Mae Ymgyrch Carwch Eich Caerdydd yn lansio menter newydd i annog pobl i roi o'u hamser i gadw eu cymuned yn lân a thaclus.
Ar 25 Hydref, bydd y Cyngor yn gweithio gyda Cadw Grangetown yn Daclus i lansio digwyddiad yn Hyb Grangetown i greu rhagor fyth o hyrwyddwyr atal 'sbwriel. Mae croeso i bob un o drigolion Grangetown.
Syniad y fenter yw rhoi'r hyfforddiant angenrheidiol i drigolion a rhoi offer casglu ‘sbwriel ar gael iddyn nhw'n uniongyrchol o'r Hyb. Fe gân nhw lofnodi eu bod yn benthyg yr offer am hyd at bythefnos. Wedi iddyn nhw gwblhau'r hyfforddiant, byddan nhw'n hyrwyddwyr atal ‘sbwriel.
Bydd crysau melyn llachar, menig diogelwch, ffyn a chylchoedd casglu ‘sbwriel, bagiau pinc a gwyrdd a phecynnau cymorth cyntaf ar gael i'r hyrwyddwyr atal ‘sbwriel eu defnyddio.
Mae'r Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu yn awyddus i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Mae criw Cadw Grangetown yn Daclus wedi bod yn gweithio'n galed â'r Cyngor ers tro, ond yn aml nid oes modd i'r gwirfoddolwyr gasglu 'sbwriel gyda'r Cyngor yn ystod yr wythnos waith oherwydd ymrwymiadau eraill.
"Syniad y fenter newydd yw rhoi offer codi ysbwriel ar gael i'r gwirfoddolwyr iddyn nhw allu trefnu codi ‘sbwriel yn eu cymunedau pan fo hynny'n gyfleus iddyn nhw.
"Pan ddôn nhw'n hyrwyddwr atal ‘sbwriel, cân nhw gerdyn llyfrgell sy'n caniatáu iddyn nhw ddod i'r Hyb i gasglu'r offer fel y mynnen nhw.
"Yr hyn rydyn ni'n ei ofyn yw bod y gwirfoddolwyr yn defnyddio'r offer sydd ar gael pan ân nhw i gasglu 'sbwriel, dweud wrthym am unrhyw ddeunydd perygl megis gwydr wedi torri, nodwyddau, baw ci neu dipio anghyfreithlon a pheidio â cheisio casglu'r eitemau hynny.
"Bydd taflen gofrestru hefyd ar gael er mwyn i'r gwirfoddolwyr gofnodi'r adegau yr ân nhw i gasglu 'sbwriel fel eu bod nhw'n gwybod sawl bag maen nhw wedi ei gasglu. Dylen nhw roi'r bagiau llawn 'sbwriel wrth ymyl y biniau 'sbwriel yn yr ardal i staff y Cyngor eu casglu.
"Os yw'r fenter yn llwyddiannus, byddwn ni'n edrych ymlaen at ehangu'r cynllun i ardaloedd eraill y ddinas yn y flwyddyn newydd."
Bydd y digwyddiad ar 25 Hydref yn cychwyn gyda chasgliad ‘sbwriel am 10:00am ac yna cyfle i gwrdd a chael lluniaeth ysgafn yn yr Hyb.
Dylai trigolion sydd am gymryd rhan e-bostiocarwcheichcaerdydd@caerdydd.gov.uk.