Bydd y lleoliad newydd yn golygu y dylai'r bobl hynny sy'n mynd i'r digwyddiad ganiatáu 15 neu 20 munud yn ychwanegol er mwyn cyrraedd y lleoliad os ydynt yn cerdded o ganol y ddinas.
Bydd Parc Bute yn cau i'r cyhoedd am 3.00pm Ddydd Sadwrn 4 Tachwedd awr yn gynharach na'r arfer. Bydd yn agor ar yr amser arferol Ddydd Sul 5 Tachwedd.
Bydd gatiau'n agor i ddeiliaid tocynnau ddydd Sadwrn am 4.30pm, bydd yr arddangosiad i blant yn dechrau am 5.45pm a bydd y prif arddangosiad yn dechrau am 7.00pm.
Bydd y fynedfa a'r allanfa i'r digwyddiad ar hyd Pont Y Mileniwm o Erddi Sophia neu bont fynediad cerbydau Parc Bute, sydd gyferbyn â Heol Corbett oddi ar Heol Y Gogledd. Mae map rhyngweithiol o Barc Bute i ymwelwyr ar gael ynwww.bute-park.com
Bydd systemau ciwio ar waith a chaiff tocynnau a bagiau eu gwirio wrth y ddwy fynedfa i'r parc.