The essential journalist news source
Back
27.
October
2017.
Datganiad gan y Cyng. Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth, ynghylch beicio yn y ddinas

 

 

Datganiad gan y Cyng. Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth, ynghylch beicio yn y ddinas

"Eleni bu cynnydd yn nifer y beicwyr ar ffyrdd a llwybrau'r ddinas. Fel cyngor, rydyn ni am i'r nifer barhau i gynyddu wrth i'r rhai sy'n dewis gadael eu ceir gartref gyfrannu at ostwng tagfeydd traffig ac at wella safon yr aer.

"Wrth i ni gyrraedd yr hydref, rydyn ni'n gwybod bod beicio'n dod yn fwy trafferthus. Gyda'r nos yn ymestyn, mae hi'n dywyllach yn ystod oriau cymudo, mae'n fwy tebygol bod dail ar wyneb y ffordd, ei fod yn wlyb neu hyd yn oed bod rhew ar ei hyd yn ystod y tywydd oer.

"Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i helpu'r beicwyr. Felly, rydyn ni wedi gwneud trefniadau newydd er mwyn mynd i'r afael â'r dail a'r malurion ar y prif lwybr beicio oddi ar y ffordd geir, sef Taith Taf. Yn cychwyn yr wythnos yma, bydd y Cyngor yn ysgubo darnau o Daith Taf lle mae'r dail yn cwympo drymaf. 

"Pan ddaw'r gaeaf, mae rhoi halen ar y llwybrau'n ychydig cymhlethach. Yn anffodus, dydy hi ddim yn ymarferol i ni wasgaru'r halen ar hyd y llwybrau â llaw a dydy hi ddim yn bosibl defnyddio cerbydau mawr chwaith. Mae angen hefyd i ni ystyried effaith amgylcheddol rhoi halen ar hyd llwybrau yn ein parciau a rhannau glas y ddinas.

"Rydyn ni'n parhau i ystyried y materion hyn a bydden ni'n croesawu unrhyw syniadau sydd gan bobl.

"Rydyn ni am i feicwyr fod yn ddiogel yn ystod misoedd y gaeaf.  Mae rhoi goleuadau ar y beics, gwisgo dillad gweladwy, sicrhau bod teiars a brêcs yn gweithio'n iawn a chymryd gofal ychwanegol mewn amodau gwael yn hollbwysig.

"Ond yn bwysicaf, rydyn ni'n annog gyrwyr yn gryf i gymryd gofal ychwanegol ac ystyried diogelwch y beicwyr. Rhowch le ychwanegol rhyngoch chi a nhw ac arafwch os oes beicwyr ar y ffordd. Gall hyd yn oed ergydau bychain achosi anafiadau difrifol.

"Dewch i ni weithio gyda'n gilydd i wella Caerdydd fel dinas feicio a Chadw Caerdydd i Symud a'n cadw ni i gyd yn ddiogel."