The essential journalist news source
Back
9.
February
2018.
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Heol Wedal ar gau ar 2 Mawrth

Bydd CAGC Heol Wedal ar gau ar 2 Mawrth, ond bydd trigolion y ddinas yn gallu defnyddio dau brif safle'r Cyngor yn Ffordd Lamby a Bessemer Close.

Gwnaed y penderfyniad i gau Heol Wedal yn Chwefror 2014.

Mae CAGC Heol Wedal wedi wynebu problemau di-ri am flynyddoedd lawer ac mae'n gorfod cau'n rheolaidd i'r cyhoedd ar fyr rybudd. Mae hefyd bryderon amgylcheddol a godwyd â'r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch effaith llygredd sŵn ar breswylfeydd cyfagos.

Mae'r Cynghorydd Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu wedi nodi rhesymau manwl dros y penderfyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Nid yw'r cyfleuster yn addas at y diben. O ran y safle ei hun, mae'n rhy fach i gasglu'r holl ddeunyddiau y dymunwn eu hailgylchu ac nid yw'n ddigon mawr i ymdrin â'r holl wastraff.

"Pan fo'r sgipiau'n llenwi, mae'n rhaid i ni gau'r safle er mwyn galluogi'r gwastraff i gael ei gario oddi yno. Yn weithredol, mae'n hunllefus. Rydym wedi buddsoddi mewn cyfleuster newydd yn Ffordd Lamby sydd dair milltir o CAGC Heol Wedal, ac mae Bessemer Close ond pedair milltir i ffwrdd.

"Mae'r ddau gyfleuster hyn yn gallu'ch helpu i ailgylchu llawer mwy o fathau o wastraff ailgylchadwy, gyda Ffordd Lamby'n gallu delio â 24 math gwahanol o ailgylchu ac mae gan y ddau safle gyfleuster ailddefnyddio i ddodrefn a nwyddau.

"Mae'r ddau gyfleuster hyn wedi'u cynllunio fel gall y cyhoedd waredu eu hailgylchu a'u sbwriel, ac y gellir symud y gwastraff i ffwrdd o'r safle yn ddiogel ac yn hawdd tra bo'r safle'n parhau i weithredu.

"Allensbank Road yw un o'r prif ffyrdd mynediad i Ysbyty'r Waun, a lleolir eiddo preswyl wrth ymyl y safle. Yn aml, mae ceir yn ciwio allan i'r ffordd gan achosi rhwystr. Mae hyn yn fater iechyd a diogelwch ac nid yw'n dderbyniol.

"Rwy'n sylweddoli bod trigolion yng ngogledd y ddinas yn defnyddio CAGC Heol Wedal, ond mae'r cyfleusterau amgen ond ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae'n debyg bod pobl yn aros yn hirach i gael mynediad i CAGC Heol Wedal na'r amser mae'n ei gymryd i yrru i Ffordd Lamby neu Bessemer Close beth bynnag.

"Rydym yn parhau i chwilio am dir addas yng ngogledd y ddinas i adeiladu CAGC newydd."

"Rydym hefyd yn asesu'r galw a'r opsiynau tai yn y ddinas, a'r angen am rhagor o gyfleusterau o'r fath wrth i'r ddinas dyfu."