The essential journalist news source
Back
21.
August
2017.
Clirio sbwriel cymunedol ledled y ddinas


Mae preswylwyr ledled y ddinas yn meddiannu'r strydoedd er mwyn cadw'u cymunedau'n lân ac yn daclus fel rhan o Ymgyrch Carwch Eich Cartref.

Cynhaliwyd y digwyddiadau diweddaraf ar y penwythnos (Awst 19-20) gyda glanhau cymunedol yn Y Rhath, Cyncoed a'r Eglwys Newydd.

Yr wythnos diwethaf, cwblhaodd gwirfoddolwyr yng Nghaerau, Cathays, Y Rhath a Llanisien eu cyrchoedd sbwriel eu hunain, gyda'r cyngor wrth law i glirio'r sbwriel a gasglwyd.

Ar 11 Awst, daeth 67 o bobl i lanhau yn y Pentref Chwaraeon ym Mae Caerdydd a gafodd ei drefnu gan Cadwch Gymru'n Daclus ar y cyd â eXXpedition Round Britain 2017.

Yn y digwyddiad hwn, , casglwyd 96 bag o sbwriel a llwyddwyd i ailgylchu gwastraff o 24 o'r bagiau hynny.

Yn y cyfamser, roedd tîm Cyngor Caerdydd ar gyrch yng Nghaerau yr wythnos diwethaf i gwblhau camau glanhau pellach gan dargedu Heol Trelái, Cwrt-yr-Ala Road, Penally Road a'r ardal gerllaw.

Yr wythnos hon bydd y tîm yn symud i ar gyrch i'r Tyllgoed, gan dargedu Pwllmelin Road, Plasmawr Road a'r ardal gerllaw.

Mae Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu, wedi canmol ysbryd cymunedol y gwirfoddolwyr sy'n helpu'r cyngor i gadw Caerdydd yn lân ac yn daclus.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Mae'r Cyngor yn gwneud y cyfan y gallwn gyda'r adnoddau sydd ar gael i gadw Caerdydd yn lân ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain.

"Yn aml wedi i ni lanhau ardal o'r ddinas, pan ddychwelwn drannoeth, mae sbwriel a gwastraff o'r newydd wedi ymddangos ar y strydoedd.

Syniad y cyrchoedd yw i gael y gwahanol feysydd gwasanaeth yn y cyngor i gydweithio'n agosach mewn ymgyrchoedd dros diroedd y cyngor mewn ardal benodol.

"Felly mae ein tîm priffyrdd, yr adrannau glanhau strydoedd, gorfodi gwastraff a'r parciau yn cydweithio mewn ardaloedd gwahanol ar sail cylchol i gynnig gwasanaethau ychwanegol i ardaloedd y ddinas sydd â mwyaf eu hangen."

Ychwanegodd: "Wedyn drwy adeiladu grwpiau cymunedol mewn ardaloedd amrywiol, a gweithio gyda gwirfoddolwyr, y gobaith yw y bydd yr ardaloedd hyn yn aros yn lân ac yn daclus cyn hired ag y bo modd.

"Rhaid sylweddoli na all ein swyddogion fod ar bob stryd, bob diwrnod o'r wythnos i lanhau ar ôl pobl sy'n gwbl anystyriol o'r cymunedau rydym oll yn byw ynddynt.

"Mae'r tîm gorfodi gwastraff yn ei le i dargedu'r nifer bychan o bobl sy'n credu ei bod hi'n iawn gollwng sbwriel a gwaredu gwastraff ar y strydoedd pan fônt yn teimlo'r awydd.

"Mae'r ymgyrch yn mynd rhagddo'n dda a bydd yn parhau a charwn estyn diolch i bawb sy'n helpu'r cyngor i Cadw Caerdydd yn Daclus."