The essential journalist news source
Back
3.
July
2017.
Felothon 2017 yn dychwelyd i dde Cymru

Felothon 2017 yn dychwelyd i dde Cymru

Mae'r Felothon yn dychwelyd i strydoedd de ddwyrain Cymru ar 9 Gorffennaf.

Bydd ras 110km a ras 140km eleni, a bydd y ddwy'n cychwyn ac yn gorffen yng Nghaerdydd. Er diogelwch y beicwyr, bydd y ddwy ras yn digwydd ar strydoedd fydd wedi eu cau, gyda beicwyr yn gadael Caerdydd o'r Ganolfan Ddinesig, cyn rhedeg ar hyd Stryd y Castell a Heol Fawr, mas o'r ddinas tuag at y Gylchfan Hud. Byddant wedyn yn mynd tua'r dwyrain - ar hyd Ocean Way, Rover Way, Ffordd Lamby, drwy Wynllŵg a thuag at Gasnewydd.

Pan fydd y beicwyr yn dod yn ôl i mewn i Gaerdydd, byddant yn dod dros Fynydd Caerffili, drwy Lys-faen, i Gyncoed ac yn ôl i Cathays, gan orffen yn y Ganolfan Ddinesig.

Bydd llawer o ffyrdd ar gau er mwyn gwneud y ras yn bosibl. Mae trefnwyr y digwyddiad wedi bod yn trafod gyda phreswylwyr a busnesau y bydd y ddwy ras yn effeithio arnynt.

Bydd y ras, fydd ar agor i bawb, yn cychwyn am 7am a bydd y strydoedd yn ailagor cyn gynted ag y bydd hynny'n ddiogel. Bydd y Ras Broffesiynol yn digwydd yn hwyrach ar y diwrnod, a bydd heolydd yn cau yn ôl yr angen, gyda beiciau modur yr heddlu yn teithio ar eu hyd.
 
Gan fod ffyrdd ar gau, bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) Heol Wedal ar gau drwy’r dydd. Bydd Bessemer Close a Ffordd Lamby ar gau tan 2pm.

Bydd CAGCau Bessemer Close a Ffordd Lamby yn gweithredu o 2pm tan 6.15pm

Nodir amcangyfrif o amseroedd cau'r heolydd isod. Bydd diweddariadau byw yn ymddangos ar @cyngorcaerdydd ar ddiwrnod y digwyddiad.

Mewn rhai achosion - bydd gan breswylwyr hawl i ddefnyddio'r heolydd pan fo hynny'n ddiogel. At ddibenion y darn hwn, nodir * wrth ochr heolydd o'r fath.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 3am tan 10am:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (y gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Stryd y Castell)

  • Stryd y Castell, Heol y Dug, Ffordd y Brenin a Boulevard de Nantes

  • Heol y Gogledd (o'r gyffordd â Ffordd y Brenin i'r gyffordd â Colum Road)

  • Heol y Porth - tua'r gogledd a dim troi i'r dde i Stryd y Castell

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 3am tan 1.30pm:

  • Stryd Fawr (o'r gyffordd â Heol y Dug i'r gyffordd â Heol Eglwys Fair).

  • Heol Eglwys Fair (o'r gyffordd â Stryd Fawr i'r gyffordd â Lôn y Felin).

  • Stryd Wood (o'r gyffordd â Stryd Havelock i'r gyffordd â Heol Eglwys Fair).

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5.30am tan 1.30pm:

  • Lôn y Felin (o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair i'r gyffordd â Stryd y Gamlas).

  • Heol y Tollty

  • Heol Penarth (o'r gyffordd gyda Heol Eglwys Fair i'r gyffordd gyda Ffordd Tresilian) - bydd mynediad i'r Aes drwy Tredegar Street.

  • Sgwâr Callaghan - tua'r gogledd - o'r gyffordd â Ffordd Tresilian i'r gyffordd â Stryd Bute

  • Stryd Bute (o'r gyffordd â Heol y Tollty i'r gyffordd â Stryd Herbert)*

  • Stryd Herbert

  • Tyndall Street - tua'r dwyrain yn unig - o'r gyffordd â Stryd Herbert i'r gyffordd ag East Tyndall Street

  • Tyndall Street (o'r gyffordd â Schooner Way i'r gyffordd ag East Tyndall Street)

  • East Bay Close, Wharf Road East a Windsor Road (o'r gyffordd ag East Tyndall Street i'r gyffordd â Sanquahar Street)

  • Ffordd ymadael tua'r gogledd y Ffordd Gyswllt Ganolog

  • Sanquahar Street (o'r gyffordd â Cumnock Terrace i'r gyffordd â Windsor Road)*

  • East Tyndall Street (o'r gyffordd gyda John Lewis i'r gyffordd gydag Ocean Way)*

  • Lewis Road (o'r gyffordd gydag East Tyndall Street i'r gyffordd gydag Ocean Way)*

  • Ocean Way, Eastmoors Road, Beignon Close, Collivaud Place, Galdames Place, Nettleford Road, Guest Road, Glass Avenue a Portmanmoor Road

  • Rover Way (o'r gyffordd gyda Foreshore Road i'r gyffordd â Ffordd Lamby)

  • Darby Road, Tidesfield Road

  • Seawall Road (o'r gyffordd gyda Rover Way i'r gyffordd gyda South Park Road)*

  • Pengam Road wrth y gyffordd gyda Rover Way*

  • Trosffordd Southern Way tua'r de i'r gyffordd gyda Ffordd Lamby

  • Ffordd Lamby (o'r gyffordd gyda Rover Way i'r gyffordd gyda Wentloog Avenue)*

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 6am tan 10am:

  • Ffordd Lamby (o'r gyffordd gyda Wentloog Road i'r gyffordd gyda Mardy Road)*

  • Mardy Road (o'r gyffordd gyda New Road i'r gyffordd gyda Wentloog Avenue)* a Wentloog Road

  • Canolfan Fusnes Melyn Mair a Heol-y-Rhosog

  • Parkway, Newton Road a Newlands Road

  • Wentloog Road (o'r gyffordd gyda Wentloog Avenue i ffin Caerdydd/Casnewydd).

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 9am tan 7pm:

  • Cathays Terrace

  • Whitchurch Road (o'r gyffordd gyda Gelligaer Street i'r gyffordd gyda Cathays Terrace)

  • Crwys Road (o'r gyffordd gyda Gelligaer Street i'r gyffordd gyda Cathays Terrace)

  • Heol Corbett (o'r gyffordd gyda Cathays Terrace i'r gyffordd gyda Heol y Gogledd)

  • Colum Road (o'r gyffordd gyda Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol Corbett)

  • Plas-y-Parc (o'r gyffordd gyda Maes St Andrew i'r gyffordd gyda Heol Corbett) *

(Bydd mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne drwy Heol y Gogledd a Rhodfa'r Brenin Edward V11 a thrwy Heol y Coleg)

 

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 9am tan 6pm:

  • A469 Thornhill Road

  • Capel Gwilym Road a Heol Hir (o'r gyffordd â Heol Llinos i'r gyffordd â Chapel Gwilym)

  • Cherry Orchard Road, Heol Hir - tua'r gogledd, Excalibur Drive (y gyffordd gydag Amber Heart Drive)

  • Cefn Onn Meadows, Clos Llysfaen, The Paddock, Llwyn-y-Pia Road a Cotswold Avenue

  • Heol-y-Delyn (o'r gyffordd â Phlas-y-Delyn i'r gyffordd â Church Road)

  • Church Road (o'r gyffordd â Heol-y-Delyn i'r gyffordd â Lisvane Road)

  • Church Close

  • B4562 Lisvane Road (o'r gyffordd â St Mellons Road i'r gyffordd â Church Road) a St Mellons Road (o'r gyffordd â Heol Pontprennau/Lisvane Road i'r gyffordd â Church Road) *

  • B4562 Station Road (o'r gyffordd gyda Lisvane Road i'r gyffordd gyda Fidlas Road) a Clos Coed-y-Dafarn, Chartwell Drive, Wood Close, Crofta, Woodside Court, South Road, Marion Court a The Rise.

  • Station Road (o'r gyffordd â Fidlas Road, Newlands Court, Redwood Court, Old Vicarage Close a Glebe Place)

  • Station Road (o'r gyffordd â Fidlas Road i'r gyffordd â Tŷ Glas Avenue)*

  • Fidlas Road (o'r gyffordd â Station Road i'r gyffordd â Llandennis Road), Usk Road, Ewenny Road, Maberly Court a Fidlas Road.

  • Heathwood Road (o'r gyffordd â Fidlas Road i'r gyffordd â Heath Halt Road) *

  • Rhyd-y-penau Road (o'r gyffordd â Heol Esgyn i'r gyffordd â Fidlas Road)

  • Llandennis Road a Dyffryn Close

  • Lake Road West (o'r gyffordd gyda Llandennis i'r gyffordd gyda Fairoak Road)

  • Lake Road North (o'r gyffordd gyda Beatty Avenue i'r gyffordd gyda Lake Road West)*

  • Beatty Avenue (o'r gyffordd gyda Lake Road North i'r gyffordd gyda Lake Road West)*

  • Lake Road East (o'r gyffordd gyda Wild Gardens i'r gyffordd gyda Lake Road West)*

  • Celyn Avenue (o'r gyffordd gyda Lakeside Drive i'r gyffordd gdya Lake Road East)*

  • Cunningham Close a Highfield Road (o'r gyffordd gyda Windermere Avenue i'r gyffordd gyda Lakeside West)*

  • Ullswater Avenue, Keswick Avenue, Grasmere Avenue ac Amberside Avenue

  • Heol Wedal (o'r gyffordd ag Allensbank Road i'r gyffordd â Lake Road West) *

  • Fairoak Road (o'r gyffordd â Lake Road East i'r gyffordd â Cathays Terrace)

  • Ninian Road a Shirley Road (i'r cyffyrdd â Tydfil Place) *

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 10am tan 7pm:

  • Colum Road a Phlas-y-Parc (o'r gyffordd gyda Colum Road i'r gyffordd gyda Maes St Andrew.