The essential journalist news source
Back
13.
June
2017.
Y nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin

Y nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin

Denodd Cynghrair y Pencampwyr UEFA y nifer mwyaf erioed o bobl i ganol dinas Caerdydd - gan dorri'r record flaenorol gyda bron i 44,000 yn fwy yn ymweld.

Daeth 314,264 o bobl i'r ddinas i fwynhau awyrgylch gwych Ffeinal Dynion Cynghrair y Pencampwyr UEFA ddydd Sadwrn 3 Mehefin.

Gosodwyd y record flaenorol - 270,421 - ddydd Sadwrn 17 Mawrth 2012, pan enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad am y trydydd tro o fewn wyth mlynedd gan guro Ffrainc 16-9 yn Stadiwm y Mileniwm.

Ond daeth hyd yn oed mwy o bobl i ganol y ddinas ar 3 Mehefin, pan gurodd Real Madrid Juventus o 4-1 i godi tlws Cynghrair y Pencampwyr UEFA, yr oedd mawr gystadlu amdano, yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (yr enw ar Stadiwm Principality yn ystod y digwyddiad).

Dechreuwyd cadw llygad ar nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas yn 1999 pan gafodd y camera cyntaf ei osod ar flaen Boots yn Heol-y-Frenhines. Dechreuwyd monitro yn llawn yn 2007.

Recordir y ffigurau'n ddigidol gyda chamerâu ledled y ddinas sy'n dangos nifer yr ymwelwyr â strydoedd penodol yng nghanol y ddinas.

Y strydoedd mwyaf prysur ar 3 Mehefin oedd Heol Fawr, 74,328; Heol-y-Frenhines, 81,308; Heol Eglwys Fair, 51,426; a'r Aes, 88,939.

Canmolodd y Cyng. Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu yr awdurdodau a weithiodd mor galed i gynnal y digwyddiad ac meddai: "Mae cynnal digwyddiad o'r raddfa hon yn hollbwysig ac mae'r holl awdurdodau oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi anrhydeddu'u dinas.

"Mae rhai pobl yn credu mai dim ond 90 munud o bêl-droed oedd hyn, ond roedd yn llawer mwy na hynny. Chwaraeodd y Cyngor rôl ganolog yn y gwaith o wneud y digwyddiad yn llwyddiannus ac unwaith eto, mae'r ddinas wedi cynnal digwyddiad rhagorol."

Ychwanegodd: "Rwy'n gwerthfawrogi bod rhywfaint o darfu o ganlyniad i drefniadau diogelwch angenrheidiol oedd angen eu rhoi ar waith, ond gyda'r newyddion trist iawn rydym wedi'i weld ym Manceinion a Llundain, rwy'n credu bod y cyhoedd yn sylweddoli bod diogelwch a chadw pobl yn ddiogel yn eithriadol bwysig.

"Mae'r nifer uchaf o ymwelwyr wedi'i gofnodi erioed yng Nghaerdydd yn adeiladu ar frand Caerdydd, fel dinas sy'n gallu cynnal y digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd, yn ogystal â llawer mwy.

"Darlledwyd y ffeinal hwn mewn 200 o wledydd ledled y byd ac mae wedi, unwaith eto, ddangos prifddinas Cymru i'r byd.

"Mae'n cefnogi awdurdodau sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni sy'n gwneud y digwyddiadau hyn yn llwyddiant. Roedd yn ymgyrch 24/7 ac yn aml anwybyddir gwaith caled yr holl asiantaethau sy'n rhan o'r digwyddiad.

"Nid gêm bêl-droed yn y Stadiwm Principality yn unig oedd hon, roedd yn gyfle i ddangos ein dinas i gynulleidfa fyd-eang, i farchnata ein hunain fel dinas sy'n datblygu'n gyflym y mae ganddi gymaint i'w gynnig, a dyna'n union yr hyn rydym wedi'i wneud, ac rwy'n falch ein bod wedi cyflawni hynny."