The essential journalist news source
Back
21.
December
2017.
Bydd beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu dal a’u chwalu

Ni chaniateir gyrru beiciau neu feiciau cwad ar y briffordd oni bai bod y cerbyd wedi'i gofrestru â'r DVLA a'r gyrrwr yn berchen ar drwydded yrru ddilys ac yswiriant. Nid oes modd gyrru beiciau ffordd na beiciau cwad mewn parciau na gofod agored cyhoeddus oherwydd diogelwch aelodau'r cyhoedd.

Dyma neges dymhorol Uned Oddi ar y Ffordd Cyngor Caerdydd, sy'n gweithio'n agos â Heddlu De Cymru i atafael beics sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon.

Mae'r Cyng. Peter Bradbury, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, yn gofyn i rieni i beidio â phrynu'r cerbydau hyn i'w plant. Os ydyn nhw wedi eu prynu, y neges yw i ganiatáu iddynt eu defnyddio ar dir preifat neu ar draciau penodol ar gyfer cerbydau motocross.

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury: "Yn ddiweddar, clywais newyddion trist o Lerpwl lle gafodd menyw 77 oed ei tharo a'i lladd gan feic sgramblo. Nid oedd gan y gyrrwr drwydded nac yswiriant.

"Yng Nghaerdydd, rydym yn clywed sawl adroddiad o feiciau sgramblo a beiciau cwad yn niwsans i breswylwyr lleol. Dyma pam mae'r bartneriaeth ar waith ac rwy'n falch o adrodd ein bod wedi atafaelu 17 o'r cerbydau hyn ers mis Mai 2017. Yn aml, rydym yn dod o hyd i blant yn gyrru neu ar gefn y beiciau hyn a phan rydym yn eu stopio, maent yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y gwaith yn parhau yn y Flwyddyn Newydd."

Dechreuodd y gwaith ar y cyd hwn â Heddlu De Cymru ym mis Mai 2016, ac ers hynny mae 34 o feiciau a beiciau cwad wedi'u hatafaelu. Yna, bydd y cerbydau'n cael eu chwalu gan gontractwr allanol.