Bydd Penwythnos Mawr Pride yn cael ei gynnal ar benwythnos gŵyl y banc mis Awst rhwng Dydd Gwener 25 a Dydd Sul 27 Awst.
I hwyluso'r paratoadau ar gyfer y digwyddiad, bydd swyddogion y cyngor yn sicrhau na fydd cerbydau wedi eu parcio dros nos yn y Ganolfan Ddinesig ar 22 Awst.
Bydd y Ganolfan Ddinesig wedyn ynghau o Ddydd Mercher 23 Awst o 5am tan Ddydd Llun 27 Awst am 12pm.
Ar Ddydd Sadwrn 26 Awst, cynhelir yr orymdaith a fydd yn cychwyn ym Mhlas Windsor am 11am, gan weu ei ffordd drwy ganol y ddinas. Disgwylir iddi gyrraedd Rhodfa'r Brenin Edward VII ar hyd Heol y Gogledd erbyn tua 12.30pm.
Disgwylir i lawer o bobl fynychu'r digwyddiad felly bydd ffyrdd yn dechrau cau o 8am.
Rhwng 8am a 12 hanner dydd - bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau:
Lôn Windsor a Phlas Windsor. Caiff y fynedfa a'r allanfa i Lôn-y-Parc eu cadw ar agor pan fydd hynny'n ddiogel.
Rhwng 11am a 2pm - bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau:
Heol y Gogledd o'r gyffordd â Column Road i'r gyffordd â Ffordd y Brenin
Heol Corbett (caiff mynediad i drigolion Queen Anne Square ei gynnal)
Boulevard de Nantes (caiff mynediad i fysiau a cherbydau sydd angen mynediad i Heol y Brodyr Llwydion ei gynnal)
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r Brodordy / Heol y Brodyr Llwydion i'r gyffordd â Heol y Dug
Heol y Dug a Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Porth
Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair i'r gyffordd â Ffordd Tresillian, Heol y Tollty, Lôn y Felin a Stryd y Gamlas
Stryd Wood - i'r dwyrain o'r gyffordd â Stryd Havelock i'r gyffordd â Heol Eglwys Fair
Stryd y Popty, Heol y Cawl a Phlas y Neuadd
Yn sgil cau'r ffyrdd, mae trefniadau amgen wedi eu rhoi ar waith i weithredwyr bysiau.
Bydd bysiau o'r gogledd yn rhedeg ar hyd Heol y Brodyr Llwydion drwy Blas-y-Parc a Boulevard de Nantes ac yn gadael y ddinas ar hyd Plas-y-Parc
Bydd bysiau o'r dwyrain yn defnyddio Ffordd Churchill
Bydd bysiau o'r de yn defnyddio Heol y Tollty a Heol Penarth
Bydd bysiau o'r gorllewin yn defnyddio Heol y Porth
Bydd yr orymdaith yn dechrau ym Mhlas Windsor a cherdded ar hyd Heol-y-Frenhines, gan droi i'r chwith i Heol Sant Ioan, gan symud yn ei blaen i Stryd Working, yr Aes, Lôn y Felin, yna troi i'r dde i Heol Eglwys Fair ac ymlaen i'r Stryd Fawr. Bydd yr orymdaith wedyn yn troi i'r dde o flaen y castell, ymlaen i Stryd y Castell, Heol y Dug ac ymlaen i Ffordd y Brenin ac yna bydd yn ciwio ar hyd Heol y Gogledd a rhan o Boulevard de Nantes er mwyn cael mynediad i'r Ganolfan Ddinesig ar hyd Heol Neuadd y Ddinas a Ffordd yr Orymdaith ac yna ymlaen i Rodfa'r Brenin Edward VII.