Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i rannu eu barn ar gynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19.
Mae angen i'r Cyngor ddod o hyd i £23 miliwn er mwyn mantoli'r cyfrifon a bydd y Cabinet yn cytuno i ymgynghoriad ar gynigion amlinellol ddydd Iau 2 Tachwedd. Yna bydd ymgynghoriad chwe wythnos gyda'r cyhoedd yn dechrau ddydd Iau 2 Tachwedd tan hanner dydd ddydd Iau 14 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n hynod bwysig bod ein trigolion yn achub ar y cyfle i gyfrannu at broses y gyllideb. Mae gennym syniadau clir ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud ond bydd yr ymgynghoriad chwe wythnos ar y gyllideb yn eu galluogi i ddweud wrthym yr hyn sydd wir o bwys iddynt. Rydym eisiau gwneud y penderfyniadau cynnar a gallwn ond gwneud hynny trwy wrando ar y trigolion."
Yn rhan o'r cynigion, mae'r Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau sy'n cynnwys:
Cynnydd o 3.7% yn y Dreth Gyngor (78c yr wythnos ar eiddo Band D), i godi £4.7 miliwn
Cap o 30% ar bwysau ariannol ysgolion (heblaw am dwf yn nifer disgyblion), i arbed £1.5 miliwn
Defnyddio £2.35 miliwn o arian wrth gefn
Dod o hyd i £14.3 miliwn mewn arbedion a rhagor o gyfleoedd refeniw
Mae cynigion penodol yn cynnwys:
Codi pris prydau ysgol 10c fesul pryd
Codi pris am wasanaeth i ddod o hyd i gartref £10 yn achos cŵn bach ac £20 yn achos cŵn.
Cynyddu'r gost am wasanaethau claddu ac amlosgi £20
Rhoi'r gorau i gyhoeddi papur newyddion chwarterol y Cyngor, ‘Ein Caerdydd'
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Nid oes unrhyw opsiynau rhwydd. Nid yw cyni ariannol wedi dod i ben. Mae ein cynllun yn cynnwys codi'r Dreth Gyngor, ond nid yw'r Dreth Gyngor ar ei phen ei hun yn mynd yn agos at gau'r bwlch. Bydd cynnydd yn ein galluogi i gynnal rhai o'r gwasanaethau y mae ein trigolion yn rhoi gwerth arnyn nhw, a gallai'r rhain gael eu colli fel arall. Mae'r pwysau oherwydd y galw rydym yn ei wynebu yn cael eu harfarnu yn barhaus ac os bydd rhaid i'r Dreth Gyngor godi er mwyn bodloni'r galw hynny, ni allwn ddiystyru rhagor o gynnydd ar hyn o bryd."
"O dan y cynigion hyn, bydd ysgolion yn derbyn £2 miliwn ychwanegol ar gyfer twf y niferoedd y disgyblion a £3.5 miliwn ychwanegol ar gyfer pwysau eraill oherwydd galw, ond - fel y gwnaethom y llynedd - rydym yn gofyn i ysgolion ddod o hyd i rywfaint o arian a fydd yn cyfrannu at bethau fel codiadau cyflog neu filiau gwasanaethau.
"Mae'r ymgynghoriad hwn ac Adroddiad y Cabinet yn rhestru'n strategaeth ar gyfer cyflwyno cyllideb gytbwys. Rydym yn gweithio'n galed i amddiffyn trigolion rhag holl rym y toriadau ac rwyf eisiau iddynt wybod y byddwn yn gwrando ar eu barn.
"Nid oes llawer o amheuaeth bod rhaid i'r Cyngor barhau i foderneiddio a bydd edrych ar sut rydym yn defnyddio technoleg a gwasanaethau digidol i'n helpu i wneud arbedion a gwella perthnasoedd gyda dinasyddion yn chwarae rôl fawr wrth fynd ymlaen.
"Rydym yn gweithio trwy gyfnod hynod heriol yn ariannol. Mae ein poblogaeth yn parhau i dyfu ac mae'r galw am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn tyfu, ond rydym yn cael llai o arian mewn termau real gan y Llywodraeth i ddarparu'r gwasanaethau y mae'n dinasyddion yn eu disgwyl."
Er bod Cyngor Caerdydd wedi derbyn cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru o 0.2% (neu £954,000) ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'r pwysau oherwydd galw sy'n wynebu'r Cyngor oherwydd y twf yn y boblogaeth ac anghydraddoldeb, ynghyd â phwysau drwy gostau megis chwyddiant, yn golygu bod costau darparu gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu'n sylweddol gan arwain at fwlch yn y gyllideb.
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Pe byddai'r ‘Arc Ddeheuol' yng Nghaerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain yn cael ei hystyried yn un awdurdod lleol, hi o bell ffordd fyddai'r dlotaf yng Nghymru." Er gwaethaf hynny, mae Caerdydd yn derbyn y lefel ail isaf o gefnogaeth gan y llywodraeth o holl awdurdodau lleol Cymru. Yn amlwg mae hyn, ynghyd â'r twf yn y boblogaeth rydym yn ei weld, yn creu pwysau aruthrol ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu.
"Mae'n bwysig ein bod yn agored ac yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â'r dewisiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud. Dyna pam rydym eisiau i'n trigolion ddweud eu dweud. Yn amlwg, bydd rhaid gwneud toriadau o hyd ac rwy'n credu bod pobl yn sylweddoli hynny. Mae'n bwysig ein bod yn blaenoriaethau gwasanaethau allweddol a'r ymgynghoriad hwn yw cyfle'r cyhoedd i ddweud wrthym beth sydd o bwys iddynt. Rwyf eisiau annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Mae eich Cyngor yn darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar bawb ledled ddinas - peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael eich clywed."
Gall y cynigion cyllideb drafft, sy'n mynd allan ar gyfer ymgynghoriad, newid cyn pennu'r gyllideb derfynol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Cymerir barn y cyhoedd i ystyriaeth ac felly hefyd effaith setliad terfynol y Cyngor a gaiff ei ddatgelu fis Rhagfyr. Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol a pharhaus gyda bwlch yn y gyllideb o £23 miliwn ar gyfer 2018/19 a diffyg posibl o £73 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny ar ben dros £200 miliwn mewn arbedion y daethpwyd o hyd iddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.
Gall unrhyw drigolion sydd eisiau cymryd rhan yn yr ymgynghoriad wneud hynny trwy edrych ar y ddogfen Newidiadau i Gaerdydd a llenwi'r holiadur ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/cyllideb a fydd ar gael o ddydd Iau, 2 Tachwedd. Bydd copïau caled ar gael i bobl mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a hybiau neu gallwch ofyn am gopi caled trwy e-bostiowww.cardiff.gov.uk/budgetneu ffonio 02920 873854. Am fersiwn lawn o gynigion y gyllideb, darllenwch Adroddiad Cabinet y Cyngor o 2 Tachwedd 2, 2017, ynbudget@cardiff.gov.uk
Hefyd, caiff copïau caled eu dosbarthu i drigolion mewn rhai digwyddiadau cymunedol yn y ddinas. Bydd manylion y digwyddiadau hynny ar gael ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac arwww.caerdydd.gov.uk/cyllideb
Mae Cyngor y Ddinas yn wynebu bwlch yn y gyllideb o £23 miliwn y flwyddyn nesaf (2018/19) a diffyg posibl o £73 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
Daethpwyd o hyd i £200 miliwn mewn arbedion eisoes dros y ddeng mlynedd diwethaf.
Gadawodd 1,600 o gyflogeion amser llawn y Cyngor fel rhan o arbedion cyllidebol yn y cyfnod pedair blynedd 2013/14-2016/17.
Mae'r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru - sy'n cynnwys cynnydd o 0.2% (£954 mil) - ychydig yn fwy ffafriol na'r hyn y gwnaethom gyllidebu ar ei gyfer. Fodd bynnag, mae'n doriad mewn termau real oherwydd chwyddiant a mwy o bwysau oherwydd galw.
Er mwyn llenwi'r bwlch o £23 miliwn yng nghyllideb 2018/19, mae'r Cabinet yn cynnig y canlynol: codi'r Dreth Gyngor 3.7% - 78c yr wythnos ychwanegol yn achos tŷ Band D - i godi £4.7 miliwn net. Dod o hyd i arbedion o £14.3 miliwn; Defnyddio £2.4 miliwn o arian wrth gefn; Cyfyngu twf yng nghyllidebau ysgolion i 30% i arbed £1.5 miliwn.
Ar hyn o bryd, dim ond 27% o'n cyllideb o £587 miliwn sy'n dod o'r dreth gyngor. Bydd cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.7% ychwanegu £4.7 miliwn net, gan ein galluogi i barhau i gyllido rhai o'r gwasanaethau anstatudol y mae trigolion eu heisiau.
Bydd cyllidebau ysgol yn derbyn £2 miliwn at dwf yn nifer y disgyblion a £3.5 miliwn at bwysau eraill, ond rydym yn gofyn iddynt ddod o hyd i rywfaint o arian a fydd yn mynd tuag at bethau megis codiadau cyflog a biliau ynni.
Dros y degawd diwethaf, tyfodd poblogaeth Caerdydd gan 10% (35,000 o bobl) a rhagamcanir y bydd yn tyfu 20% rhwng nawr a 2037. Dros y 20 mlynedd nesaf, bydd poblogaeth Caerdydd yn tyfu fwy na'r 21 o ardaloedd Cyngor eraill yng Nghymru gyda'i gilydd.
Bydd y twf hwn yn rhoi straen ar seilwaith y ddinas ac yn dwysáu galw yn sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd yn codi'r gost am ddarparu'r gwasanaethau hynny, a bydd hynny'n arwain at y bwlch a ragamcanir o £73 miliwn yn y Gyllideb dros y tair blynedd nesaf.
Pe bai'r ‘Arc Ddeheuol' yng Nghaerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain yn cael ei hystyried yn un awdurdod lleol, hi o bell ffordd fyddai'r dlotaf yng Nghymru. Er gwaethaf hynny, mae Caerdydd yn derbyn y lefel ail isaf o gefnogaeth gan y llywodraeth o holl awdurdodau lleol Cymru.
Gall unrhyw drigolion sydd eisiau cymryd rhan yn yr ymgynghoriad wneud hynny trwy edrych ar y ddogfen Newidiadau i Gaerdydd a llenwi'r holiadur ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/cyllideb a fydd ar gael o ddydd Iau, 2 Tachwedd. Bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn dod i ben ddydd Iau 14 Rhagfyr. Bydd copïau caled ar gael i bobl mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a hybiau neu gallwch ofyn am gopi caled trwy e-bostio cyllideb@caerdydd.gov.uk neu ffonio 02920 873854. Am fersiwn lawn o gynigion y gyllideb, darllenwch Adroddiad Cabinet y Cyngor o 2 Tachwedd 2017, yn www.caerdydd.gov.uk/cyllideb.
|
|
|
|
| STRATEGAETH Y GYLLIDEB 2018/19 | £000 | £000 |
|
|
|
|
| Cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.7% | 4,686 |
|
| Ysgolion - cap o 30% ac eithrio twf yn nifer y disgyblion | 1,461 |
|
| Defnyddio arian wrth gefn | 2,350 |
|
|
|
| 8,497 |
| Arbedion |
|
|
| Creu Incwm | 2,900 |
|
| Cydweithredu | 323 |
|
| Prosesau Busnes gan gynnwys digideiddio | 3,726 |
|
| Adolygiad o'r gwariant allanol | 4,546 |
|
| Atal ac Ymyrryd yn Gynnar | 2,801 |
|
|
|
| 14,296 |
|
|
|
|
| STRATEGAETH Y GYLLIDEB |
| 22,793 |
|
|
|
|