Ffilm dros amser yn dangos pont newydd i gerddwyr a seiclwyr yn cael ei gosod
Mae ffilm dros amser ffantastig yn dangos pont newydd i gerddwyr a seiclwyr yn cael ei gosod dros Afon Elái yng Nghaerdydd.
Mae'r bont yn rhan o gysylltiad seiclo di-draffig a fydd yn rhoi mynediad i seiclwyr at Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o Riverside Terrace a fydd hefyd yn cysylltu â Llwybr Elái. Bydd hyn yn creu llwybr di-draffig ar hyd yr afon drwy safle tai Melin Elái.
Bydd y bont a'i llwybrau cysylltiedig hefyd yn galluogi seiclwyr i osgoi gorfod seiclo ar hyd darn prysur o Heol Orllewinol y Bont-faen.
Cafodd Heol Orllewinol y Bont-faen ei chau dros dro er mwyn galluogi'r bont - sydd wedi'i dylunio a'i hadeiladu gan Raymond Brown Construction Ltd - i gael ei chodi i'w safle gan graen mawr; dyma pryd cafodd y ffilm dros amser ei recordio.
Gwyliwch yma:https://www.youtube.com/watch?v=WbZYZ508GUs
Mae'r bont yn rhan o ail gam Prosiect Teithio Llesol Coridor y Gorllewin, Cyngor Caerdydd.
Roedd y cam cyntaf yn cynnwys Croesfan Twcan i gerddwyr a seiclwyr a gwell cyfleusterau rhannu llwybr ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen wrth ymyl Cylchfan Pont Trelái.
Ariannwyd y prosiect gwerth £290,000 drwy gyllideb gyfalaf y Cyngor yn ogystal â chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Drafnidiaeth Leol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn rhagor o gyllid eleni gan Lywodraeth Cymru i gynllunio cyfleusterau seiclo ar wahân ar hyn coridor Heol Orllewinol y Bont-faen rhwng y bont newydd dros yr afon a Grand Avenue.
Bydd y cyfleusterau hyn yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy diogel i bobl seiclo rhwng ardaloedd Caerau a Threlái a mannau i'r dwyrain o Afon Elái.
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynigion hyn yn ddiweddarach eleni.
Mae cyllid hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer mesurau Cymdogaethau Cerddadwy yng Nghaerau a fydd yn cynnwys gosod Croesfan Sebra newydd ar Caerau Lane a chyrbau is mewn gwahanol leoliadau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r bont newydd hon yn enghraifft wych arall o'r gwelliannau rydym yn eu gwneud ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yng Nghaerdydd a bydd yn sicrhau llwybr diogel i gerddwyr a seiclwyr i ffwrdd o bont gerbydau Afon Trelái."
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno cyfleusterau seiclo ar wahân yn yr ardal a byddwn yn ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynlluniau hynny yn ddiweddarach eleni".
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates: "Mae'n wych gweld y bont yn ei lle. Rydym wedi helpu i ariannu'r cynllun hwn yn rhan o waith ehangach gwerth £2.6m sy'n cael ei wneud ar Goridor Teithio Llesol Gorllewin Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud ar gyfer cerddwyr, seiclwyr ac eraill ar hyd y darn hwn o ffordd."