Uchelgais Prifddinas y Cyngor i droi llygaid y byd
Mae gan Gaerdydd gyfle hanesyddol i ddatblygu'n brifddinas fyd-eang o'r radd flaenaf yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd.
Gan ddatgelu cynllun pum mlynedd y weinyddiaeth newydd - sef Uchelgais Prifddinas - dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas fod y ddinas wedi tyfu'n brifddinas Ewropeaidd fyrlymus sy'n ffynnu'n economaidd, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol ac sydd â'r cyfle nawr i fod yn ddinas arweiniol ar lefel fyd-eang.
Dywedodd y Cyng. Thomas: "Credaf ein bod yn wynebu cyfle hanesyddol - cyfle i wireddu ein potensial a dod yn brifddinas fyd-eang wych lle mae pob dinesydd, ein rhanbarth a'n gwlad yn teimlo'r manteision o dyfu."
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor: "Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain ac mae'n tyfu'n gyflym. Mae economi'r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae diweithdra ar ei lefel isaf y ddegawd hon.
"Nid yw proffil y ddinas erioed wedi bod yn uwch, ac mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu bob blwyddyn.
"Does dim amheuaeth mai Caerdydd yw ased economaidd cryfaf Cymru a'i chyfle gorau o sicrhau llwyddiant economaidd cynaliadwy yn y dyfodol."
Ond rhybuddiodd fod Caerdydd wedi'i rhannu o hyd, gan ychwanegu: "Mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd wedi cael ei adael i dyfu ers yn rhy hir o lawer, ac mae llawer o gymunedau Caerdydd ymysg y tlotaf yng Nghymru. Yn wir, petai ‘Arc Ddeheuol' Caerdydd, o Drelái yn y Gorllewin i Trowbridge yn y Dwyrain, yn cael ei ystyried yn un awdurdod lleol, hwn fyddai'r tlotaf yng Nghymru o gryn dipyn."
Gwnaeth y Cynghorydd Thomas addo y byddai trechu tlodi ac anghydraddoldeb yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth.
"Mae gormod o bobl yng Nghaerdydd yn cael trafferthion bodloni eu hanghenion sylfaenol. Byddwn yn rhoi ffocws pendant ar addysg a swyddi oherwydd, drwy roi cyfle cyfartal i bawb yn y meysydd hyn, credwn y gall pobl godi eu hunain allan o dlodi," dywedodd y Cynghorydd Thomas.
"Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn cael yr hanfodion yn gywir wrth ofalu am bobl sy'n agored i niwed a henoed ein dinas.
"Yn y pen draw, rydw i am i bob dinesydd yng Nghaerdydd gael y cyfle i gyrraedd ei botensial a chwarae rhan lawn a gweithgar ym mywyd ein dinas."
Dywedodd yr Arweinydd y byddai dull y Cyngor o ddarparu ar gyfer trigolion y ddinas yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:
Gweithio i Gaerdydd:sicrhau bod y gall pawb sy'n byw a gweithio yma gyfrannu at lwyddiant y ddinas a mwynhau'r buddion
Gweithio i Gymru:Mae angen prifddinas lwyddiannus ar Gymru lwyddiannus
Gweithio i'r dyfodol:Rheoli twf y ddinas mewn ffordd gynaliadwy
Gweithio i'r gwasanaethau cyhoeddus:Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n effeithlon, effeithiol a chynaliadwy yn wyneb galw mawr a chyllidebau llai
Dywedodd yr Arweinydd na ddylai uchelgais y brifddinas ddod i ben wrth ffiniau'r ddinas a bod angen i rôl Caerdydd fel grym economaidd y ddinas-ranbarth a'i pherthynas â chynghorau cyfagos barhau i dyfu.
Dywedodd hefyd fod angen i Gyngor Caerdydd gydnabod y dylai twf fod yn gynaliadwy a chadarn a chael ei ateb â datrysiadau beiddgar a syniadau mawr.
Ychwanegodd: "Rhaid i ni wneud hyn ar adeg o gyni digynsail. Mae'r Cyngor ei hun wedi gwneud arbedion o fwy na chwarter biliwn o bunnoedd dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae gennym fwlch cyllidebol o tua £80m i'w gau dros y tair blynedd nesaf.
"Dwi'n darllen drosodd a thro fod cyni wedi dod i ben, ond mae angen i bobl wybod mai dim ond pennawd papur newydd yw hyn; nid yw'n wir. Fodd bynnag, mae'r problemau cyllidebol rydyn ni'n eu hwynebu yn rhai gwirioneddol. Mae amseroedd caled i ddod, bydd angen i wasanaethau cyhoeddus addasu a newid, ac weithiau bydd angen gwneud penderfyniadau anodd."
Dywedodd yr Arweinydd, i lwyddo, y bydd angen gwaith caled ac ymrwymiad gan swyddogion y Cyngor, Undebau Llafur, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, glanhawyr stryd, llyfrgellwyr, swyddogion heddlu, diffoddwyr tân a nyrsys.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Y nhw yw hoelion wyth ein gwasanaethau cyhoeddus, ac maent yn allweddol i gyflawni'r newid sydd ei angen, a helpu i greu dinas lanach, iachach a thecach. Ond does dim amheuaeth y bydd rhaid i ni barhau i foderneiddio a newid y ffordd rydyn ni'n gweithio ac yn darparu gwasanaethau.
"Fel sefydliad rhaid i ni roi'r gorau i ddelio â phroblemau ar lefel unigol a dechrau integreiddio timau rheng flaen sy'n cael eu grymuso i fynd i'r afael â'r problemau beunyddiol rydyn ni'n gwybod bod angen eu datrys. Rhaid i'r Cyngor weithredu fel un tîm di-dor i lywio gwelliant ar draws y ddinas. Nid yw dweud ‘Nid dyna fy swydd i' yn ddigon da mwyach. Mae angen i ni greu diwylliant un cyngor, un gweithlu ag un diben - i gyflawni ar gyfer trigolion ein dinas."
Dywedodd y Cynghorydd Thomas mai ei ymrwymiad fel Arweinydd y Cyngor yw cydweithio â phartneriaid, staff a dinasyddion i wneud Caerdydd yn lle gwell i fyw i bawb, gan ychwanegu: "Drwy wneud hynny, gallwn greu prifddinas sydd nid yn unig yn uchelgeisiol i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu, ond i Gymru gyfan."
I ddarllen yr adroddiad Uchelgais Prifddinas llawn, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, cliciwch yma:http://app.prmax.co.uk/collateral/118565.pdf
Fel rhan o'r Uchelgais Prifddinas - cynllun pum mlynedd y weinyddiaeth newydd i'r ddinas - mae pob un o'r Aelodau Cabinet wedi amlinellu ei nodau a'i uchelgeisiau allweddol ar gyfer ei gyfnod yn y swydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Enw:Y Cynghorydd Huw Thomas
Rôl: Arweinydd Cyngor Caerdydd
• Rydw i am fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn ein dinas gyda ffocws pendant ar greu swyddi sy'n talu'n well a gwella addysg gan reoli twf y ddinas er mwyn cynnal ansawdd bywyd gwych Caerdydd
• Rydw i hefyd yn benderfynol o sicrhau llwyddiant y Fargen Ddinesig a symud y tu hwnt i hyn i greu fframwaith ar gyfer y ddinas-ranbarth lle gellir gwneud penderfyniadau strategol am dai, trafnidiaeth a buddsoddi er budd hirdymor y Brifddinas-Ranbarth ac, yn y pendraw, Cymru
Enw:Y Cynghorydd Michael Michael
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd
• Ni fyddwn yn goddef sbwriel ar y stryd a thipio anghyfreithlon, a byddwn yn cynyddu gweithgareddau gorfodi a dirwyon yn erbyn y rheini sy'n taflu sbwriel a thipio'n anghyfreithlon
• Byddwn yn gwneud Caerdydd yn un o ddinasoedd ailgylchu mwyaf llwyddiannus y byd gan hybu cyfraddau ailgylchu drwy roi ffocws ar addysg mewn ysgolion, cymunedau, newid ymddygiad ac adolygu gwasanaethau gwastraff
Enw:Y Cynghorydd Sarah Merry
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau
• Mae addysg plant y ddinas yn allweddol i lewyrch economaidd Caerdydd ac i'n gwneud ni'n ddinas decach. Rydyn ni am sicrhau bod pob plentyn yn mynd i ysgol dda neu ragorol, gan gau'r bwlch cyrhaeddiad ar yr un pryd
• Rydyn ni hefyd am barhau i fuddsoddi yn adeiladau ein hysgolion, cynyddu nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael a gwella'r adeiladau eu hunain
Enw:Y Cynghorydd Chris Weaver
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad
• Cynnwys pobl a chymunedau yn fwy yn y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud
• Datblygu rhaglen datblygu sefydliadol 3 blynedd newydd ar gyfer y Cyngor
Enw:Y Cynghorydd Lynda Thorne
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau
• Gweithio gyda datblygwyr i godi mwy na 6,500 o dai fforddiadwy erbyn 2026 - gan gynnwys 1,000 o dai Cyngor newydd drwy'r Cynllun Cartrefi Caerdydd
• Atal pobl rhag gorfod cysgu ar strydoedd ein dinas drwy gyflawni Strategaeth Cysgu ar y Stryd gyda phartneriaid, gan gynnwys mabwysiadu polisi 'Dim Noson Gyntaf Mas' a threialu dulliau gweithredu newydd, gan gynnwys model 'Cartrefi yn Gyntaf' sy'n symud pobl sy'n cysgu ar y stryd yn syth o'r strydoedd i mewn i gartref.
Enw:Y Cynghorydd Graham Hinchey
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd
• Datblygu cymorth cynnar effeithiol i deuluoedd fel nad oes angen i'r Cyngor ofalu am gynifer o blant
• Gwella'r cymorth a roddir i bobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal yr awdurdod lleol
Enw:Y Cynghorydd Susan Elsmore
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles
• Darparu gofal cymdeithasol o'r ansawdd uchaf posibl, yn ymarferol ac o ran y ddarpariaeth
• Creu canolfannau modern i gynnig gwasanaethau demensia arbenigol a chyfleoedd dydd i bobl hŷn
Enw:Y Cynghorydd Caro Wild
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth
• Rhoi teithio llesol wrth wraidd polisi cynllunio, trafnidiaeth a phriffyrdd, gan ganolbwyntio ar gerdded a dechrau darparu strategaeth feicio
• Gwella bysus i drigolion Caerdydd, gyda theithiau cyflymach, bysus mwy modern a mwy o opsiynau sy'n croesi'r ddinas
Enw:Y Cynghorydd Russell Goodway
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu
• Darparu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd a fydd wrth wraidd Metro Caerdydd
• Blaenoriaethu arena dan do amlbwrpas newydd yn y lleoliad gorau posibl
Enw:Y Cynghorydd Peter Bradbury
Rôl: Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden
• Denu mwy o ddigwyddiadau mawr i'r ddinas, gan adeiladu ar lwyddiant Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr
• Hyrwyddo a datblygu chwaraeon lleol
I ddarllen yr adroddiad Uchelgais Prifddinas llawn, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, cliciwch yma:http://app.prmax.co.uk/collateral/118565.pdf