Cafodd y siarc benthyg arian Lorna Arlene Llewellyn ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw i 4 mis o garchar, wedi'i wahardd am 2 flynedd. Cafodd hefyd ei gorchymyn i weithio 200 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl.
Cafodd Ms Llewellyn ei gorchymyn i dalu £12,302 a enillodd drwy ei throseddau erbyn Rhagfyr 2017 neu wynebu 6 mis pellach o garchar.
Clywodd y llys fod Ms Llewellyn, 54, gweithiwr gofal o Bedwas Road yng Nghaerffili, wedi benthyca arian yn anghyfreithlon rhwng 2013 a 2017 i'w chydweithwyr mewn cartref gofal yng Nghaerffili.
Ar 8 Chwefror 2017, anfonodd Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru warant i'w chartref drwy Heddlu Gwent.
Yn ei chyfweliad gyda'r heddlu, gwadodd fenthyca arian ond dywedodd ei bod wedi ‘helpu ei ffrindiau drwy ddaioni'.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, gan grynhoi'r achos, dywedodd y Barnwr Gaskill wrth Ms Llewellyn ei bod yn gweithio mewn cartref gofal lle roedd angen arian ar ei chydweithwyr; cydweithwyr a fenthycodd arian ganddi yn disgwyl y gallent ei thalu'n ôl.
"Roeddech chi'n nabod y bobl hyn ac yn gwybod eu bod nhw'n fregus," dywedodd y Barnwr Gaskill.
Ychwanegodd, "Fe godoch chi log o 30% yr wythnos, felly byddai swm y llog dros flwyddyn wedi bod yn enfawr. Fe godoch chi £15 arnynt am bob taliad hwyr, ac os na allent dalu'r arian eto fe godoch chi £25 arall.
"Mewn un achos cafodd £650 ei fenthyg ond ad-dalwyd £3,220, ac fe ddwedoch chi wrth y dioddefwr ei bod hi'n dal mewn dyled o £2000.
"Mewn achos arall, cafwyd tri benthyciad o £100 ond ad-dalwyd £970. Dywedwyd wrth y dioddefwr hwn ei fod yn dal i fod mewn dyled o £2000. Fe wnaethoch chi swm sylweddol o arian mewn llog.
"O ystyried eich cymeriad da cyn hyn a'ch bod wedi pledio'n euog ar y cyfle cyntaf, caiff eich dedfryd o garchar ei gohirio am ddwy flynedd."
Gwnaeth Stephen Grey, rheolwr yn Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru, ganmol y dioddefwyr a roddodd dystiolaeth i helpu'r ymchwiliad.
Dywedodd Mr Grey: "Benthyca arian gan siarcod benthyg arian yw'r opsiwn gwaethaf posibl. Does neb yn eu rheoleiddio a gallant godi faint a fynnent - mae'r dyledion yn mynd mas o reolaeth mewn dim o dro. Yn aml, y llun sy'n dod i'r meddwl wrth feddwl am siarc benthyg arian yw dyn yn gafael mewn bat pêl-fas. Mae'r gwirionedd yn wahanol iawn. Mae siarcod benthyg arian yn aml yn fenywod sy'n defnyddio'u dylanwad i gael beth maen nhw ei eisiau. Mae'r achos hwn yn enghraifft o hyn."
Cafodd Ms Llewellyn hefyd ei gorchymyn i dalu £4338 mewn costau a gordal dioddefwyr o £80.