Ydych chi erioed wedi dyfalu beth yn union sy'n digwydd i'ch sbwriel pan fyddwch yn ei roi allan i'w ailgylchu?
Wel, dyma eich cyfle i gael gwybod.
Bydd Ffordd Lamby yn cynnal diwrnod agored ar 28 Awst rhwng 10.30am a 4.30pm, a chaiff trigolion gyfle i weld sut y caiff eu gwastraff ei ailgylchu yng Nghaerdydd.
Caiff yr holl wastraff ailgylchadwy a gesglir o gartrefi trigolion ei brosesu trwy Gyfleuster Adfer Deunyddiau (CAD), sy'n didoli'r cynnyrch gwahanol yn ôl maint a phwysau gan ddefnyddio cogiau sy'n troi, echelau a beltiau cludo.
Bydd teithiau o gwmpas y cyfleuster ailgylchu ar gael ar y diwrnod ond mae lleoedd yn brin felly gofynnir i drigolion gadw lle o flaen llaw trwy e-bostiowastestrategyteam@cardiff.gov.ukneu trwy ffonio 02920 717500.
Mae'r Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, wedi cymeradwyo'r digwyddiad, a'r gobaith yw, pan fydd trigolion yn gweld y safle, y cânt eu hannog ymhellach i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Yn hanesyddol, cafodd y rhan fwyaf o sbwriel Caerdydd ei gladdu mewn safle tirlenwi ond bellach Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n ailgylchu fwyaf yn y DU.
"Bellach mae safle tirlenwi Ffordd Lamby yn llawn ac wedi ei gau ac erbyn hyn caiff gwastraff cyffredinol ei brosesu trwy'r broses adfer ynni ddiweddaraf er mwyn creu trydan gwyrdd ac ailgylchu pellach.
"Yn ogystal â'r daith o gwmpas y cyfleuster ailgylchu, caiff trigolion gyfle i deithio o gwmpas y safle tirlenwi sydd wedi cau er mwyn gweld sut roedd eu gwastraff yn arfer cael ei reoli, yn ogystal â chael gwybod a chyfrannu at y cynlluniau ar gyfer y tir hwn yn y dyfodol.
Mae atyniadau eraill ar y diwrnod yn cynnwys cyfle i weld yr adar ysglyfaethus a ddefnyddir gan y Cyngor i reoli gwylanod yn Ffordd Lamby, yn ogystal â rhai o gerbydau Caerdydd a ddefnyddir i gasglu gwastraff.
Bydd staff o dîm ailgylchu'r cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a bydd biniau compostio a chasgenni dŵr hefyd ar werth yn y diwrnod agored.
Aeth y Cyng. Michael yn ei flaen: "Cafodd y modd y mae'r cyngor yn rheoli gwastraff ei weddnewid yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Mae ailgylchu mor bwysig, felly nid oes ffordd well o annog pobl i ailgylchu hyd yn oed yn fwy nag i ddangos y safle ailgylchu sy'n prosesu eu gwastraff iddynt fel eu bod yn gweld sut caiff y cynhyrchion eu didoli, ac wedyn eu byrnu fel y gallent gael eu gwneud yn gynnyrch newydd."