The essential journalist news source
Back
13.
October
2017.
Cyngor teithio ar gyfer gornest Pwysau Trwm y Byd yng Nghaerdydd ar 28 Hydref

Cyngor teithio ar gyfer gornest Pwysau Trwm y Byd yng Nghaerdydd ar 28 Hydref

Mae Network Rail wedi rhoi gwybod am waith uwchraddio ar y brif linell rhwng Llundain a Chaerdydd sydd wedi’i chynllunio, ac y bydd llai o drenau’n teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn 28 Hydref. Ni fydd unrhyw drenau yn ôl i Lundain na Bryste ar ôl yr amser y disgwylir i’r ornest ddod i ben.

Nid yw Trenau Arriva Cymru yn cael ei effeithio gan y gwaith hwn ar y brif linell a bydd yn darparu gwasanaeth lleol gwell nag arfer gan gynnwys rhagor o gerbydau ar wasanaethau i sicrhau bod modd cludo cynifer o bobl â phosibl i mewn i Gaerdydd ac allan ar y diwrnod.

Mae Trenau Arriva Cymru hefyd yn annog teithwyr i edrych ar wefan www.trenauarriva.cymru cyn teithio.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau trenau, gweler isod

Bydd holl strydoedd canol y ddinas ar gau ar gyfer un o gemau bocsio mwyaf erioed yng Nghaerdydd.

Mewn gornest y disgwylir iddi ddenu cynulleidfa fyd-eang anferth, bydd Anthony Joshua yn herio Carlos Takam yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar 28 Hydref.

Gyda disgwyl gwerthu’r cwbl o’r 75,000 o docynnau, mae’r awdurdodau yn cynghori pob deiliad tocyn i gynllunio rhag blaen ar gyfer y digwyddiad, cynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd Cymru a Chaerdydd mewn da bryd.

Cynghorir y rheiny fydd yn cyrraedd mewn car i gadw lle yn y lleoliad Parcio a Theithio drwy ddilyn y ddolen hon - https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Ar Ddydd Sadwrn 28 hydref fe fydd ffyrdd canol y ddinas yng Nghaerdydd wedi eu cau yn llwyr o 4pm tan 1am.

Bydd Cyngor Caerdydd yn ailagor y ffyrdd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r bocsio orffen.  

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Bydd y ffyrdd canlynol ynghau fel rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:

·         Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.

·         Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.

·          Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).

·         Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â StrydTudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).

·         Heol Saunders o’i gyffordd â Heol Eglwys Fair

·         Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).

·         Heol Penarth o’i gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

·         Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau:  


Y Ganolfan Ddinesig  Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Rhodfa’r Heol y Coleg a Gerddi’r Orsedd.

Noder: 
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, ynghyd â chyfyngiadau ar lonydd gerllaw Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau nes bod y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Bydd y Parcio a Theithio wedi ei leoli ar y safle ym Mhentwyn (Dwyrain Caerdydd). Bydd yr archebion yn cael eu monitro yn ofalus gan yr awdurdodau gan fod modd cynyddu nifer y ceir i 4000 mewn lleoliadau gwahanol.

Yn sgil y galw mawr disgwyliedig pan aiff y tocynnau ar werth, pwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw yw’r cyngor gan y Stadiwm a darparwyr yr holl gludiant a thrafnidiaeth yng nghanol y ddinas. 

Gyda gwiriadau diogelwch mwy manwl yn digwydd yn Stadiwm y Principality, dylai deiliad pob tocyn ddisgwyl cael ei archwilio yn y lleoliad.

Anogir cefnogwyr paffio felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i’r rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd yma principalitystadium.wales cyn prynu tocynnau.

Mae canllaw i gefnogwyr ar gael i’w lawrlwytho yn: http://www.principalitystadium.wales/events/v/joshua-v-pulev-2017-10-28

 

 Mae disgwyl i’r gatiau agor am 5pm, gyda’r ornest gyntaf ar y noson i gychwyn tua 7pm tra bydd y brif ornest oddeutu 10.30pm.

Parcio a Theithio

Ceir – mae mynediad i’r parcio a theithio oddi ar gyffordd J29 yr M4

Parcio a theithio Dwyrain Caerdydd (Pentwyn) (600 o lefydd rhag archebu yn unig)

Cyrraedd yno: Mynediad oddi ar gyffordd 29 yr M4, yna dilyn yr arwyddion i’r safle.

Man gollwng: Plas Dumfries

Pellter o ganol y ddinas: 4.5 milltir (18 to 20 mun)

Cost: £10.

I rag-archebu eich parcio a theithio, cliciwch ar https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Dylai cwsmeriaid Parcio a Theithio ddilyn yr arwyddion i’r safle pan fyddant yn cyrraedd.

Bydd staff yn y meysydd parcio o 9am a byddant yn agor am 9am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 9.30am.  Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 12.30am a bydd y maes parcio’n cau am 1am.

Caiff safleoedd Parcio a Theithio eu hychwanegu i’r safle Parkjockey yn ôl yr angen. Byddwn yn cynnig Neuadd y Sir (500 o leoedd), ac yna yn edrych i ychwanegu safleoedd eraill ychwanegol fydd yn derbyn traffig o gyffordd 29/A48/Rover Way/ Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae fydd yn golygu y gallwn gynyddu nifer y lleoedd parcio i geir i 4000 o lefydd.

Mae Dinas Caerdydd yn chwarae adref yn erbyn Millwall FC ar y diwrnod hwnnw a chynghorir yr holl draffig pêl-droed i ddefnyddio cyffordd 33 oddi ar yr M4 i Lecwydd.

Trenau

Network Rail

Mae Network Rail wedi rhoi gwybod am waith uwchraddio ar y brif linell rhwng Llundain a Chaerdydd sydd wedi’i chynllunio, ac y bydd llai o drenau’n teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn 28 Hydref. Ni fydd unrhyw drenau yn ôl i Lundain na Bryste ar ôl yr amser y disgwylir i’r ornest ddod i ben.

Nid yw Trenau Arriva Cymru yn cael ei effeithio gan y gwaith hwn ar y brif linell a bydd yn darparu gwasanaeth lleol gwell nag arfer gan gynnwys rhagor o gerbydau ar wasanaethau i sicrhau bod modd cludo cynifer o bobl â phosibl i mewn i Gaerdydd ac allan ar y diwrnod.

Mae Trenau Arriva Cymru hefyd yn annog teithwyr i edrych ar wefan www.trenauarriva.cymru cyn teithio.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau trenau, gweler isod

Mae Network Rail wedi ein cynghori ar waith i uwchraddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd a Llundain. Bydd llai o drenau yn teithio i Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 28 Hydref, ac ni fydd unrhyw drenau yn ôl i Lundain na Bryste wedi adeg diwedd disgwyliedig yr ornest.

Ar Ddydd Sul 29 Hydref bydd gwasanaethau yn ail-afael, gyda bysiau yn rhedeg rhwng Gorsaf Ganolog Caerdydd a Chasnewydd.

 Bydd y gwaith gwella ar y rheilffordd yn golygu y bydd yn rhaid gwyro trenau a chyflwyno gwasanaethau bws ar rai llwybrau.

Great Western Railway

Gaerdydd ar Ddydd Sadwrn 28 Hydref

O Paddington, Llundain

Un trên yr awr i Caerdydd Canolog a fydd yn rhedeg heb stopio rhwng Swindon a Chasnewydd ar hyd llwybr wedi ei wyro. Ni fydd y trenau hyn yn galw yn Bristol Parkway.

Ni fydd unrhyw drenau i Lundain wedi diwedd tebygol yr ornest.

O Fryste, Taunton a Portsmouth

Bydd trenau o Taunton, A Harbwr Portsmouth yn terfynu yn Bristol Parkway. Bydd gwasanaeth cyflenwi yn rhedeg o Bristol Parkway i Gasnewydd, i ddal trenau fydd yn mynd i Gaerdydd.

Ni fydd unrhyw drenau i gyfeiriad Bryste wedi diwedd tebygol yr ornest.

O Gaerdydd Ddydd Sul 29 Hydref

I Paddington Llundain wedi 1pm

Un trên yr awr o Caerdydd Canolog a fydd yn rhedeg heb stopio rhwng Casnewydd a Swindon ar hyd llwybr wedi ei wyro. Ni fydd y trenau hyn yn galw yn Bristol Parkway.

I Fryste, Taunton a Portsmouth

Bydd gwasanaethau cyflenwi ar fysiau yn rhedeg o Gasnewydd i Bristol Parkway, er mwyn dal trenau cysylltiol i Bristol Temple Meads, Taunton a Harbwr Portsmouth.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrne ymlaen llaw yma: www.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Llinell Deithio Cymru ar 0800 464 0000.

Bydd gan Trenau Arriva Cymru wasanaeth lleol cryfach, gyda cherbydau ychwanegol ar wasanaethau i sicrhau bod digon o gapasiti pobl i bobl sy’n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd y diwrnod hwnnw.

Ond hyn a hyn o wasanaethau trên lleol fydd ar ôl y digwyddiad ac o ganlyniad dylai cwsmeriaid fynd i www.arrivatrains.wales cyn teithio.

 

Traffyrdd a phriffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur.

Efallai y byddai’r rheiny nad oes ganddynt docynnau am ystyried osgoi y prif ffyrdd i Gaerdydd ar Ddydd Sadwrn 28 Hydref, a chynllunio teithiau ar y draffordd yn yr un modd.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy’n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos fod 52% o’r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud..

 Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.

 Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Soffia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm y Principality, Gât 2).

Parcio Digwyddiad Gerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i’w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Maes parcio yn agor am 8am a chau am hanner nos

Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 11.30pm, gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni ellir dal Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Bydd unrhyw gerbydau gaiff eu gadael yn y maes parcio wedi’r amser cau yn derbyn dirwy.

Canolfan Ddinesig (ceir, bysiau mini a bysiau)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm y Principality, Gât 2).

Parcio Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4, anelu tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £12 os yn archebu ar-lein rhag blaen neu £15 i’w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Maes parcio yn agor am 8am a chau am hanner nos

I rag-archebu eich parcio, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (ceir yn unig).

Parcio Digwyddiad Canolfan Ddinesig (bysiau a bysiau mini)

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4, anelu tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 i’w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Maes parcio yn agor am 8am a chau am hanner nos

Parcio i’r Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae Parcio i’r Anabl ar gael hefyd mewn amryw feysydd parcio preifat. Gwiriwch wefannau unigol i weld beth sydd ar gael.

Tacsis  

Bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair ( y tu allan i House of Fraser) yn cau o 3pm ymlaen ac yn ail-agor am 12.30am.
 
Bysus

Bysus lleol
Caiff bysus lleol eu dargyfeirio o arosfannau canol y ddinas. Bydd bysus wedi’u dadleoli o arosfannau o fewn  yr ardal sydd wedi’i chau yn cael eu hail-leoli naill ai ar Ffordd Churchill ar gyfer y dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y gogledd neu Tudor Street ar gyfer y gorllewin.  
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol am ragor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express

Byd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn ôl yr angen.