Bydd Cyngor Caerdydd yn pennu timau i lanhau dail o strydoedd y ddinas o ddydd Llun (9 Hydref) ymlaen.
Mae'r timau'n targedau ardaloedd prysur lle mae llawer o ddail yn disgyn ymhob ward unwaith y pythefnos, gan hefyd flaenoriaethu ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd dŵr wyneb.
Mae dail yn tueddu i ddisgyn o'r coed yn ystod mis Tachwedd ond byd dy tîm yn gweithio o 9 Hydref tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Fel rhan o'r amserlen, bydd rhai strydoedd yn rhan o raglen parcio dreigl, lle bydd y Cyngor yn gofyn i drigolion beidio â pharcio ar y stryd ar ddiwrnod penodol fel y gall yr adran briffyrdd a'r timau glanhau glirio'r strydoedd. Mae'r Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu, wedi cymeradwyo'r cynllun ac mae'n gofyn i drigolion sy'n byw ar y ffyrdd dan sylw symud eu ceir cyn y diwrnod clirio dail dynodedig.
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Ar rai strydoedd yn Nhreganna, Glan-Yr-Afon, Grangetown, Y Mynydd Bychan, Plasnewydd a Cathays, mae angen i bobl symud eu cerbydau o'r stryd fel y gallwn ysgubo'r dail. Rhoddir rhybudd ymlaen llaw. Ar yr un pryd, bydd swyddogion o'n hadran ddraenio'n gweithio mewn partneriaeth â chriwiau glanhau i sicrhau bod pob draen yn cael ei glirio. Ar ddiwedd y dydd, os na chaiff y ceir eu symud, ni allwn lanhau'r dail na'r draeniau.
"Yn rhan o Ymgyrch Carwch Eich Cartref, mae ysbryd cymunedol trigolion yn amlwg wrth iddynt weithio gyda'r cyngor i gadw eu cymunedau'n lân ac yn daclus. Ddydd Sadwrn diwethaf, yn Oakfield Streef ym Mhlasnewydd, helpodd 24 o drigolion glirio dros 70 bag o ddail.
"Mae hefyd gyfres o ddigwyddiadau clirio cymunedol yng Nglan-yr-afon ym mis Hydref a Thachwedd a hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion sy'n cymryd rhan. Gofynnir i unrhyw un a hoffai gyfrannu neu drefnu grŵp cymunedol fynd ihttps://www.keepcardifftidy.com/volunteering/"
O 9 Hydref, bydd timau'n glanhau strydoedd yn Rhiwbeina, Cathays, Llanisien, Llys-Faen, Gabalfa, Pentwyn, Yr Eglwys Newydd, Tongwynlais, Y Tyllgoed, Creigiau a Sain Ffagan, Gwaelod-y-Garth, Pentyrch, Radur a Threganna.
Yr wythnos ganlynol, o 16 Hydref caiff rhannau o'r Mynydd Bychan, Plasnewydd, Sblot, Adamsdown, Cyncoed, Pen-y-lan, Trelái, Caerau, Llandaf, Ystum Taf, Glan-yr-afon a Grangetown eu clirio. Caiff yr amserlen hon ei hailadrodd bob pythefnos.
Yn ogystal â'r gwaith hwn a gwaith glanhau arferol, bydd hefyd Tîm Llwybrau Cyflym fydd yn mynd i rannau penodol o'r ddinas lle mae llifogydd yn rheolaidd.