Llywydd UEFA yn canu clodydd Caerdydd
Mae Llywydd UEFA wedi canmol Caerdydd i'r cymylau, gan ddweud bod Caerdydd wedi "cyflawni'n gwbl ragorol" yn ystod wythnos ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, diolchodd Aleksander Ceferin, llywydd UEFA, Gaerdydd am y croeso twymgalon, a disgrifiodd y brifddinas fel dinas fechan "a roddodd groeso brwd i filoedd o ffans pêl-droed mewn ysbryd gynhalgar a chydweithredol. Cafwyd mwynhad pur."
Dywed yn ei lythyr:
Annwyl Carwyn,
"Diolch am eich llythyr dyddiedig 8 Mehefin 2017. Rhaid i fi gyfaddef bod dweud ‘diolch' ychydig yn annigonol o gofio'r gyfres anhygoel a chwbl broffesiynol o ddigwyddiadau pêl-droed a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ystod wythnos gyntaf Mehefin 2017!
"Fel y dywedoch yn eich llythyr, dinas fach yw Caerdydd, ond rhoddodd groeso brwd i filoedd o ffans pêl-droed mewn ysbryd gynhalgar a chydweithredol. Cafwyd mwynhad pur.
Diolch i chi, Carwyn, am eich cefnogaeth. Roedd llawer o gyfrifoldeb ar ysgwyddau'r ddinas, ond llwyddodd yn rhyfeddol, drwy ei darparwyr gwasanaeth, i gyflawni'n gwbl ragorol.
Yn gywir,
Llywydd
UEFA
Aleksander Ceferin
Fe drechodd Real Madrid Juventus yn y ffeinal, gyda sgôr o 4-1, mewn gêm wefreiddiol yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru (ailenwyd Stadiwm y Principality ar gyfer y digwyddiad).
Dros bedwar diwrnod, daeth degau o filoedd i fwynhau'r awyrgylch yng Ngŵyl Cynghrair y Pencampwyr ym Mae Caerdydd, ac roedd dros 22,0000 yn gwylio Lyon yn trechu Paris Saint-German ac ennill Cynghrair Pencampwyr y Menywod mewn gêm wych a ddaeth i ben gyda chiciau o'r smotyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Denodd Cynghrair y Pencampwyr UEFA y nifer mwyaf erioed o bobl i ganol dinas Caerdydd - gan dorri'r record flaenorol gyda bron i 44,000 yn fwy yn ymweld.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Roedd yr awyrgylch yng Nghaerdydd dros benwythnos Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn gwbl anhygoel.
"Gweithiodd pawb mor galed i sicrhau llwyddiant y digwyddiad. Dangosodd ein partneriaid i gyd, a'n dinas ragorol, ein bod yn byw mewn dinas a gwlad benigamp, ac fe wasanaethwyd Cynghrair Pencampwyr UEFA yn wych.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor: "Dangosom ein bod yn gallu cynnal digwyddiad mwyaf y byd. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn a bydd pobl yn cofio'r gêm wefreiddiol am flynyddoedd."
Diolchodd y Prif Weinidog yr wythnos hon i Gymdeithas Pêl-droed Cymru, UEFA, Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a'r gwasanaethau brys i gyd am eu gwaith caled yn sicrhau llwyddiant y digwyddiadau.
Dywedodd Mr Jones: "Fis yn ôl, croesawodd Caerdydd ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y flwyddyn. Roedd y byd i gyd yn gwylio Cymru ac fe lwyddon ni.
"Roedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn benllanw misoedd o waith caled a chynllunio i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel, a'u bod yn cael croeso Cymreig o'r galon.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r ffans am eu hymddygiad da yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd. Roedd yn wych gweld miloedd o ffans o Ffrainc, Sbaen a'r Eidal yn eu mwynhau eu hunain yn ein prifddinas a gobeithio eu bod yn cofio'n annwyl am Gymru ac y dôn nhw nôl atom yn y dyfodol.
"Roedd yr heriau a wynebai'r ddinas leiaf erioed i gynnal digwyddiad o'r fath yn rhai mawr, ac rwy'n teimlo'n falch iawn o'r cyfan y llwyddodd Caerdydd i'w gyflawni.
"Bydd miliynau o bobl ar hyd a lled y byd wedi sylwi ar Gymru fel lle i ymweld ag e, i weithio ac i wneud busnes. Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y llwyddiant mawr hwn."
Gwyliwch filoedd o ffans yn mwynhau canol dinas Caerdydd cyn Ffeinal Cynghrair y pencampwyr:https://www.facebook.com/pg/cardiff.council1/videos/?ref=page_internal
Y nifer mwyaf o ymwelwyr erioed yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin: