The essential journalist news source
Back
2.
November
2017.
Canolbwyntio ar fenthycwyr arian didrwydded, twyll fasnachwyr a delwyr drwg

Mae darganfod benthycwyr arian didrwydded a thwyll fasnachwyr, archwilio i fwytai budr a thacsis nad ydynt yn addas ar gyfer y ffordd yw rhai o'r swyddi a nodwyd mewn adroddiad newydd a gymeradwywyd gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar ddydd Iau 2 Tachwedd

Mae adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn amlygu llwyddiannau swyddogion o Gynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili sydd wedi cydweithio i gyflawni gwasanaethau safonau masnach, iechyd yr amgylchedd a thrwyddedu.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r adroddiad hwn yn amlygu'r gwaith pwysig y mae ein swyddogion yn ei wneud i geisio cadw pobl yn saff rhag cowbois a thwyllwyr.  Mae'r bartneriaeth hon, sydd wedi bod yn weithredol ers tair blynedd bellach, yn sefydledig, ac mae'n dangos sut gall awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd, i gyflawni ar gyfer preswylwyr y rhanbarth."

Mae'r bartneriaeth, o'r enw'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), wedi arwain at swyddogion yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, diogelwch y cyhoedd, diogelwch tai'r sector preifat a rheoleiddio trwyddedau.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, archwiliwyd dros 2,000 o eiddo bwyd i sicrhau bod eu safonau hylendid yn ddigon da. Mae hynny'n 500 o eiddo'n fwy na'r flwyddyn gynt. Atgyfeiriwyd mwy na 100 o yrwyr tacsis at y pwyllgor trwyddedu a chyflwynwyd 190 o Hysbysiadau Atal.

"Rwy'n falch iawn bod 12 o achosion benthycwyr arian didrwydded, yn cynnwys symiau hyd at £641,000 wedi'u harchwilio a rhoddwyd cymorth i 134 o ddioddefwyr a oedd yn gallu canslo £357,000 o ddyled i'r bobl hyn. Mae'r gwaith y mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, ac mae hyn yn amlwg o'r adroddiad."

Noda'r adroddiad:

  • Cyflwynwyd 840 o drwyddedau tai amlfeddiannaeth (mae'r archwiliadau hyn yn sicrhau bod pobl sy'n byw mewn tai o'r fath yn byw mewn amodau diogel).

  • Ymwelwyd â 61 o siopau er mwyn profi a ydynt yn gwerthu alcohol a thybaco i wirfoddolwyr dan 18 oed

  • Archwiliwyd i fwy na 400 o dacsis i sicrhau eu bod mewn cyflwr digonol i'w defnyddio ar y ffordd

  • Atgyfeiriwyd mwy na 100 o yrwyr tacsis at y pwyllgor trwyddedu a chyflwynwyd 190 o Hysbysiadau Atal i gerbydau trwyddedau oedd yn anaddas i'w defnyddio.

  • Rhoddwyd ychydig yn llai na £23K yn ôl i bobl gafodd eu twyllo trwy drosedd ar garreg y drws

  • Ymchwiliwyd i 12 achos benthyciwr arian didrwydded oedd yn cynnwys £641,000. Rhoddwyd cymorth i 134 o ddioddefwyr, gan ddileu £357,000 o ddyled

  • Symudwyd 134 o geffylau strae oddi ar y briffordd a thir preifat a chyhoeddus. Ailgartrefodd y rhan fwyaf ohonynt trwy elusennau

  • Deliwyd â 5700 o gwynion yn ymwneud â llygredd sŵn ac aer.

  • Adroddwyd am 1312 o achosion o glefydau heintus i'r GRhR a chadarnhawyd 973 o'r achosion hyn trwy brofi.

  • Cyflwynwyd mwy na 1600 o drwyddedau ar gyfer digwyddiadau dros dro neu gymunedol yn ardaloedd y tri awdurdod lleol.

  • Addysgwyd ychydig yn llai na 1,700 o bobl am fenthyca arian anghyfreithlon a chymerwyd £48,000 oddi ar fenthycwyr arian didrwydded gan ei roi i fentrau yn y gymuned i godi ymwybyddiaeth.  

  • Deliwyd â 5700 o gwynion yn ymwneud â llygredd sŵn ac aer.