Gosodwyd arwyneb newydd ar ffyrdd ledled y ddinas i sicrhau eu bod mewn cyflwr da.
Yn y DU mae gwerth £14 biliwn o waith ffyrdd yn aros i'w wneud. Fel pob dinas arall yn y DU, mae'n rhaid i Gaerdydd bennu blaenoriaethau gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig i wella'r rhwydwaith ffyrdd.
Un o'r strategaethau a ddefnyddir yw trin cynifer o ffyrdd â phosibl cyn iddynt ddirywio i gyflwr pan fo rhaid eu hadeiladu o'r newydd. Gwneir hyn drwy broses trin arwynebau ffyrdd sy'n defnyddio Asffalt Mân.
Mae'r broses yn cynnwys cymysgu cyflunydd bitwmen ac agregiadau a'i osod ar arwyneb ffordd gan gerbyd arbenigol i wella cyflwr y ffordd a'i diogelu rhag dirywio ymhellach.
Mae hon yn broses gyflym, gan fod y ffordd yn barod i'w hailagor i draffig ymhen yr awr. Mae hyn yn golygu y gellir cwblhau'r gwaith o drin arwyneb y ffordd a gosod y marciau ffordd perthnasol mewn diwrnod neu ddau.
Eleni mae 24 o strydoedd mewn 10 o wahanol wardiau wedi cael arwyneb newydd. O 11 Medi, bydd 29 o strydoedd eraill mewn 15 o wardiau yn cael yr un driniaeth.
Dywedodd y Cyng. Caro Wild, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth Gynaliadwy: "Ein strategaeth yw defnyddio'r arian sydd ar gael yn y ffordd orau bosib i sicrhau bod ffyrdd Caerdydd mewn cyflwr da.
Aeth ymlaen: "Mae Teithio Llesol hefyd yn flaenoriaeth i'r cyngor a byddwn yn sicrhau bod ein rhaglenni gwaith yn canolbwyntio fwy a mwy ar lwybrau cerdded a beicio allweddol."
Eleni caiff Asffalt Mân ei defnyddio i drin 53 o ffyrdd yn y wardiau canlynol - Treganna, Cathays, Trelái, Y Tyllgoed, Gabalfa, Grangetown, Plasnewydd, Radur, Rhiwbeina, Tredelerch, Sblot, Trowbridge, Adamsdown, Y Mynydd Bychan, Llysfaen, Llandaf, Ystum Taf, Llanisien, Pentwyn, Pentyrch, Pen-y-lan, Pontprennau, Rhiwbeina, Glan-yr-afon ac Eglwys Newydd/Tongwynlais.