Glywsoch chi am y chwedl adnabyddus am 500 o feirdd a ddienyddiwyd gan y Brenin Edward I am beidio â chanu mawl iddo mewn gloddest yng Nghastell Trefaldwyn ym 1277
Os ateboch chi "do", yna mae'n debyg eich bod o Hwngari!
János Arany (1817 - 1882), un o feirdd enwocaf Hwngari y dethlir ei ddauganmlwyddiant eleni a wnaeth y digwyddiad yn adnabyddus. Caiff ei adnabod fel y "Shakespeare Hwngaraidd", a gwelai gyffelybiaeth rhwng stori'r beirdd a'r gormes a wynebai'r Hwngariaid a oedd yn byw dan law Brenhiniaeth Hapsburg yn ystod y G18.
Gofynnwyd iddo weithio cerdd yn ystod ymweliad yr Ymerawdwr o Awstria, Franz Josef, ond gwrthododd ac yn lle hynny ysgrifennodd faled epig ‘A Walesi Bárdok' (Beirdd Cymru). Ar ei chyhoeddi ym 1863 - wedi ei chuddio fel cyfieithiad o hen faled Saesneg i osgoi sensoriaeth - daeth y gerdd yn symbol o wrthsafiad goddefol yn erbyn y drefn roedden nhw yn ei chasáu ac mae disgyblion ysgol Hwngari yn parhau i ddysgu'r gerdd hyd heddiw.
I ddathlu daucanmlwyddiant Arany, bydd sioe oleuadau fywiog a drefnwyd gan y Ganolfan Ddiwylliannol Hwngaraidd yn Llundain ac wedi ei dylunio gan yr artistiaid gweledol, Glowing Bulbs, yn goleuo wyneb blaen Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng nghanol Caerdydd bedair gwaith yr awr o 7pm-10pm ar ddydd Sadwrn 21 Hydref.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgu am y stori afaelgar y tu cefn i ‘Beirdd Cymru'. Mae'r dechnoleg mapio fideo blaengar a ddefnyddir yn y gosodiad celf, ynghyd â chreadigrwydd Glowing Bulbs, yr artistiaid gweledol o Hwngarai â'i datblygodd, yn golygu ei bod yn argoeli'n ddathliad llachar o fywyd János Arany a'r cysylltiadau rhwng diwylliant Hwngari a Chymru."
Dyddiad ac Amser
Dydd Sadwrn 21 Hydref, 4 gwaith yr awr rhwng 7pm a 10pm
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, 3 John Street, Caerdydd, CF10 1GJ
(Diwedd)
Swyddog y Wasg Dinas Caerdydd David Harris Ffôn: 029 2087 2409
E-bost:davidharris@caerdydd.gov.uk
NODIADAU I OLYGYDDION
Am fwy o wybodaeth am yr artistiaid gweledol,Glowing Bulbsewch i:www.glowingbulbs.comneuhttps://www.youtube.com/user/izzovizio/featured
Mae'rGanolfan Ddiwylliannol Hwngaraidd yn Llundain(HCC) yn un o 25 o sefydliadau diwylliannol Hwngaraidd ledled y byd. Agorwyd yr HCC ym 1999 yn Covent Garden, calon ddiwylliannol Llundain, ymhell cyn i Hwngari ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Nod y Ganolfan Ddiwylliannol Hwngaraidd yw cael pobl i ymgyfarwyddo â pherlau Hwngari, tanlinellu'r gwerthoedd y mae Hwngari wedi eu hetifeddu gan ddiwylliannau eraill ar y naill law ac ar y llaw arall tynnu sylw at rôl Hwngari fel pont ar gyfer perthnasoedd rhyngddiwylliannol a diplomyddiaeth ddiwylliannol.http://www.london.balassiintezet.hu/en/