Cafodd landlord heb drwydded yng Nghaerdydd ddirwy o fwy na £11,000 ar ôl iddo gyfaddef i nifer o droseddau mewn perthynas â thŷ wyth ystafell wely a rennir yn Grangetown.
Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd y landlord Hazrat Rehman Hakim yn euog i 22 trosedd mewn perthynas â'r tŷ yn Clive Street.
Roedd hynny'n cynnwys 17 trosedd o dan Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006, gan gynnwys peidio â darparu system larwm tân priodol nag amddiffyniad tân strwythurol, cyfleusterau cegin annigonol, diffyg profion ar y nwy a'r trydan, gosodiadau trydan anniogel, ffenestri anniogel, ystafelloedd gwely annerbyniol a defnyddio hen ddiffoddwyr tân.
Y troseddau eraill oedd gweithredu tŷ amlfeddiannaeth trwyddedadwy heb drwydded, peidio â chofrestru fel landlord a pheidio â gwneud cais am drwydded gyda Rhentu Doeth Cymru a pheidio â chydymffurfio â hysbysiadau sy'n gofyn am gyflwyno dogfennau a gwybodaeth.
Yn dilyn yr archwiliad, cafodd un ystafell ei gwahardd rhag ei defnyddio fel ystafell wely oherwydd diffyg ffenestri, un arall oherwydd ei bod yn rhy fach a gwnaethpwyd Gorchymyn Gwahardd arall oherwydd bod y garej yn cael ei ddefnyddio fel fflat. Cyflwynwyd Hysbysiad Gwella hefyd yn gofyn i waith arall gael ei gwblhau.
Dywedodd Mr Hakim, o Corporation Road, Grangetown, a oedd heb gynrychiolydd pan ymddangosodd yn y llys, ei fod wedi prynu'r tŷ gyda'r bwriad o'i osod ar rent i deulu mawr.
Fodd bynnag, ni lwyddodd i ddod o hyd i deulu a gosododd y tŷ i nifer o bobl wahanol.
Gadawodd Pakistan lle'r oedd ei fam yn sâl er mwyn dod yn ôl i roi trefn ar y tŷ ac yna bu farw ei fam.
Clywodd y llys ei fod bellach wedi gwneud rhan fwyaf y gwaith a bod larwm tân ym mhob ystafell.
Mae Mr Hakim bellach wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ac wedi gwneud cais am drwydded o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ogystal, mae wedi gwneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth o dan Ran 2 Deddf Tai 2004.
Cafodd ddirwy o gyfanswm o £11,250, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £250 gyda gordal dioddefwr o £120.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir rhwng Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg: "Mae rheoliadau ar waith am reswm ac mae'r ddirwy a roddwyd gan lys yr ynadon yn anfon neges glir iawn, sef y cymerir y troseddau hyn o ddifri ac ni chânt eu goddef."