COSBI TWYLLWR BUDD-DALIADAU
Mae tenant twyllodrus a is-osododd ei heiddo cyngor wedi cael gorchymyn cosb gymunedol a gorchymyn i dalu'n ôl dros £800.
Plediodd Jade Nicholls o Croppings Park, Telford, yn euog i drosedd is-osod dan Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 yn Llys yr Ynadon Caerdydd lle cafodd Orchymyn Cosb Gymunedol 12 mis gyda 40 awr o waith di-dâl a gorchmynnwyd iddi dalu gorchymyn elw anghyfreithlon o £807.48 yn ogystal â chostau o £100.
Cafodd Ms Nicholls denantiaid Cyngor, a llofnododd gytundeb i gadarnhau y deallai na chaniateid iddi is-osod ei heiddo a bod yn rhaid iddi ei ddefnyddio fel ei phrif gartref.
Er hyn, hysbysebodd yr eiddo fel un rhent preifat gan is-osod yr eiddo cyfan dan gytundeb tenantiaeth anwir i rywun a dalodd flaendal o £600 a £600 y mis i fyw yno rhwng Ionawr a Mawrth 2016.
Cafodd tîm tai'r Cyngor wybod am hyn a chynhaliwyd ymchwiliad wyth mis gan dîm twyll corfforaethol y Cyngor yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth a arweiniodd at gyflwyno'r mater gerbron llys barn.
Mae'r awdurdod wedi adfeddiannu'r eiddo a is-osodwyd yn anghyfreithlon a'i roi i rywun ag angen tŷ cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Ar adeg o alw cynyddol am dai cymdeithasol yn y ddinas, a chyda thros 8,000 o bobl ar y rhestr aros tai, mae'r achos hwn o dwyll tenantiaeth yn rhwystredig tu hwnt.
"Mae'n dda bod ein tîm tai ac ymchwiliadau wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol, a dylai'r achos hwn fod yn rhybudd i unrhyw un sy'n ystyried is-osod eu heiddo cyfan. Ni chaniateir hyn dan ein cytundebau tenantiaeth.
"Yn anffodus, mae'r person diniwed yr is-osodwyd yr eiddo iddo gan Ms Nicholls wedi dioddef, gan golli ei flaendal. Rydym yn awyddus i weithio gyda thenantiaid ac unrhyw un arall â gwybodaeth am gamddefnydd honedig o denantiaethau i sicrhau bod ein cartrefi'n cael eu rhoi i'r bobl sydd eu hangen fwyaf yn y ddinas."
Mae gan y Cyngor linell gymorth Twyll Tenantiaeth i annog pobl i roi gwybod am unrhyw ddefnydd amhriodol o dai'r Cyngor.
Gall unrhyw un sy'n nabod rhywun sydd wedi is-osod eiddo cyfan, gwerthu'r allweddi i rywun arall, gadael yr eiddo neu roi gwybodaeth anwir i gael tŷ cyngor, roi gwybod amdano gan ddefnyddio ffurflen ar-lein ynwww.caerdydd.gov.ukneu drwy ffonio 029 2087 3500 (24 awr y diwrnod).
Mae modd gwneud adroddiad yn ddienw a bydd y Cyngor yn ymchwilio iddo. Mae'r Cyngor hefyd yn galw heibio eiddo ar hap, yn gofyn am brawf adnabod i helpu i atal twyll tenantiaeth.