Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i wella diogelwch ffyrdd y ddinas ac annog pobl i ddefnyddio dulliau cynaliadwy o deithio drwy weithredu mwy o ardaloedd 20 MYA o amgylch y ddinas.
Ymhlith yr ardaloedd cyntaf yn y ddinas lle caiff y cynllun ei gyflwyno mae rhannau o Lan-yr-afon a Threganna. Mae eisoes ar waith yn yr ardaloedd rhwng Llandaff Road, Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen hyd at ymylon Caeau Pontcanna.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r cynllun hwn yn cael ei weithredu i wella'r strydlun, gwneud ffyrdd yn fwy diogel ac annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref ac ystyried trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio."
Mae'n rhaid ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus cyn y gellid gweithredu cynllun 20 MYA. Ar gyfer pob cynllun, cynigir y bydd y prif lwybrau'n aros yn rhai 30MYA - oherwydd pe byddai'r holl ffyrdd yn rhai 20MYA - byddai gyrwyr yn defnyddio strydoedd preswyl llai, sy'n mynd yn erbyn bwriad y cynllun.
Ymhlith y ffyrdd a fydd yn aros yn rhai 30 MYA yng nghynllun Glan-yr-afon a Threganna mae Wellington Street, a Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen hyd at Bont Caerdydd.
Bydd rhan nesaf y cynllun a gaiff ei roi ar waith yn cynnwys ardaloedd penodedig o Dreganna, De Glan-yr-afon ac yna'r gorllewin o Llandaff Road i Victoria Park Road West ac i lawr i Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar osod cyfyngiadau 20 MYA i'r de o Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen eisoes wedi dechrau a daw i ben ar 20 Gorffennaf. Hon yw rhan olaf cynllun presennol Glan-Yr-Afon a Threganna y disgwylir iddi gael ei rhoi ar waith, a byddwn yn ystyried rhannau eraill o Dreganna ar ôl adolygu canol y ddinas.
Aeth y Cyng. Wild ymlaen i ddweud: "Rydym yn ymrwymedig i lwyddiant y cynllun hwn. Rydym wedi dysgu o'r cynllun peilot a gymerodd le yn Cathays ac wedi addasu ein cynlluniau wrth fwrw ymlaen. Gwnaeth y cynllun yn Cathays leihau cyfyngiadau cyflymder cyfartalog, sy'n braf i weld a bwriadwn weithio'n agos gyda Phartneriaeth Go Safe a'r heddlu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei orfodi a byddwn yn gweithio gyda chynghorwyr lleol a'r gymuned ym mhob ardal cyn i gynlluniau pellach gael eu cynnig."