Back
27.
October
2017.
Gwaith ar yr orsaf fysiau i ddechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd
Gwaith ar yr orsaf fysiau i ddechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei fod yn disgwyl y bydd gwaith ar orsaf fysiau a chyfnewidfa drafnidiaeth newydd y ddinas yn dechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn neithiwr dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, ei fod wedi gofyn i'r datblygwr eiddo, Rightacres, gyflwyno cais cynllunio newydd cyn y Nadolig i fynd i'r afael â rhai o'r diwygiadau i'r man masnachol a fydd wedi'i leoli uwchben yr orsaf fysiau.
Bydd y Cynghorydd Goodway wedyn yn cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ym mis Rhagfyr a fydd yn cadarnhau cyfuniad o ddefnyddiau masnachol uwchben yr orsaf fysiau i'w gwneud yn bosibl ymgymryd â gwaith datblygu yn y Flwyddyn Newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Goodway: "Rwyf wedi gofyn i'r datblygwr gyflwyno diwygiadau i'r cais cynllunio i alluogi'r Cyngor i ystyried gwaith datblygu defnydd cymysg gan gynnwys elfen swyddfa fentrus ar raddfa fach, lletyau rhent preifat, lletyau myfyrwyr a gwesty o bosibl. O ganlyniad i hynny, mae angen i'r Cyngor fod yn ymwybodol ei bod yn fwriad gennyf gyflwyno adroddiad i'r Cabinet ym mis Rhagfyr i gael awdurdod i ymrwymo i gontract er mwyn gwireddu'r cynllun, a fydd i'm meddwl i'n ei gwneud yn bosibl cychwyn gwaith ar y safle yn y gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedais ein bod yn ymrwymo i adeiladu'r orsaf ac mae gwaith sylweddol wedi'i wneud ers hynny i sicrhau y gellir dechrau'r gwaith."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Buom bob amser yn glir o ran ein hymrwymiad i ddarparu gorsaf fysiau ar ochr ogleddol yr orsaf drenau ac mae'r cyhoeddiad hwn, sef y gallai gwaith ddechrau'n gynnar yn y Flwyddyn Newydd, yn dangos i bawb fod cynnydd yn cael ei wneud. Y Sgwâr Canolog yw'r safle ailddatblygu mwyaf yng Nghymru ac mae'r Cyngor wedi chwarae rôl allweddol i'w wireddu. Bydd y ddinas gyfan yn elwa ar y gwaith datblygu hwn ac mae'r orsaf fysiau/y gyfnewidfa drafnidiaeth yn ganolog i'n cynlluniau fel y buon nhw erioed.
Contact
Newyddion CaerdyddCategory