Offer newydd i ardal chwarae Caerdydd
Mae maes chwarae yng Nghaerdydd wedi cael gweddnewidiad.
Mae offer chwarae newydd wedi'u gosod yn y parc oddi ar Horwood Close, ger Beresford Road, Sblot.
Cafodd yr offer gwreiddiol eu tynnu o'r ardal chwarae i wneud lle i ardal waith a ddefnyddiwyd gan Network Rail wrth iddynt newid pont Beresford Road fel rhan o'r gwaith i drydaneiddio'r brif linell rheilffordd.
Cafodd y gwaith o newid y bont ei gwblhau'n gynharach eleni ac mae Network Rail nawr wedi rhoi cyllid i Gyngor Caerdydd sydd wedi darparu'r offer yn y maes chwarae trwy ei dîm Dylunio Tirwedd Parciau.
Mae'r ardaloedd glaswellt a ddefnyddiwyd yn yr ardal waith wedi'u hadfer yn llawn ac mae dwy goeden ychwanegol wedi'u plannu.
Yn ogystal â'r offer newydd, mae bin hefyd wedi'i osod.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'n braf gweld yr ardal chwarae hon yn cael ei defnyddio eto gyda'r offer newydd gwych.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Network Rail am ddarparu'r cyllid i weddnewid y maes chwarae."
Dywedodd Andy Thomas, rheolwr gyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru: "Rydym wedi cydweithio gyda Chyngor Caerdydd i helpu i ddarparu maes chwarae newydd yn Sblot.
"Rydym eisiau edrych ar ôl ein cymdogion a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i ni uwchraddio pont Beresford Road fel rhan o'r Cynllun i Uwchraddio'r Rheilffordd i gynnig siwrneiau gwell i deithwyr."