gyfarfod ddydd Iau, 15 Chwefror.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway, fod yr arena dan do yn flaenoriaeth allweddol i weinyddiaeth newydd y sir a etholwyd ym mis Mai 2017, fel y nodir yn nogfen bolisi'r weinyddiaeth,Uchelgais Prifddinas. Esboniodd fod adeiladu arena dan do ym Mhrifddinas Cymru yn ymrwymiad ers peth amser, ond bod cynnydd wedi seguro yn y blynyddoedd diweddar. Nododd fod yr hyn a ddwedwyd yn natganiad Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fis Mehefin 2017, sef bod "cael arena amlbwrpas yng Nghaerdydd yn hanfodol bwysig nid yn unig i Gaerdydd ond i Gymru", yn galonogol iawn, a bod Llywodraeth Cymru a'r Cyngor wedi cytuno mewn trafodaethau dilynol i gydweithio er mwyn cyflawni hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Goodway: "Mewn dinasoedd y mae'r dyfodol yn cael ei adeiladu. Dinasoedd yw'r dynamos economaidd lle y cynhyrchir dros 80% o Gynnyrch Domestig Gros y byd, ac maent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am fewnfuddsoddiad a swyddi. Os yw Caerdydd eisiau cystadlu â dinasoedd mawrion eraill, yna er mwyn llwyddo, mae angen y seilwaith angenrheidiol arni i ddiogelu ein dyfodol, a bydd arena dan do amlbwrpas yn un o'r cydrannau allweddol yn llwyddiant economaidd Caerdydd yn y dyfodol.
Parhaodd y Cyng. Goodway: "Mae'r adroddiad cabinet hwn yn nodi carreg filltir allweddol o ran cyflawni uchelgais hir sefydlog, ond yn bwysicach na hynny, mae'n adlewyrchu sut y gall buddsoddi yn yr asedau allweddol hyn fod yn sail i ddarparu atebion mawr eu hangen i heriau eraill i'r ddinas. Mae traffig a thrafnidiaeth yn her fawr i bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a phobl sy'n ymweld â'r ddinas. Mae gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel angen teithwyr sy'n talu'n rheolaidd. Bydd y gallu i ddenu 15,000 o ymwelwyr i'r ddinas yn rheolaidd, naill ai drwy gyrraedd cyrion y ddinas a defnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio neu ar drên yng nghanol y ddinas ac a fydd angen mynd i'r Bae, yn darparu niferoedd y teithwyr a fydd yn helpu i wireddu'r freuddwyd o greu system fetro a chyflymu'r gwaith o gwblhau Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae. Bydd hefyd yn denu'r ymwelwyr sydd eu hangen i gynnal atyniadau eraill i ymwelwyr yn y ddinas.
"Daw'r asesiad proffesiynol i'r casgliad mai rhywle yn ardal Glanfa'r Iwerydd yw'r dewis leoliad, a hynny am amryw resymau. Mae'n cefnogi ein nodau datblygu ar gyfer y ddinas ac yn cynnig y cyfle gorau posib er mwyn helpu i greu cyrchfan wedi'i hadfywio i ymwelwyr yn y Bae, sy'n cysylltu'n uniongyrchol â chyfleusterau presennol yn y Basn Hirgrwn a Chei'r Fôr-Forwyn.
Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo'r dewis leoliad a gynigir ac awdurdodi gwaith pellach wedi'i gynllunio i ennill rheolaeth ar dir. Hefyd, gofynnir iddo baratoi strategaeth fanwl ynghylch darparu ac ariannu'r arena newydd.