The essential journalist news source
Back
12.
July
2017.
Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi Uchelgais Prifddinas Caerdydd

 

 

 

Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi Uchelgais Prifddinas Caerdydd

 

Bu i Arweinydd Cyngor Caerdyddannerch cynulleidfa fawr er mwyn cyflwyno cynllun pum mlynedd uchelgeisiol ei weinyddiaeth ar gyfer y ddinas.

 

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas wrth ei westeion o feysydd busnes, gwleidyddiaeth, addysg, elusennau, y celfyddydau, lletygarwch a'r cyfryngau mewn digwyddiad yng nghampws canol y ddinas Coleg Caerdydd a'r Fro, ei fod yn credo bod cyfle i Gaerdydd ddod yn ddinas flaengar yn rhyngwladol.

 

Wrth ddatgelu'r cynllun pum mlynedd - Uchelgais Prifddinas - dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae cymaint o botensial gan Gaerdydd, ac mae gennym ni - pawb sydd yma heno - gyfle i wneud Caerdydd yn brifddinas wych ar lwyfan byd eang, lle mae ein holl ddinasyddion, ein rhanbarth a'n gwlad yn teimlo buddion twf."

 

 

[image]

 


Testun cyflawn araith y Cyng. Thomas:

 

Uchelgais Prifddinas

 

Gadewch i ni fynd yn syth at y pwynt.

 

Rwy'n credu bod Caerdydd yn wynebu cyfle hanesyddol.

 

Genhedlaeth yn ôl, roedd y ddinas yn brwydro'n erbyn heriau dad-ddiwydiannu, a ddaeth â dirwasgiad, diweithdra ar lefel drychinebus a dirywiad mewn llawer o gymunedau.

 

Mae pethau wedi newid.

 

Mae Caerdydd nawr yn brifddinas economaidd, ddiwylliannol a gwleidyddol.

 

Mae economi'r ddinas bellach ymysg y mwyaf cystadleuol o dinasoedd craidd y DU.

 

Mae twf cyflogaeth a poblogaeth Caerdydd yn gyflymach nag unrhyw un arall o'r Dinasoedd Craidd;

 

Mae twf busnes yng Nghaerdydd yn gyflymach na chyfartaledd y DU;

 

Ac, i fi, tanlinellodd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddar fod Caerdydd wir wedi cyrraedd fel Prifddinas Ewropeaidd flaenllaw.

 

Fe gyflwynodd ein dinas sioe arbennig o flaen cynulleidfa fyd-eang o filiynau.

 

Fel y dywedodd llywydd UEFA, Aleksander Ceferin: "Nid oedd yn ddim llai na rhagorol."

 

Nid yw proffil Caerdydd erioed wedi bod yn uwch, ac mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu bob blwyddyn.

 

Mae ein prifddinas yn gartref i brifysgolion, sefydliadau chwaraeon a diwylliannol a busnesau creadigol newydd o'r radd flaenaf; cwmnïau, entrepreneuriaid ac arloeswyr gwych.

 

Mae llawer ohonoch yn yr ystafell heno 'ma.

 

Does dim amheuaeth mai Caerdydd yw ased economaidd cryfaf Cymru a'i chyfle gorau o sicrhau llwyddiant economaidd.

 

Dyna pam fy mod yn credu ein bod ar drothwy cyfle hanesyddol.

 

Mae gan Gaerdydd gymaint o botensial, ac mae gennym ni - pawb sydd yma heno - gyfle i wneud Caerdydd yn brifddinas fyd-eang wych, lle mae ein holl ddinasyddion, ein rhanbarth a'n gwlad yn teimlo manteision twf.

 

Ond mae'r heriau hefyd yn glir a niferus.

 

I ddechrau, mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd wedi cael ei adael i dyfu ers yn rhy hir.

 

Mae anghydraddoldeb incwm yng Nghaerdydd yn uwch nag yn unrhyw ddinas arall yng ngwledydd Prydain.

 

Felly mae angen i ni fod yn onest - nid yw llanw economaidd Caerdydd wedi codi pob cwch.

 

Ac mae'r syniad y gallwn ‘dyfu nawr a rhannu wedyn' wedi gwneud i ormod o'n cymunedau golli cyfleoedd ac mae gormod o bobl yng Nghaerdydd - llawer o deuluoedd sy'n gweithio - yn cael trafferth bodloni eu hanghenion sylfaenol.

 

Dyw hi ddim yn deg fod bron i draean o gartrefi yn byw mewn tlodi, bod un o bob pedwar plentyn yn byw mewn tlodi, a hynny yn injan fasnachol y wlad.

 

Yn wir, petai ‘Arc Ddeheuol' Caerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain - ardal o 60,000 o bobl - yn cael ei ystyried yn un awdurdod lleol, hwn fyddai'r tlotaf yng Nghymru o gryn dipyn.

 

Mae'r tlodi hwn yn taflu cysgod tywyll dros ormod o fywydau. Mae'n niweidio dyheadau ac iechyd ac, yn rhy aml o lawer, yn cwtogi bywydau.

 

Yng Nghaerdydd mae yna fwlch disgwyliad oes iach o dros 22 o flynyddoedd rhwng y cymunedau cyfoethocaf a thlotaf.

 

[image]

 

Dyw hyn ddim yn deg o gwbl.

 

A dyw hi ddim yn deg y bydd pobl yn cysgu ar strydoedd ein dinas ni heno.

 

Felly, bydd trechu tlodi ac anghydraddoldeb wrth wraidd fy Ngweinyddiaeth.

 

Rhaid i ni gydnabod hefyd fod yna bobl yn ein dinas - lleiafrif pitw - sydd ddim yn rhannu ein gwerthoedd o ryddid, goddefgarwch a democratiaeth.

 

Mae digwyddiadau diweddar - ym Mhrydain ac yma yng Nghaerdydd - wedi dangos bod angen i ni wneud mwy i feithrin dealltwriaeth, cryfhau cymunedau ac adeiladu cydraddoldeb - oherwydd heb y rhain bydd pobl yn dechrau ar daith o ofn a chenfigen i gasineb ac eithafiaeth.

 

Mae gan Gaerdydd enw rhagorol am fod yn ddinas amrywiol a chroesawgar - ond ni allwn gymryd hyn yn ganiataol.

 

Mae'n un o'r heriau mawr y mae ein dinas - pob dinas - yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

 

Byddwn hefyd yn wynebu'r heriau a ddaw gyda thwf.

Mae'n rhoi pwysau ar seilwaith ffisegol y ddinas - ein ffyrdd a'n system trafnidiaeth gyhoeddus, ein seilwaith ynni a dŵr.

 

Bydd hefyd yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

 

Bydd cynnydd yn nifer y plant oedran ysgol yn golygu y bydd angen mwy o ysgolion a mwy o athrawon.

 

Ac er bod Caerdydd yn ddinas ifanc, golyga'r twf hwn y disgwylir i nifer y dinasyddion dros 85 oed ddyblu bron erbyn 2030. Bydd cyfraddau demensia yn dyblu dros yr 20 mlynedd nesaf hefyd.

 

Yng Nghaerdydd a ledled gwledydd Prydain, mae gennym argyfwng gofal cymdeithasol nad oes yna atebion amlwg a rhwydd iddo.

 

Ac, wrth gwrs, bydd y pwysau hyn - ‘pwysau tyfu' fel mae'r BBC wedi'u galw - yn cynyddu ar adeg pan fo adnoddau'n lleihau.

Rhaid i ni ateb yr heriau hyn - twf, anghydraddoldeb a chynaliadwyedd - gyda datrysiadau beiddgar a syniadau uchelgeisiol.

 

Mae ein Huchelgais Prifddinas i Gaerdydd, a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor yn gynharach heddiw, yn gosod rhaglen o weithgareddau sydd, yn fy marn i, yn cynnig hynny.

 

Yn gyntaf, rydyn ni'n ymrwymedig i symud yr economi yn ei blaen a sicrhau y gall ein holl ddinasyddion gyfrannu at lwyddiant y ddinas a manteisio ar hynny.

 

Bydd denu, cadw a chynhyrchu buddsoddiad i dyfu'r economi felly yn flaenoriaeth fawr. A chredwn mai'r ffordd fwyaf pendant o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yw cael pobl i weithio, fel eu bod yn cael eu grymuso i'w codi eu hunain mas o dlodi.

 

Mae adfywio'r Sgwâr Canolog yn tanlinellu maint y cylch buddsoddi newydd yng Nghaerdydd.

 

Ein blaenoriaeth gyntaf yw parhau i dyfu canol y ddinas fel lleoliad ar gyfer busnes a buddsoddi. Byddwn yn cwblhau'r ardal fusnes newydd a'r porth i Gymru i'r gogledd a'r de o Orsaf Caerdydd Canolog. A byddwn yn darparu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd a fydd wrth wraidd Metro Caerdydd.

 

Byddwn hefyd yn blaenoriaethu Arena Dan Do Amlbwrpas newydd â 12-15000 o seddi.

 

Yr Arena fydd y darn olaf o'r jig-so yn ein seilwaith hamdden a diwylliant, gan ein galluogi i barhau i ddenu'r digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol gorau i Gymru.

 

Mae hefyd yn fwriad cyflwyno cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer adfywio Dumballs Road i gysylltu Canol y Ddinas â'r Bae, gan hefyd ailadeiladu'r momentwm a gollwyd yn y Pentref Chwaraeon.

 

Byddwn yn gweithio gyda'n prifysgolion a phartneriaid yn y maes Iechyd i barhau i wella seilwaith arloesi'r ddinas.

 

A byddwn yn datblygu Strategaeth Ddiwydiannol newydd ar gyfer Dwyrain y ddinas.

Ar y testun hwn, mae agoriad cam cyntaf Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae yn cynrychioli'r buddsoddiad trafnidiaeth mawr cyntaf yn y Brifddinas ers datganoli - rydyn ni am ei gweld yn cael ei chwblhau fel conglfaen i'r Strategaeth Ddiwydiannol newydd a chatalydd ar gyfer trawsnewid rhai o gymunedau mwyaf datgysylltiedig a difreintiedig ein dinas.

 

Mae hyn yn bwysig a bydd yn adeiladu ar y datblygiadau cadarnhaol sy'n digwydd yn nwyrain y ddinas, gan gynnwys y cynigion cyffrous am barc busnes modern - Parc Llaneirwg - a fydd yn seiliedig ar gysylltiadau rheilffordd gwell rhwng canol y ddinas a Chymoedd De Cymru.

 

Mae ein sector diwylliannol yn bluen arall yng nghap ein dinas.

 

Mae'r seilwaith yma; mae gennym sector diwylliannol a chreadigol o'r radd flaenaf; ac fel prifddinas - prifddinas ddwyieithog hefyd - mae gennym rywbeth sy'n ein gwneud ni'n wahanol.

 

[image]

 

 

 

Fel dinas, dyma un o'n cardiau cryfaf.

 

Dyna pam fy mod eisiau ystyried gwneud cynnig i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop. Darparu projectau beiddgar, uchelgeisiol fel hyn yw beth mae Caerdydd yn ei wneud orau.

 

Bydden i'n dadlau nad oes yr un ddinas yn gwneud hyn yn well.

 

Felly rydw i am ddod â chymuned ddiwylliannol a chreadigol y ddinas at ei gilydd ar unwaith i benderfynu ai dyma'r adeg gywir i Gaerdydd.

 

Waeth beth fo'r canlyniad, byddwn yn parhau i gefnogi bywyd diwylliannol y ddinas ar lawr gwlad.

 

Gallaf ddweud ein bod yn gweithio'n agos gyda Chlwb Ifor Bach i ddod o hyd i ateb a fydd yn diogelu dyfodol cerddoriaeth fyw yn Stryd Womanby, ac rwy'n edrych ymlaen at gael rhannu newyddion da gyda chi ar y mater hwn dros yr ychydig wythnosau nesaf.

 

Wrth gwrs, ni allwn gyflawni'r holl gynlluniau ar ein pen ein hunain.

 

Mae llwyddiant y ddinas wedi'i adeiladu ar berthynas gref rhwng y Cyngor a phartneriaid preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.

 

Mae angen i hyn barhau.

 

Yn benodol, mae perthynas gref rhwng y Cyngor a'r gymuned fusnes yn hollbwysig i lwyddiant dinas - ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn y sector preifat i ddatblygu Fforwm Busnes newydd i Gaerdydd dros y flwyddyn i ddod. Os ydych chi'n entrepreneur sydd â syniad trawsffurfiol ac arloesol, gweledigaeth o dwf, mae'r Cyngor hwn eisiau gweithio gyda chi i'ch helpu i'w wireddu.

 

Ond er bod twf yn angenrheidiol, nid yw'n ddigon ar ei ben ei hun.

 

Hoffwn fod yn glir - oes, mae angen twf economaidd arnom, ond mae angen i'r twf hwn fod o fudd i bawb.

 

Rhaid i bob project rydyn ni'n ei ddatblygu arwain at swyddi a chyfleoedd i'r bobl sydd eu hangen fwyaf. Bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd Cyngor Caerdydd i fod yn gyflogwr cyflog byw - y bleidlais rydw i fwyaf balch ohoni hyd yma. Heddiw, mae gormod o lawer o drigolion Caerdydd yn gorfod ymdopi â chyflogau isel. Lle mae'r Cyngor wedi arwain, disgwyliaf i eraill ddilyn, fel bod twf yn troi'n swyddi da sy'n cynnig cyflog da am ddiwrnod da o waith.

 

Ac mae'n rhaid i ffocws strategol ar greu swyddi fynd law yn llaw â ffocws ar chwalu rhwystrau i gael a chadw swydd - beth bynnag y bônt.

 

Ochr yn ochr â swyddi da, credwn mai addysg dda yw'r llwybr mwyaf sicr mas o dlodi.

Bum mlynedd yn ôl, yn un o ddinasoedd mwyaf deallus gwledydd Prydain, roedd y system ysgolion yn methu.

Nid yw hynny'n wir mwyach. Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, gwnaeth canlyniadau TGAU Caerdydd wella gan fwy na 12%. Fe ddylem fod yn falch iawn o hyn. Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd.

Mae gormod o ysgolion yn tanberfformio o hyd, yn arbennig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas. Ac mae'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion mewn teuluoedd incwm isel, plant sy'n derbyn gofal a disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol yn parhau'n annerbyniol o lydan.

 

[image]

 

 

Bydd lleihau'r bwlch hwn yn arwydd o lwyddiant i'r weinyddiaeth hon.

 

I wneud hynny byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hysgolion a'u gwella.

 

Ynghanol cyni ariannol, rydyn ni wedi buddsoddi £169m yn ein hysgolion.

Rydyn ni wedi agor ysgolion cynradd ledled y ddinas.

 

Yn y Flwyddyn Newydd bydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn symud i adeilad newydd sbon a ddatblygwyd ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro, sef Campws Dysgu'r Dwyrain.

 

Ac yn Ngorllewin y ddinas byddwn yn agor Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ym mis Medi, ac yn dechrau adeiladu adeilad gwerth £36m i'r ysgol symud i mewn iddo.

 

Mae nawr angen i ni droi ein golwg at y dyfodol.

 

Rydyn ni'n bwriadu manteisio i'r eithaf ar gam nesaf y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cenhedlaeth newydd o ysgolion a fydd yn helpu i gyflymu'r gwelliant ym mherfformiad ysgolion lleol.

 

Ond mae angen gwneud mwy nag adeiladu ysgolion newydd.

 

Rydyn ni'n wynebu ôl-groniad difrifol o waith cynnal a chadw, sy'n deillio o flynyddoedd o danfuddsoddi yn yr ystâd ysgolion.

 

Bydd fy ngweinyddiaeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod ein plant yn cael eu haddysgu mewn ysgolion sy'n addas at y diben ac sy'n ganolbwynt i'r gymuned ehangach.

 

Mae hyn yn bwysig.

Rydyn ni'n bwriadu atgyfnerthu'r rôl mae pob ysgol yn ei chwarae wrth wraidd ei chymuned; a cheisio adeiladu pontydd rhwng ein hysgolion a chyflogwyr lleol.

 

Soniais yn gynharach am y broses bontio i'n pobl ifanc rhwng yr ysgol a'r gwaith.

 

Bum mlynedd yn ôl gwnaethom ymrwymo i fod yn ddinas 'di-NEET'. Mae'r cyfraddau wedi gostwng o 8% i tua 3%. Ond eto, mae angen gwneud llawer mwy. Mae gormod o bobl ifanc yn methu â phontio i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Addewid Caerdydd - sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng ysgolion a busnes - fydd un o brif fentrau fy ngweinyddiaeth.

 

Rhaid i mi ddweud, mae ymateb y gymuned fusnes i'r fenter hon wedi bod yn wych. Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch yma heno wedi ymrwymo i gynnig prentisiaethau, i fentora pobl ifanc neu i siarad yn ein hysgolion - o'r cyflogwyr mawr fel Admiral a Brains i'n cwmnïau bach, deallus fel The Big Learning Company a phawb yn y Tramshed.

 

Roedd hi'n Wythnos 'Agor Eich Llygaid' wythnos diwetha'. Aeth 27 o gwmnïau - gan gynnwys BBC Wales a GE Aviation - i ysgolion cynradd yng Ngorllewin y ddinas i siarad â myfyrwyr Blwyddyn 6; i danio eu diddordeb yn y gyrfaoedd amrywiol y gallent eu dilyn, ac i'w hysbrydoli i wneud yn dda yn yr ysgol.

 

Mae Addewid Caerdydd yn enghraifft o'r hyn y gallwn ei gyflawni fel dinas drwy ddod ynghyd i weithio ar her gyffredin.

 

Rwy'n galw ar bob un ohonoch i gymryd rhan.

 

Os siaradwch chi ag unrhyw berson ifanc yng Nghaerdydd am ei flaenoriaethau, ochr yn ochr â dod o hyd i swydd dda mae'n siŵr o sôn am dai. Rwy'n gwybod o brofiad personol fod hyn yn fater sy'n amlwg iawn yng nghymorthfeydd y Cynghorwyr.

 

Does dim syndod o ystyried bod cost cyfartalog tŷ tua wyth gwaith y cyflog cyfartalog. Ymysg y Dinasoedd Craidd, dim ond ym Mryste yr ochr arall i Afon Hafren y mae tai yn llai fforddiadwy. Mae yna argyfwng tai yng Nghaerdydd, ac rydyn ni'n ymrwymedig i'w daclo. Mae CDLl Caerdydd, y cytunwyd arno gan y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf, yn nodi tir ar gyfer adeiladu 40,000 o dai. Mewn rhai corneli o'r ddinas mae hyn yn peri pryder, ond rwy'n croesawu'r cyfle y mae hyn yn ei gynnig, i ddarparu llety o safon - sy'n hawl ddynol sylfaenol - i holl drigolion Caerdydd.

 

Mae Cyngor Caerdydd yn un o lond llaw o awdurdodau lleol sydd wedi ymrwymo i adeiladu tai Cyngor newydd. Mae'r 1,000 o dai Cyngor newydd y byddwn yn eu hadeiladu yn ddechrau gwych, ond rydyn ni am wneud mwy.

 

Ac wrth i'r ddinas dyfu, byddwn yn gweithio gyda datblygwyr i ddarparu dros chwe mil a hanner o dai fforddiadwy newydd fel y gallwn roi stop ar y sgandal lle mae pobl yn aros am ddegawd ar y Rhestr Aros Tai.

 

Rydw i eisiau bod yn glir: mae ein hymrwymiad i hyn yn un sylaenol.

 

Ddatblygwyr - gallwch chi chwarae rôl hanfodol yn y ddinas, gan fod yn sbardun y tu cefn i ddatblygiad economaidd. Byddwn yn eich helpu i gyflawni eich projectau i symud y ddinas yn ei blaen.

 

Ond mae'n rhaid i chi weithio gyda ni i sicrhau bod y datblygiadau hyn yn gweithio i gynifer o bobl â phosibl; ein bod yn cynnig tai fforddiadwy; ein bod yn creu cymunedau gwych i fyw ynddynt; a'n bod yn creu prentisiaethau, swyddi da a gyrfaoedd da i bobl ifanc yn y diwydiant adeiladu.

 

Ar yr un pryd, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd.

 

Byddwn yn mabwysiadu polisi ‘Dim Noson Gyntaf Mas' a byddwn yn ddigon dewr i dreialu dulliau radical newydd, gan gynnwys model ‘Tŷ yn Gyntaf' sy'n symud pobl sy'n cysgu ar y stryd o'r strydoedd yn syth i gartref. Rydyn ni'n gwybod nad yw'r cynnydd yn y rheini sy'n wynebu amddifadrwydd yn dderbyniol - ac rydyn ni'n bwriadu mynd i'r afael â hyn.

 

Swyddi da. Addysg dda. Tai fforddiadwy mewn cymunedau cadarn, diogel a hyderus. Sicrhau bod manteision twf yn cael eu rhannu mor eang â phosibl.

 

Bydd y rhain oll wrth wraidd ein huchelgeisiau i Gaerdydd.

 

Ynghyd â hyn, mae fy ngweinyddiaeth yn ymrwymedig i sicrhau bod Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn.

 

 

 

Caerdydd yw dinas fawr arweiniol Prydain o ran ailgylchu. Mae cyfraddau wedi codi o 4% i 58% dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Gwelliant rhagorol. Ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Rhaid i ni barhau i osod amcanion uchelgeisiol yn y maes allweddol hwn.

Rydw i hefyd yn falch o ddatgan y byddwn, dros y bum mlynedd nesaf, yn ystyried sut gall y Cyngor dynnu'n ôl o'i fuddsoddiad mewn tanwyddau ffosil.

 

Mae'n ystrydeb dweud fy mod eisiau creu'r weinyddiaeth werddaf erioed, ond os ydym o ddifri ynghylch gweledigaeth 25 mlynedd i Gaerdydd, yna rhaid cymryd camau beiddgar i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan yn herio newid yn yr hinsawdd.

 

[image]

 

 

Mae twf cadarn hefyd yn golygu sicrhau bod ein cymunedau - hen a newydd - yn cael eu cynllunio a'u cysylltu'n effeithiol.

 

Mae mynd i'r afael â thagfeydd a chreu system drafnidiaeth effeithiol yn un o brif flaenoriaethau'r Weinyddiaeth hon.

 

Mae mwy a mwy o bobl yn beicio neu'n cerdded i'r gwaith ac yn dal y bws neu drên. Ond nid yw hyn yn newid yn ddigon cyflym. Maddeuwch i fi am chwarae ar eiriau, ond mae'n amser i Gaerdydd newid gêr.

 

Mae'r Metro yn hanfodol - ac rydw i'n awyddus i wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar ein cymunedau.

 

Ond rhaid i'r Metro gael ei ategu gan newid graddol yn ansawdd seilwaith trafnidiaeth y ddinas.

Mae creu gorsaf fysus ganolog newydd yn ymrwymiad pwysig i bobl Caerdydd. Ond mae angen i hyn gael ei gysylltu â gwaith moderneiddio cynhwysfawr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog - ac rwy'n bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Network Rail a'r sector preifat i wneud hyn yn amcan allweddol dros y bum mlynedd nesaf.

Mae Uchelgais Prifddinas Caerdydd yn ein hymrwymo i amrywiaeth o ymyriadau i helpu i hybu trafnidiaeth gynaliadwy a llesol.

Rydyn ni'n ymrwymedig i greu Prif Lwybrau Beicio a buddsoddi mewn llwybrau poblogaidd fel Taith Taf, Cylch y Bae a Stryd y Castell.

 

Yn hwyrach eleni, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth Gynaliadwy yng Nghaerdydd.

 

I grynhoi, trafnidiaeth yw'r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant.

 

Gyda 90,000 o bobl yn dod i mewn ac allan o Gaerdydd bob dydd - 80% ohonynt mewn car - mae hon yn her na allwn ei hateb ar ein pen ein hunain.

 

Yn y maes hwn, fel sawl maes rydw i wedi sôn amdanynt heno, ni all ein huchelgais orffen wrth ffiniau'r ddinas.

 

Dyna pam bod fy ngweinyddiaeth yn ymrwymedig i wneud Caerdydd yn brifddinas sy'n gweithio i Gymru.

 

Mae angen dinasoedd llwyddiannus ar wledydd ffyniannus.

 

Mae hyn yn wir ym mhedwar ban byd. Pwyntiwch at economi ddynamig sy'n cael ei llywio gan dechnoleg ac fe bwyntiaf i at ddinas fawr adfywiol yn ei chanol.

 

Os methwn ni, methu fydd Cymru.

 

Ac os llwyddwn ni, bydd Cymru ar ei hennill.

 

Felly mae angen i ni ddeall bod gan ein gweithredoedd effeithiau ehangach.

 

Ac mae dyletswydd arnom i sicrhau bod Caerdydd nid yn unig yn parhau i gynhyrchu cyflogaeth a thwf, ond ein bod yn ceisio ffyrdd o sicrhau bod yr adfywio hwn yn cael effaith ar draws cymunedau yn y ddinas-ranbarth ehangach, ac yn arbennig yng Nghymoedd De Cymru.

 

Ar ôl siarad â gwleidyddion o Awdurdodau Lleol yn y Cymoedd, rwy'n ymwybodol o'r newidiadau sy'n digwydd yn y cymunedau hynny, gan gynnwys agweddau tuag at Gaerdydd.

 

Mae pobl ar draws y rhanbarth - yn arbennig yr ifanc - yn deall y manteision sy'n deillio o gael Prifddinas Ewropeaidd ar garreg eu drws, o ran lle maent yn gweithio, lle maent yn mynd ar noson allan, neu lle maent yn astudio.

 

Mae pobl yn deall bod llwyddiant economi Caerdydd yn hanfodol ar gyfer cadw swyddi a chyfleoedd yn yr ardal.

 

Ac fel gwleidyddion, mae angen i ni ymateb i hyn.

 

Mae angen i ni lunio agenda dinas-ranbarth unedig sy'n gwneud twf Caerdydd yn fwy agored i bobl yn y Cymoedd.

 

Ac mae angen i ni adeiladu perthynas ag arweinwyr cynghorau'r Cymoedd, nid ar sail agwedd ‘ni sy'n gwybod orau', ond dealltwriaeth fod gan holl gymunedau de-ddwyrain Cymru rywbeth i'w gynnig mewn perthynas â chydweithredu dinas-ranbarthol, a rhywbeth i'w ennill o'i llwyddiant.

 

Ni allwn barhau ag agwedd llwythi'r gorffennol sydd wedi amharu ar berthnasau yn y ddinas-ranbarth ers gormod o flynyddoedd.

 

Yn bersonol, rydw i'n ymrwymedig i adeiladu perthynas gyd-fuddiol rhwng y ddinas a'r rhanbarth.

 

Un lle rydym yn gwneud y gorau o fuddsoddiad yn y Metro i gefnogi Caerdydd ac - yn hanfodol - i adfywio'r Cymoedd.

 

Mae datganoli dinas-ranbarthol yn symud yn gyflym yn Lloegr, gan greu haen bwerus o lywodraethu trefol sydd â'r potensial i symud ein cystadleuwyr yn eu blaen.

 

Ni all y Brifddinas-Ranbarth hon gael ei gadael ar ôl.

 

A bod yn onest - mae'r Fargen Ddinesig yn ddechrau da, ond mae angen gwneud mwy.

 

Byddai £1.5bn dros 2 flynedd yn drawsnewidiol - ond ni ellir dweud hynny am £500m dros 20 mlynedd.

 

Fodd bynnag, gall fod yn sbardun ar gyfer dinas-ranbartholi aeddfed lle mae trafodaethau gonest yn cael eu cynnal a phenderfyniadau strategol - ynghylch tai, trafnidiaeth a buddsoddi - yn cael eu gwneud er budd hirdymor y Brifddinas-Ranbarth gyfan ac, yn y pendraw, Cymru.

 

Gall hefyd fod yn llwyfan i Gaerdydd, y rhanbarth a Llywodraeth Cymru ddod ynghyd i gefnogi brand ein prifddinas i ddenu busnesau, buddsoddiad a phobl o bob cwr o'r byd i Gymru.

 

Oherwydd, mewn economi ôl-Brexit, rhaid i Gaerdydd barhau i fod yn ddinas eangfrydig, ryngwladol sy'n gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng Cymru a'r byd.

 

Brexit.

 

Pryd oedd y tro diwethaf i chi glywed gwleidydd yn siarad cyn hired heb sôn am Brexit?

 

Does dim dwywaith am y peth, byddai Brexit caled yn niweidio Caerdydd. Rydyn ni ymysg y 5 dinas yn y DU sy'n dibynnu fwyaf ar farchnadoedd yr UE. Mae 61% o'n hallforion busnes yn mynd i aelod-wladwriaethau'r UE.

 

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ac addysg uwch yn dibynnu ar bobl dalentog o bob rhan o Ewrop.

 

Does ryfedd felly fod 60% o bleidleiswyr Caerdydd wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

 

Dyna pam ein bod yn falch o ymrwymo yn ‘Uchelgais Prifddinas' i wthio'n gryf am fynediad digyfyngiad i'r Farchnad Sengl, ac am sicrwydd i fyfyrwyr a gweithwyr rhyngwladol.

 

Dydw i heb sôn am gyni ariannol chwaith.

 

Yw hyn gan fod cyni ar ben, fel rydw i'n cadw ei ddarllen yn y wasg?

 

Gadewch i mi fod yn glir - efallai bod y rhethreg wedi newid, ond nid yw'r realiti.

 

Rhaid i Gyngor Caerdydd gynllunio ar gyfer £80m o doriadau dros y 3 blynedd nesaf. Mae hyn ar ben dros chwarter biliwn dros y ddegawd ddiwethaf a lleihad o dros 20% yn ein staff nad ydynt mewn ysgolion.

 

Mae'r her gyllidebol rydyn ni'n ei hwynebu yn llym.

 

Bydd angen gwneud penderfyniadau caled am gwmpas a maint - a hyd yn oed fodolaeth - rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus.

 

 

Dyma wir raddfa'r toriadau. Mae'n rhaid herio, adolygu ac ailystyried popeth rydyn ni'n ei wneud.

 

Does dim amheuaeth y bydd rhaid i ni barhau i foderneiddio a newid y ffordd rydyn ni'n gweithio ac yn darparu gwasanaethau.

 

 

 

 

 

Fel sefydliad rhaid i ni roi'r gorau i ddelio â phroblemau ar lefel unigol a dechrau integreiddio timau rheng flaen sy'n cael eu grymuso i fynd i'r afael â'r problemau beunyddiol rydyn ni'n gwybod bod angen eu datrys.

 

Yn gryno, rhaid i'r Cyngor weithredu fel un tîm di-dor i lywio gwelliant ar draws y ddinas.

 

Nid yw dweud "Nid dyna fy swydd i" yn ddigon da. Mae angen i ni greu diwylliant un cyngor, un gweithlu ag un diben - i gyflawni ar gyfer trigolion ein dinas.

 

Mae'r gwasanaeth iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth tân - holl wasanaethau cyhoeddus y ddinas - yn wynebu heriau tebyg.

 

[image]

 

Rydyn ni am i chi wybod ein bod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth agosach gyda chi i sicrhau bod y sector cyhoeddus cyfan y tu cefn i rai o'r problemau mwyaf rydyn ni'n eu hwynebu ac i gynnig datrysiadau parhaol i broblemau cymhleth - fel helpu pobl i fyw'n annibynnol yn y gymuned; neu gefnogi plant mewn gofal; neu helpu pobl sy'n bell o'r farchnad lafur i gael a chadw swydd dda. Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau bod pob ceiniog o arian cyhoeddus yn cael ei gwario yn y ffordd orau posibl, waeth beth fo'r ffiniau sefydliadol neu weinyddol.

 

Rydw i'n gwybod bod rhai'n gwawdio maint yr uchelgeisiau rydyn ni wedi'u gosod. Ar ôl torri'r rheol euraid honno o beidio â darllen y sylwadau o dan erthyglau newyddion ar y we, sylwais fod rhai'n meddwl bod gennym syniadau uwchlaw ein safle, ac na allwn fod yn brifddinas fyd-eang arweiniol. Rydw i'n gwrthod y fath awgrymiadau yn llwyr. Pe na bai fy rhagflaenwyr yn y rôl hon wedi bod mor feiddgar a chreadigol yn yr 80au a'r 90au, byddai Caerdydd wedi parhau'n ddinas ymylol. Mae sawl project, o adfywio Bae Caerdydd i Stadiwm y Mileniwm, yn dangos beth gellir ei gyflawni pan fo llywodraeth leol yn dangos uchelgais ac yn gweithio gyda phartneriaid.

 

At hynny, mae'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu yn ein gorfodi i ehangu ein gorwelion ac ystyried sut gallai Caerdydd ddatblygu dros y chwarter canrif nesaf.

 

Ond peidiwch â chamgymryd ein huchelgeisiau am ffolineb. Rydyn ni'n ymrwymedig i gael yr hanfodion yn gywir hefyd - bara menyn gwaith y Cyngor. Rydyn ni'n ymrwymedig i lanhau ein strydoedd a'n cymunedau, gan gyflwyno dull ‘Stryd Gyfan' newydd sy'n cydlynu ein gwasanaethau ar lawr gwlad. Byddwn yn cyflwyno polisi dim goddefgarwch mewn perthynas â thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel. A byddwn yn buddsoddi yn ein ffyrdd i drwsio ceudyllau.

 

Mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae ein hymrwymiad yn glir - byddwn yn cynnig y gofal cymdeithasol gorau posibl, o ran arfer a darpariaeth. Ni fyddai dim llai na hynny yn ddigon da.

 

Yn wyneb cyni, rydym wedi buddsoddi mewn recriwtio gweithwyr cymdeithasol newydd, ac mae rhai camau mawr wedi'u cymryd i wella gwasanaethau plant. Rwy'n benderfynol o barhau â'r gwelliant hwn.

 

Yn benodol, byddwn yn sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed yn iach a diogel. Wrth gwrs, byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn ein gofal, a phan fyddant yn gadael y gofal hwnnw.

 

Ond mae angen i wneud newid graddol ar lefel gymunedol - gan gydlynu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol; iechyd a'r heddlu - i gefnogi teuluoedd, ac i daclo problemau yn gynnar cyn iddynt ddatblygu'n argyfyngau.

 

Mae'r ffordd yr ydym yn gofalu am bobl hŷn yn neges i genedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni'n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth agosach â'r Gwasanaeth Iechyd a'r Trydydd Sector i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i'r pwysau uniongyrchol rydyn ni i gyd yn ei wynebu ac i'r her hirdymor o gynnig gofal cymdeithasol cynaliadwy.

 

Eto, rhaid i'r ateb edrych ar sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ar lefel gymunedol, gan chwalu rhwystrau rhwng ein sefydliadau a rhwng ein hunain a'r rheini sydd angen, neu sy'n darparu, gofal.

 

Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl gael gofal a chymorth yn eu cymunedau a byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. A byddwn yn darparu canolfannau modern i gynnig gwasanaethau arbenigol i'r rheini sy'n dioddef gyda demensia.

 

Yn olaf, hoffwn ystyried sut bydd angen i ni weithio i gyflawni ein huchelgeisiau i'r ddinas, ac yma hoffwn sôn am air o gyngor anfonodd Dad i fi mewn neges destun yn ddiweddar. Dywedodd fod ‘cadarn a sefydlog' yn fantra gwag yn rhy aml. Yn lle hynny, gall ‘gwerthfawrogiad a symlrwydd' fynd â chi'n bell iawn. Felly, er bod ein diben yn syml - i wella bywydau trigolion Caerdydd a bod yn brifddinas i Gymru, rhaid i ni hefyd werthfawrogi nad yw'r holl atebion yn ein dwylo, na'r holl adnoddau sydd eu hangen arnom i ddatrys yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu. Rhaid i ni felly weithio gyda'n gilydd.

 

Rwy'n gwybod bod gennyf Gabinet ymrwymedig a thalentog i lywio gwaith yn eu meysydd nhw. Rwy'n gwybod bod gan fy mhlaid Gynghorwyr o bob cwr o'r ddinas sy'n llawn brwdfrydedd, angerdd a syniadau, ac rwy'n gwybod bod gennym wrthbleidiau a fydd yn craffu'n adeiladol ar ein gwaith ac yn ein dwyn i gyfrif, sy'n ddigon teg. Gan roi gwleidyddiaeth i'r naill ochr, rydw i'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau'r gorau i'r ddinas hon.

 

Ond i lwyddo, bydd angen gwaith caled ac ymroddiad gan swyddogion y Cyngor, ein Hundebau Llafur, ein hathrawon, ein gweithwyr cymdeithasol, ein glanhawyr strydoedd, ein llyfrgellwyr.

 

Ac yn ehangach, ein swyddogion heddlu, diffoddwyr tân, meddygon a nyrsys.

 

Y nhw yw hoelion wyth ein gwasanaethau cyhoeddus, ac maent yn allweddol i gyflawni'r newid sydd ei angen, a helpu i greu dinas lanach, iachach a thecach.

 

A gall pob un ohonoch yn yr ystafell hon heno, a phob un o drigolion Caerdydd hefyd wneud cyfraniad pwysig at fywyd yn ein dinas.

 

Gall pob un ohonom ni yn yr ystafell hon, yn weithredwyr cymunedol, yn rhieni, yn wirfoddolwyr, yn berchnogion busnes, helpu i adeiladu dinas lle mae pawb yn gwneud cyfraniad gwerthfawr sy'n cael ei werthfawrogi.

 

Rydyn ni'n cynnig bargen newydd gyda phobl Caerdydd, sy'n cydnabod ein hawliau, ond hefyd fod gennym gyfrifoldebau i'n gilydd - i helpu i gadw ein cymdogaethau'n lân, i ofalu am ein gilydd, i helpu'r sawl sydd mewn angen.

 

Fy ymrwymiad i, fel Arweinydd y Cyngor, yw i weithio gyda chi i wneud Caerdydd yn lle gwell i fyw i bawb, a hynny ar sail tegwch a chyfiawnder cymdeithasol.

 

Mae gennym gyfle i greu prifddinas sy'n uchelgeisiol dros y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu, ac sy'n uchelgeisiol dros Gymru. Mae'n gyfle hanesyddol, cyffrous, ac mae'r cyfle hwnnw yn ein dwylo ni.

 

Fe wnawn ni bopeth i achub ar y cyfle hwn.

 

Diolch.