Diolch i roddion preifat gan ddau unigolyn sydd wrth eu boddau â Pharc Bute a helpodd i sefydlu’r cychod a mentora ar gyfer staff brwdfrydig y parciau gan y gwenynwyr lleol Nature’s Little Helpers, mae mêl Parc Bute bellach nôl ar y fwydlen ac ar gael i’w brynu yn uniongyrchol o Ganolfan Addysg Parc Bute ac Ystafelloedd Te Pettigrew.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: Mae 56 hectar Parc Bute yn gartref i amrywiaeth helaeth o blanhigion, blodau, llwyni a choed, felly mae’n le gwych i gynhyrchu mêl.”
“Rydym yn ffodus bod Parc Bute gennym yng nghanol y ddinas, sef pam bod ei ddiogelu a’i wella, a’r holl barciau gwych eraill sydd gennym ledled y ddinas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mor bwysig. Rhan o wneud hynny yw sicrhau bod ganddynt ymagwedd fwy masnachol a hunangynhaliol.”
“Mae cynhyrchu mêl yn enghraifft dda o sut y gall hynny weithio – mae’r cychod yn cynnig adnodd newydd y gellir ei ddefnyddio i ymgysylltu â’r cyhoedd ac addysg, wedi ei ategu gan arian a wneir drwy werthu’r mêl.”
Mae mêl ar gael mewn jariau 1lb (454g) / 8oz (227g) / 3.5oz (100g), gan gostio £6.95 / £4.95 / £2.50.