Ar 12 Chwefror, bydd Asiantau Gorfodi mewnol y Cyngor, sy'n gyfrifol am orfodi talu dirwyon parcio, troseddau lonydd bysiau a thramgwyddau llif traffig, yn dechrau defnyddio system Adnabod Platiau Rhif Awtomataidd (APRhA).
Bydd asiantau gorfodi'r cyngor yn defnyddio technoleg Adnabod Platiau Rhif Awtomataidd (APRhA) er mwyn nodi cerbydau sydd â gwarantau dyledus sy'n gwrthod talu. Gellir atal cerbyd rhag symud nes bod y holl ddyled wedi'i thalu - gan gynnwys ffioedd statudol ychwanegol.
Mae'r Cyngor wedi ystyried defnyddio technoleg APRhA yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a newidiadau a gyflwynir yn rhan o'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid: "Drwy ddefnyddio technoleg APRhA, byddwn yn gallu adnabod cerbydau sydd â gwarantau dyledus lle mae'r perchnogion wedi methu â thalu neu ymgysylltu â ni am gyfnod hir o amser. Bydd y dechnoleg yn gwella ein heffeithlonrwydd ac yn gwella ein gweithdrefnau casglu ar gyfer gwarantau sydd heb eu talu."
"Byddwn yn awgrymu'n gryf i unrhyw un sydd â dyled i'w thalu am y troseddau hyn, gysylltu â'r cyngor drwy Cysylltu â Chaerdydd ar 02920 872088 er mwyn talu'r swm sy'n ddyledus. Os caiff eich cerbyd ei atal rhag symud, yna bydd rhaid i chi dalu llawer mwy o ganlyniad i'r ffioedd statudol cysylltiedig.
Os talwch ar amser, neu os cysylltwch â ni yn gynnar i gytuno ar gynllun talu, ni fyddwch mewn perygl. Felly, dyna pam rwy'n annog pobl i gysylltu â ni nawr os oes dyled ganddynt i'w thalu."