The essential journalist news source
Back
15.
November
2017.
Y ddinas yn gwneud safiad i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn merched ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ledled y ddinas gan ddechrau yn gynnar fis Tachwedd er mwyn tanlinellu'r cyfnod o 25 Tachwedd, Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i Ddiddymu Trais yn erbyn Menywod a Merched, neu Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, tan 10 Rhagfyr sef Diwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Bydd digwyddiadau yn cynnwys gwylnos yng ngolau cannwyll, gorymdeithiau a dyddiad gwneud addewid. Bydd y gwely blodau y tu allan i Gastell Caerdydd yn cael ei blannu'n arbennig â blodau gwynion i ddynodi'r Rhuban Gwyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Nid yn unig bod Caerdydd am godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, ond hefyd yn bwysig iawn herio agweddau a thynnu dynion i gymryd rhan yn y drafodaeth.

Mae record lwyddiannus hirhoedlog gan y ddinas wrth ymateb i gam-drin domestig ac mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn gofyn am dendrau i gynnig ystod o wasanaethau i fod ar gael i'r rhai hynny sydd â mwyaf ei angen.

Yn ein pedwaredd flwyddyn o gefnogi'r Rhuban Gwyn rydym yn parhau i hyrwyddo'r ymgyrch hon, gan annog pobl i wisgo rhuban gwyn ac i wneud addewid i beidio fyth a chyflawni gweithred dreisiol, cyfiawnhau na chadw'n dawel parthed trais yn erbyn menywod a merched ar unrhyw gyfrif.

Dywedodd y Cyng. Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Hyrwyddwr Rhuban Gwyn Cyngor Caerdydd: "Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw'r mudiad mwyaf ledled y byd a arweinir gan ddynion i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn menywod a gwelir y cefnogwyr yn gwisgo rhubanau gwyn.

Rwy'n gweld fy rôl i fel annog dynion i drafod a herio'r diwylliant sy'n galluogi cynifer o ddigwyddiadau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ddigwydd. Y mis diwethaf ymunodd bron 150 o ddynion ar daith gerddedCerdded Milltir yn Ei Hesgidiau Hier mwyn dangos eu cefnogaeth ac fel cennad dros y Rhuban Gwyn. Rwy'n annog mwy o ddynion i roi addewid i beidio fyth a chyflawni gweithred dreisiol, cyfiawnhau na chadw'n dawel parthed trais yn erbyn menywod a merched. Ymunwch â ni i ddathlu diwrnod y Rhuban Gwyn a'r 12 diwrnod o weithgareddau a fydd yn dilyn hynny."

Bob blwyddyn yn y DU mae dros filiwn o ferched yn dioddef cam-drin domestig ac mae 360,000 yn dioddef ymosodiadau rhywiol. Er bod cam-drin yn effeithio ar ferched gan fwyaf, gall unrhyw un ddioddef o drais a chamdriniaeth.

Mae ystadegau trais domestig yn dangos bod 70% o ddigwyddiadau yn arwain at anaf ac ar gyfartaledd bod dwy fenyw yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd gan eu partner bob wythnos.

Os hoffech wybod mwy am Ymgyrch y Rhuban Gwyn ewch i

www.whiteribboncampaign

 

 

Ymunwch yn y sgwrs #whiteribboncardiffvale2017

 

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef trais yn erbyn menywod neu ferched, cam-drin domestig neu drais rhywiol gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan linell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim)www.livefearfree.gov.wales

Digwyddiadau:

Dydd Llun 13 Tachwedd.Llyfrgell Ganolog 10.00am - 4.00pm Stondin Wybodaeth, Wythnos Ddiogelu

Dydd Mawrth 14 Tachwedd.Llyfrgell Ganolog 10.00am - 4.00pm Stondin Wybodaeth, Wythnos Ddiogelu

Dydd Mercher 15 Tachwedd.Llyfrgell Ganolog 10.00am - 4.00pm Stondin Wybodaeth, Wythnos Ddiogelu

Ffôs Castell Caerdydd. 10.00am - 11.00am Plannu Gwely Blodau Rhuban Gwyn. Cyfle am luniau gyda Chynghorwyr a staff y Parciau.

 

Ysbyty Felindre, Sesiwn Galw Heibio gyda Byw Heb Ofn. Cyswllt Tina Hitt 02920 615888 est 4421

Dydd Iau 16 TachweddLlyfrgell Ganolog 10.00am - 4.00pm Stondin Wybodaeth, Wythnos Ddiogelu

 

 

Dydd Gwener 17 TachweddLlyfrgell Ganolog 10.00am - 4.00pm Stondin Wybodaeth, Wythnos Ddiogelu

 

Uned Diogelu Busnes Cynhadledd Ddiogelu Oedolion RSAB Caerdydd a Bro Morgannwg. Rhif ffôn cyswllt: 02922330880/ 02922330867

CardiffandvaleRSB@cardiff.gov.uk

Dydd Llun 20 TachweddMynedfa Ysbyty Llandochau 10.00 - 4.00pm Stondin Wybodaeth - Wythnos Ddiogelu

Dydd Mawrth 21 TachweddSenedd 11.45am Joyce Watson AC a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, drwy wahoddiad yn unig.

Adeilad y Lanfa, 6.30pm Gwylnos yng Ngolau Cannwyll - Sefydliad Cenedlaethol y Merched Cymru.

Dydd Mercher 22 TachweddAdeilad y Lanfa, 10.30 - 1.30pm Stondin Wybodaeth yng Nghynhadledd Project Sbectrwm Hafan Cymru

Dydd Llun 27 Tachwedd.Gorymdeithio o Swyddfeydd Llamau ar Heol y Gadeirlan i Gadeirlan Llandaf, 9.30am Dewch â'ch baner i godi ymwybyddiaeth.

Cadeirlan Llandaf 10.45am. Goleuo cannwyll a Gwasanaeth Ecwmenaidd ac areithiau.

Clwb Rygbi Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin. 12.30pm Cinio i Godi Arian i gefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern / masnachu Pobl. Croeso i bawb ond cofrestrwch drwy e-bost:http://www.cardiff.public-i.tv/site/mg_bounce.php?mg_m_id=3131http://www.bawso.org.uk/events-2/

Dydd Mawrth 28 TachweddMynedfa Ysbyty Llandochau Stondin Wybodaeth Rhuban Gwyn i'r Cyhoedd yn gyffredinol

Dydd Mercher 29 TachweddYsbyty'r Brifysgol Caerdydd Stondin Wybodaeth rhuban gwyn yn y Cyntedd,