The essential journalist news source
Back
27.
October
2017.
Llai o gwynion yn cyrraedd Cyngor Caerdydd

Llai o gwynion yn cyrraedd Cyngor Caerdydd

 

 

Roedd nifer y cwynion a wnaed i Gyngor Caerdydd yn ystod 2016/2017 bron chwarter yn is na'r flwyddyn flaenorol.

 

Cofnodwyd cyfanswm o 1,787 o gwynion rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, cwymp o 23.5% o'r flwyddyn flaenorol, pan gofnodwyd 2,335 o gwynion.

 

Mae adroddiad newydd, fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ar 2 Tachwedd, yn dangos mai hon oedd y 5ed flwyddyn yn olynol pan fu cwymp yn nifer y cwynion a dderbyniodd y cyngor.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae cwynion yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ynghylch ein perfformiad a barn ein cwsmeriaid ar ein gwasanaethau.

 

"Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cwyno yn dweud wrthym beth sydd wedi mynd o'i le a sut gallwn ni wella.

 

"Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i wella'n gwasanaethau, cryfhau ein perthynas gyda chwsmeriaid a defnyddio'n hadnoddau'n well."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: Mae'n galondid gweld bod cwynion wedi arwain at nifer o welliannau i'n gwasanaethau."

 

Dywedodd hefyd: "Hoffwn ddiolch i'n staff diwyd ac ymroddgar sy'n gweithio ar y rheng flaen ac i'r rhai sy'n delio gyda chwynion. Mae eu gwaith caled nhw'n allweddol i'n llwyddiant a diolch iddyn nhw am y gwasanaeth maen nhw'n ei roi bob dydd yng Nghaerdydd."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Er bod hwn yn adroddiad cadarnhaol, dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau ac rydym wastad am wella."

 

Diffinnir cwyn fel mynegiant o anfodlonrwydd, ym mha ffordd bynnag y'i mynegir, ynghylch safon gwasanaeth, gweithredu neu ddiffyg gweithredu, gan y cyngor neu ei staff, ac sy'n effeithio ar gwsmer unigol neu grŵp o gwsmeriaid.

 

Nid yw cwynion a gofnodir dan y weithdrefn gwyno yn cynnwys sylwadau "tro cyntaf" yr ymdrinnir â nhw fel cais am wasanaeth.

 

Ni fyddai adroddiad am geudwll neu fin sydd ar goll, er enghraifft, yn cael ei gofnodi fel cwyn, ond yn hytrach fel cais am wasanaeth.

 

Os bydd y cyngor yn methu ag ymateb yn briodol i'r cais hwnnw, gallai hynny arwain at gŵyn.

 

Gellir cofrestru cwyn yn unrhyw un o leoliadau'r cyngor a dylid ei hanfon yn ei blaen i reolwr cwynion fydd â'r nod i ymateb iddi o fewn pum niwrnod gwaith.

 

Ar ddiwedd ymchwiliad, dylid cynhyrchu ymateb.

 

Mae rheolwyr cwynion yn y cyngor yn cofnodi gwybodaeth ynghylch nifer y cwynion a dderbynnir ganddynt a pha mor gyflym y cawson nhw eu cydnabod a sut ymatebwyd iddynt. Mae'r wybodaeth hon, wedyn, yn cael ei chyflwyno i'r tîm cwynion corfforaethol ar ddiwedd pob chwarter.

Mae'r tîm yn defnyddio'r wybodaeth i sicrhau bod polisi cwynion y cyngor yn cael ei ddilyn.

 

Mae Ombwdsman Gwasanaethau Cymru hefyd yn edrych ar wybodaeth fanwl ynghylch cwynion yn erbyn y cyngor, ac yn ei chynnwys yn ei adroddiad blynyddol.

Caeodd yr Ombwdsmon 133 o achosion yn ymwneud â'r cyngor yn 2016/2017 o'i gymharu â 143 y flwyddyn flaenorol. O'r achosion hyn, derbyniwyd pedwar i ymchwilio ymhellach iddynt gyda thri ohonynt yn arwain at adroddiad gan yr Ombwdsmon.

 

Derbyniodd yr Ombwdsmon 43 o gwynion cynamserol nad oedd y cyngor wedi derbyn cyfle rhesymol i ddelio â nhw yn gyntaf.

 

Gwrthodwyd 16 o achosion gan fod yr Ombwdsmon yn fodlon gyda'r gweithredu yr oedd y cyngor wedi ei gynnig neu ei gymryd, ac roedd 31 o achosion y tu allan i awdurdodaeth yr Ombwdsmon.