The essential journalist news source
Back
25.
October
2017.
Addewid Caerdydd i ddod yn Arloeswr Llysiau Trefol
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd cyntaf yn y DU i dyngu Llw Llysiau fydd yn ei hymrwymo wrth ddefnyddio ei dylanwad i gynyddu faint o lysiau a fwytir.

Mae’r canllawiau diet diweddaraf gan y llywodraeth yn awgrymu y dylem fwyta 7 mesur o ffrwythau a llysiau bob dydd, ond eto dangosodd adroddiad diweddar gan y Sefydliad Bwyd nad yw 80% o oedolion a 95.5% o blant 11-16 oed yn bwyta digon. 

Dywedodd y Cyng Huw Thomas a lofnododd yr addewid ar ran y ddinas mewn Uwchgynhadledd Llysiau a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd ddoe:  “Mae fy ngweinyddiaeth yn benderfynol o fynd i’r afael â phroblem anghyfartaledd iechyd yn ein  dinas.Dyna pam rwy’n falch o allu arwyddo’r addewid hwn, i helpu i roi’r cyfle i breswylwyr wneud dewisiadau mwy iach.Ar gyfartaledd dylem fwyta o leiaf un mesur o lysiau’r dydd yn fwy i leihau perygl o afiechydon sy’n gysylltiedig â’r diet, felly drwy ddod yn ‘ddinas lysiau’ rydym am addysgu ein plant ynghylch pwysigrwydd diet iach, a sicrhau bod ein hysgolion a safleoedd y Cyngor yn cynorthwyo pobl i fwyta mwy o lysiau o leiaf.”

Fel rhan o’r addewid bydd Cyngor Caerdydd yn:

  • Hyrwyddo ymgyrch sy’n anelu at gael plant 5-11 oed i fwyta mwy o lysiau.
  • Parhau i gefnogi sefydlu Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (Bwyd a Hwyl) mewn ardaloedd mewn angen ledled Caerdydd i sicrhau bod plant yn derbyn dau fesur o lysiau gyda’u prif bryd bwyd.
  • Gweithio tuag at gynorthwyo pobl i fwyta dau fesur o lysiau mewn prif brydau a ddarperir gan wasanaethau arlwyo’r Cyngor, yn benodol mewn arlwyo ysgolion, ffreuturau staff a lleoliadau allanol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd:  “Nid tasg hawdd yw cael pobl i fwyta mwy o lysiau a bydd angen i sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymunedol oll i gydweithio.  Diolch i’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gyda’n partneriaid drwy gyfrwng Bwyd Caerdydd. Rydym eisoes wedi derbyn Gwobr Efydd Dinas Fwyd Gynaliadwy a bydd arwyddo’r llw hwn yn mynd â ni yn nes at ein nod ar y cyd o wneud bwyd lleol, iachus, fforddiadwy ac ecogyfeillgar yn un o brif nodweddion Caerdydd”.

Dywedodd Katie Palmer, pennaeth Bwyd Caerdydd:“Rydyn ni’n falch bod rhanddeiliaid ledled y system fwyd yng Nghaerdydd wedi ‘tyngu’r llw llysiau’ ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda sefydliadau yn y ddinas wrth i ni ddatblygu ein hymgyrch i fod yn un o Ddinasoedd Llysiau cyntaf y DU.”