Ddydd Sadwrn, bydd Gorymdaith y Cerbydau Rhwysg yn dathlu 12 mlynedd ers y Ratha Yatra rhwng 1pm a 5pm ym Mharc Bute.
Dethlir y Ratha Yatra mewn 500 o ddinasoedd ledled y byd ac mae gwreiddiau'r ŵyl ysbrydol hynafol yn Sagannath Puri yn India.
Cyn i'r dathliadau ddechrau ym Mharc Bute, bydd gorymdaith yn cychwyn o Neuadd y Ddinas. Er mwyn cynnal y digwyddiad yma, bydd ffyrdd yn cau yn ôl system dreigl.
Bydd y ffyrdd canlynol yn cau rhwng hanner dydd ac 1.15pm tra mae'r orymdaith yn teithio ar eu hyd:
Heol y Gogledd tua'r de a thua'r gogledd yn y gyffordd â Boulevard de Nantes
Boulevard de Nantes tua'r gorllewin yn y gyffordd â Heol y Gogledd
Ffordd y Brenin
Heol y Dug tua'r gogledd-ddwyrain yn y gyffordd â Heol y Brenin.
Bydd y digwyddiad wedyn yn dechrau ym Mharc Bute gyda cherddoriaeth, dawns, myfyrio a gwledd lysieuol am ddim.
Ddydd Sul bydd Taith Ddinas HSBC ym Mae Caerdydd. Mae modd ymuno â'r daith feiciau i'r teulu am ddim, a sefydliad British Cycling sydd wedi ei threfnu i annog 2 filiwn yn rhagor o bobl i deithio ar gefn beic erbyn 2020.
Dyma'r tro cyntaf i'r digwyddiad ddod i Gymru a chafodd ei lansio'n swyddogol ar 25 Gorffennaf gan Becky James, enillydd dwy fedel arian yng Ngemau Olympaidd Rio.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 5pm a 8pm:
Rhodfa Lloyd George o'r gyffordd â Heol Hemingway i'r gyffordd â Phlas Bute
Plas Bute
Cei Britannia
Rhodfa'r Harbwr.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, dim ond i chi gofrestru drwy ddilyn y ddolen ganlynol -https://www.letsride.co.uk/