The essential journalist news source
Back
31.
October
2017.
Gwasanaeth Coffa ym Mynwent Cathays
Cynhelir gwasanaeth coffa wrth Groes Aberth Beddi Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Cathays Ddydd Mawrth 7 Tachwedd.

Bydd y gwasanaeth, a gaiff ei arwain gan y Parchedig Lionel Fanthorpe, yn dechrau am 2pm a bydd yn cynnwys dau funud o dawelwch wedi’i ddilyn gan fiwglwr unigol yn chwarae’r ‘last post’ a’r ‘reveille’. 

Bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd yn arwain seremoni gosod torchau a chaiff rhestr y gwroniaid ei darllen gan blant o Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Mynydd Bychan ochr yn ochr ag aelodau grŵp Cerdded er Iechyd Cyfeillion Mynwent Cathays.

Meddai’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael:  “Mae’r dynion a merched dewr a roes eu bywydau i helpu i sicrhau'r rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw yn haeddu ein parch a’n coffadwriaeth – mae’r gwasanaeth blynyddol hwn yn deyrnged i’w haberth.”

Dilynir y gwasanaeth gan luniaeth.