Ras Feicio Taith Prydain Ovo Energy yn gorffen yng Nghaerdydd
Caerdydd fydd yn cynnal cam olaf ras feicio Taith Prydain OVO Energy am y tro cyntaf erioed ar 10 Medi.
Bydd y ras mawr ei bri, gan gynnwys y cystadleuwyr Geraint Thomas a Mark Cavendish, yn cyrraedd pen y daith y tu allan i Neuadd y Ddinas yn y Ganolfan Ddinesig am oddeutu 4pm ar 10 Medi.
Bydd hynny'n rhoi'r cyfle i drigolion a dilynwyr byd beicio i ddod i wylio'r timau beicio a'r beicwyr unigol gorau yn y byd yn cystadlu ym mhrifddinas Cymru.
Caiff gwylwyr sydd am weld y rhai cyntaf i orffen eu cynghori i gyrraedd Neuadd y Ddinas mewn da bryd oherwydd gallant groesi'r llinell derfyn ychydig ar ôl 3pm - ond mae hynny'n dibynnu ar yr amodau ar y dydd a pha mor gyflym y cwblhawyd y cam dan sylw.
Cychwynnodd y ras yng Nghaeredin ar y 3 Medi ac mae cyfanswm o wyth cam yn ystod y digwyddiad.
Mae'r beicwyr yn dilyn llwybrau mewn ardaloedd gwahanol yn y DU gan gynnwys Caeredin, Northumberland, Gogledd Swydd Lincoln, Swydd Nottingham, Essex, Suffolk, Hampshire, Swydd Gaerloyw, Swydd Gaerwrangon a Chaerdydd.
Yn ystod yr wythfed cam o'r ras, bydd beicwyr yn teithio o Gaerwrangon gan gyrraedd Caerdydd o'r dwyrain.
Oherwydd hynny, caiff ffyrdd eu cau fesul un o 2pm gan gynnwys Wentloog Avenue, Ffordd Lamby, Rover Way, Ocean Way, East Tyndall Street a Stryd Herbert.
Ar ôl hynny, bydd y beicwyr yn cyrraedd Rhodfa Lloyd George, ac yn dechrau cylch rasio rhwng Bae Caerdydd â'r Ganolfan ddinesig. Bydd y beicwyr yn dilyn y cylch deirgwaith cyn gorffen ger Neuadd y Ddinas.
I gael rhagor o wybodaeth am gam wyth, ewch i:http://www.tourofbritain.co.uk/stages/stage-eight/
Mae trigolion sy'n byw ar ffyrdd ar lwybr y ras wedi cael llythyr ynghylch y ffyrdd fydd ynghau. Mae'r llythyr wedi eu cynghori y bydd y ffyrdd yn cau o 5am y bore ond bydd mynediad i breswylwyr hyd nes dechrau'r ras am 2pm.
I hwyluso'r digwyddiad, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 5pm ac 8pm
Heol y Gogledd ar y gyffordd â Column Road. Caiff mynediad ei gynnal at leoliadau ar hyd Ffordd y Gogledd tan 2pm.
Heol Corbett o'r gyffordd â Plas-y-Parc/Column Road i'r gyffordd â Heol y Gogledd. Caiff mynediad ei gynnal at Queen Anne Square drwy Plas-y-Parc/Column Road.
Boulevard de Nantes. Caiff mynediad i fysiau a cherbydau at Heol y Brodyr Llwydion ei gynnal.
Ffordd y Brenin tua'r de ar y gyffordd â Heol y Brodyr Llwydion.
Dukes Street a Stryd y Castell.
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen ar y gyffordd â Heol y Gadeirlan/ Heol y Gadeirlan Isaf.
Heol y Porth. Bydd gwaelod Heol y Porth yn cael ei gau ond caiff mynediad ei gynnal at ochr y gogledd tan 2pm ac oddi yno, ond ni fydd traffig trwodd rhwng 5am ac 8pm.
Stryd y Cei a Stryd Womanby. Caiff mynediad at y maes parcio ei gynnal tan 2pm.
Plas y Neuadd, Heol y Cawl a Stryd y Popty. Caiff mynediad ei gynnal tan 2pm.
Y Gwter. Caiff mynediad ei gynnal tan 2pm.
Tudor Street ar y gyffordd â Clare Road/Clare Street. Caiff mynediad at Tudor Street ei gynnal.
Wood Street.
Heol y Parc a Heol Scott. Caiff mynediad ei gynnal tan 2pm.
Havelock Street.
Heol Eglwys Fair ar y gyffordd â Stryd Wood ac ar y gyffordd â Ffordd Tresillian.
Caroline Street.
Bydd Heol Penarth ar gau ar y gyffordd â'r Allanfa i Faes Parcio Network Rail. Caiff mynediad ei gynnal at Heol Saunders.
Heol y Tollty. Caiff mynediad ei gynnal i gerbydau at Lôn y Felin.
Bydd Ffordd Tresillian ar gau ar y gyffordd â Heol Penarth/Dumballs Road.
Sgwâr Callaghan a Stryd Hope.
Stryd Bute ar y gyffordd â Bute Terrace i'r gyffordd â North Church Street. Caiff mynediad ei gynnal at John Street drwy Rodfa Bute.
Tyndall Street. Caiff mynediad ei gynnal at Schooner Way ac Ellen Street ar hyd y Ffordd Gyswllt Ganolog ac East Tyndall Street.
Stryd Herbert.
Rhodfa Lloyd George. Caiff mynediad ei gynnal tan 2pm.
Velacott Close, Heol Letton, Silurian Place, Glanhowy Close a Ffordd Garthorne. Caiff mynediad ei gynnal ar hyd Rhodfa Lloyd George tan 2pm.
Bydd Heol Hemingway ar gau ar y gyffordd â Schooner Way i'r gyffordd â Stryd Bute. Caiff traffig ar Stryd Bute adael tua'r de ar hyd West Bute Street a bydd system rheoli traffig AROS/MYND ar waith.
Pier Head Street ar y gyffordd â Caspian Way/Falcon Drive i'r gyffordd â Phlas Bute. Caiff mynediad ei gynnal at Blas Bute/Cei Britannia/Rhodfa'r Harbwr.
Plas Bute ar y gyffordd â Pier Head Street i'r gyffordd â Stryd Bute/James Street.
Yn ystod gwaith i osod a datgymalu seilwaith y digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o hanner nos ar 9 Medi tan 9pm ar 10 Medi.
Oherwydd hynny, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Rhodfa'r Brenin Edward V11, Heol y Coleg a Gerddi'r Orsedd.