Back
28.
September
2017.
Cau ffyrdd ym Mae Caerdydd rhwng 3.15pm a 4.15pm dydd Llun (2 Hydref)
Bydd cerflun o Mohandas Karamchand Gandhi yn cael ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd am tua 3.20pm ddydd Llun 2 Hydref.
Bydd y cerflun yn cael ei godi yn y Flourish yn agos at Crefft yn y Bae.
Mae'n bosib y bydd rhaid cau ffyrdd oherwydd rhesymau diogelwch, yn dibynnu ar nifer y bobl fydd yn dod i'r digwyddiad.
Rhwng 3.15pm a 4.15pm mae'n bosib y caiff y ffyrdd canlynol eu cau:
Plas Bute - y gyffordd gyda Stryd Pen y Lanfa
Rhodfa Lloyd George - y gyffordd gyda Plas Bute
Pen isaf y Flourish y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru
Os bydd rhaid cau ffyrdd, bydd yr holl draffig sy'n teithio tua'r de yn cael ei gyfeirio tuag at Stryd Pen y Lanfa.
Contact
Newyddion CaerdyddCategory