Landlord yn cael dirwy o filoedd o bunnoedd oherwydd diffygion niferus
Cafodd Mr Spiridian Micallef o Sully Road ym Mhenarth ddirwy o £4,664.00 yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe (22 Mehefin).
Mae hyn ar ôl i Mr Micallef bledio'n euog i wyth cyhuddiad yn ymwneud ag eiddo rhent i fyfyrwyr yn Albany Road, Plasnewydd.
Clywodd y llys fod tenantiaid oedd yn byw y nhŷ myfyrwyr pump ystafell wely wedi cwyno i'r Cyngor am gyflwr yr eiddo; roeddent yn ofni am eu diogelwch.
Yn fuan ar ôl derbyn y gŵyn, ar 11 Tachwedd 2016, archwiliodd swyddogion y Cyngor yr eiddo gan ddod o hyd i nifer o ddiffygion peryglus.
Nid oedd amddiffyniad rhag tân yn strwythur y tŷ, nid oedd y mesuryddion nwy a thrydan wedi'u hamddiffyn, roedd pibelli dŵr a dŵr gwastraff diffygiol oedd yn achosi lleithder, socedi trydanol diffygiol, to oedd yn gollwng dŵr yn ogystal â ffenestri diffygiol oedd yn pydru.
Dywedodd y Cyng Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid y sector preifat yn sicrhau bod eu heiddo rhent o safon uchel ac mae'r eiddo hyn yn chwarae rôl bwysig yn stoc dai Caerdydd.
"Mae angen i'r nifer fach o landlordiaid sy'n credu eu bod yn gallu cynnig llety sy'n is na'r safon feddwl eto, gan y byddwn yn ymchwilio i gwynion a byddwn yn dwyn y materion hyn gerbron y llysoedd.
"Nid oes esgus am rentu eiddo yn y cyflwr hwn. Nid yw'n dderbyniol ac rwy'n falch bod y ddirwy a osodwyd gan y llys yn adlewyrchu difrifoldeb yr achos hwn."
Ni wnaeth Mr Micallef gais i liniaru'r ddirwy ar gyfer y troseddau, a gorchmynnwyd iddo dalu £4.664.00, yn ogystal â chostau o £200 a thâl dioddefwr o £100.