Mae ras 10K Aren Cymru, y mae'r holl docynnau wedi'u gwerthu ar ei chyfer, yn dod yn ôl i Gaerdydd ddydd Sul a bydd y sawl sy'n rhedeg yn dilyn llwybr newydd.
Ddydd Sul 3 Medi, bydd y ras 2 gilomedr i deuluoedd yn dechrau am 9.15am, a bydd y ras 10 cilomedr yn dechrau am 10am.
Bydd ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer y digwyddiad hwn oherwydd bydd mwy na 8000 o redwyr yn cymryd rhan ynddo.
Ddydd Sadwrn 2 Medi, caiff Rhodfa'r Brenin Edward VII ei chau rhwng Heol y Coleg a Heol Neuadd y Ddinas er mwyn gwneud paratoadau ar gyfer y digwyddiad. Bydd staff yn bresennol er mwyn agor y parc i'r cyhoedd yn y Ganolfan Ddinesig, ond ni fydd modd parcio dros nos.
Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Heol Wedal ar gau drwy gydol dydd Sul ond bydd CAGC Ffordd Lamby a Bessemer Close ar agor.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar ddiwrnod y ras, a dyma'r amseroedd cau'n fras:
Rhwng 5am a 2pm:
Rhodfa'r Amgueddfa
Gerddi'r Orsedd
Heol Neuadd y Ddinas
Heol y Coleg
Rhodfa'r Brenin Edward VII.
Rhwng 8.30am ac 1pm:
Heol Corbett (bydd ffordd yn cael ei chadw ar agor i drigolion Queen Anne Square drwy Heol y Gogledd)
Plas-y-Parc o'r gyffordd â Cathays Terrace i'r gyffordd â Maes St Andrew.
Rhwng 9.30am a 12.30pm:
Cathays Terrace, Fairoak Road a Ninian Road
Penylan Road o'r gyffordd â Ninian Road i'r gyffordd â Kimberley Road
Ty-Draw Road ac Alder Road
Lake Road East o'r gyffordd â Tŷ-Draw Road i'r gyffordd â Cefn-Coed Road
Lake Road West o'r gyffordd â Highfield Road i'r gyffordd â Ninian Road.
Oherwydd y bydd y ffyrdd uchod ar gau, bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau rhwng 8.30 ac 1.30pm ond bydd ffyrdd i mewn yn cael eu cadw ar agor i drigolion a busnesau.
Column Road
Whitchurch Road o'r gyffordd ag Allensbank Road i'r gyffordd â Cathays Terrace
Heol Wedal a Penylan Road o'r gyffordd â Melrose Avenue i'r gyffordd â Tŷ-Draw Road
Wellfield Road, Marlborough Road o'r gyffordd â Blenheim Road i'r gyffordd â Penylan Road
Sandringham Road o'r gyffordd â Blenheim Road i'r gyffordd â Penylan Road
Westville Road o'r gyffordd â Blenheim Road i'r gyffordd â Penylan Road
Kimberley Road o'r gyffordd â Blenheim Road i'r gyffordd â Penylan Road
Lady Mary Road o'r gyffordd â Maryport Road i'r gyffordd â Lake Road East
Crwys Road o'r gyffordd ag Albany Road i'r gyffordd â Cathays Terrace
Catherine Street o'r gyffordd â Woodville Road i'r gyffordd â Cathays Terrace
Maindy Road o'r gyffordd â Minister Street i'r gyffordd â Cathays Terrace