Mae'r Tîm Glanhau wedi symud i Drelái wythnos yma i godi sbwriel, glanhau gylïau a mannau agored a thrwsio palmentydd fel rhan o Ymgyrch Carwch Eich Cartref Cyngor Caerdydd.
Caiff 19 o strydoedd eu glanhau'n drylwyr yn Nhrelái wythnos yma gan fod y Cyngor erbyn hyn wedi symud i Arc Ddeheuol wardiau allanol y ddinas.
Mae sesiynau glanhau pellach wedi'u trefnu yng Nghaerau, Y Tyllgoed, Trowbridge, Tredelerch a Llanrhymni dros y chwe wythnos nesaf.
Dyluniwyd yr Ymgyrch Carwch Eich Cartref fel y gall y Cyngor gynnal gweithrediadau glanhau ychwanegol mewn wardiau ledled y ddinas, yn ogystal â gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i gasglu sbwriel.
Diben yr holl waith hwn yw creu balchder yn y cymunedau rydyn ni'n byw ynddynt.
Mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr wedi ymddangos ym mhob rhan o'r ddinas ac mae'r Cyngor yn awyddus i barhau i ehangu'r cynllun i gynnwys cynifer o bobl â phosibl.
Dros y penwythnos (5 a 6 Awst), camodd 20 o drigolion ym Mhontcanna a 14 yn Grangetown mas o'u tai a chasglu 31 bag o sbwriel.
Mae casgliadau cymunedol pellach wedi'u trefnu wythnos yma yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, Cathays a Phlasnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Nod y cynllun hwn oedd glanhau rhagor o strydoedd mewn ardaloedd sydd angen hynny.
"Mae'n waith caled - mae gweithwyr y Cyngor yn palu silt a malurion o rhwng y palmant a'r ffordd ac yn codi sbwriel arall sydd ar dir y cyngor.
"Dechreuodd y cynllun yn wyth ward fewnol y ddinas, cyn symud mas i'r wardiau allanol.
"Nawr mae'r cynllun wedi symud i rannau deheuol y ddinas, ac rydyn ni'n awyddus iawn i greu grwpiau cymunedol yn yr ardaloedd hyn.
"Mae creu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau yn bwysig iawn. Mae'r gwaith cymunedol ym Mhontcanna yn enghraifft wych - mae gennym 17 o strydoedd sydd ag Ymgyrchwyr Sbwriel pwrpasol, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned rydyn ni'n byw ynddi."
I ddechrau, cydlynwyd y sesiynau casglu cymunedol gan y Cyngor yn ystod yr wythnos waith, ond nawr mae grwpiau cymunedol yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain, yn bennaf ar y penwythnos, gyda'r cyngor yn dod i gasglu'r gwastraff wedi hynny.
Mae swyddogion gorfodi gwastraff hefyd yn gweithio yn yr ardaloedd hyn, gan roi Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheini sy'n gadael i wastraff gronni yn eu gerddi, sy'n rhoi gwastraff tu fas eu heiddo ar y dyddiad neu'r amser anghywir, neu sy'n gadael sbwriel ar strydoedd Caerdydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut gall trigolion gyfrannu ar wefan Cadwch Gaerdydd yn Daclus -http://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/grwpiau-cymunedol/