Caiff cylchfan Croes Cwrlwys a'r A48 i Tumble Hill wynebau newydd mewn dau gam yn ystod y mis nesaf.
Caiff 6,400m2o'r ffordd wyneb newydd ac mae'r cynllun yn gydbartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.
Mae'r cam cyntaf yn cynnwys arwynebu'r gylchfan. Gan fod hon yn gyffordd fawr i mewn i Gaerdydd a Bro Morgannwg, caiff y gwaith ei wneud gyda'r nos yn unig ac ni chaiff ei wneud ar ddydd Gwener na dydd Sadwrn i leihau'r effaith ar yrwyr yn ystod amseroedd teithio prysur.
O'r dydd Sul hwn (22 Hydref) tan ddydd Iau 26 Hydref, caiff y gwaith ei wneud gyda'r nos rhwng 8.00pm a 6.00am.
Yn ystod yr amseroedd hyn, caiff y gyffordd ei rheoli gyda chyfyngiadau lonydd a chaiff ffyrdd eu cau ond bydd arwyddion clir yn dangos gwyriadau.
Bydd y gwaith wedyn yn parhau o ddydd Sul 29 Hydref hyd at ddydd Iau 2 Tachwedd.
Ar ôl i'r gwaith ar y gylchfan gael ei gwblhau, bydd yr ail gam yn dechrau ar hyd yr A48 o'r gylchfan i Tumble Hill.
Disgwylir y bydd yn cymryd pythefnos i gwblhau'r gwaith. Eto, caiff y gwaith hwn ei wneud rhwng 8.00pm a 6.00am ac ni chaiff ei wneud ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i wella ffyrdd Caerdydd. Pan fydd gwelliannau'n digwydd, mae tarfu ar yrwyr yn anochel ond hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.