Caiff BENTHYCIWR ARIAN DIDRWYDDED - Robert Gareth Sparey, 55 oed o'r Gilgant yng Nghaerffili ei ddedfrydu am lu o droseddau ar 1 Rhagfyr yn Llys y Goron Caerdydd.
Yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd mawrth, plediodd Mr Sparey'n euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon dros 20 mlynedd, gwyngalchu arian, torri Deddf Nodau Masnach 1994 a cheisio gwyro cwrs cyfiawnder.
Targedodd y benthyciwr arian didrwydded bobl agored i niwed ym Mharc Lansbury, sef cymuned fwyaf difreintiedig Cymru.
Pan ymddangosodd yn Llys yr Ynadon Casnewyddddiwethaf, cafodd Mr Sparey fechnïaeth amodol ac eglurwyd iddo na chaiff roi unrhyw fenthyciadau, casglu unrhyw arian ac nad oedd ganddo ganiatâd i fynd at unrhyw un o dystion yr erlyniad, cyfathrebu â nhw nac amharu arnynt.
Rhoes Cofnodydd Caerdydd, Eleri Rees, amodau mechnïaeth ychwanegol heddiw yn gorchymyn fod yn rhaid i Mr Sparey wisgo'i dag electronig a gosodwyd cyrffyw iddo orfod bod yn ei eiddo rhwng 8pm a 6am. Gorchmynnwyd iddo hefyd ildio'i basbort erbyn 4pm ddydd mawrth.
Eglurodd Eleri Rees i Mr Sparey na all ddisgwyl ‘dedfryd warchodol hirhoedlog ar unwaith' a phe torrid unrhyw un o amodau'r fechnïaeth y câi ei ddanfon i'r carchar hyd ddyddiad y dedfrydu.
Os oes unrhyw un yn dioddef dan law benthyciwr arian didrwydded, dylent gysylltu ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ar 0300 123 3311.