The essential journalist news source
Back
8.
June
2017.
Cyrch ar droseddu ar-lein


Gorchmynnwyd glanhawr ffenestri o Gaerdydd a fu'n gwerthu nwyddau drudfawr ffug ar ei gyfrif Facebook i wneud 120 awr o waith di-dâl, talu £200 mewn costau a gweld £500 mewn arian parod yn cael ei atafaelu gan ynadon y ddinas.

Plediodd Kevin Coles, o Lôn yr Efail yng Nghaerau, fu'n gwerthu nwyddau ffug gan frandiau yn cynnwys Superdry, Timberland, Converse, Lacoste, Hugo Boss, Ralph Lauren, Nike, Adidas, Ugg a Stone Island, yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar Ddydd Llun 5 Mehefin.

Yn dilyn y ple, gwnaeth yr Ynadon Orchymyn Cymunedol am 12 mis, gyda 120 awr o waith di-dâl, gorchymyn adsefydlu cymunedol 10 diwrnod a gorchymyn i dalu £200 mewn costau gyda gordal dioddefwr o £85. Gwnaed Gorchymyn Fforffedu hefyd ar yr holl eitemau yn ogystal â £500 mewn arian parod.

Cafwyd ple euog yn dilyn gwarrant a weithredwyd ar ei gartref gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir ar 28 Mehefin 2016, lle cafodd £1000 mewn arian parod a 22 o eitemau nwyddau ffug eu canfod.

Dywedodd Mr Coles wrth swyddogion ei fod yn gwybod bod y nwyddau yn rhai ‘replica'. Dywedodd ei fod yn gwneud hyn yn glir wrth eu gwerthu ar ei gyfrif Facebook. Honnodd Coles hefyd fod £500 o'r arian a atafaelwyd yn dod o werthu'r nwyddau anghyfreithlon.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Coles wrth y llys fod y diffinydd wedi cydweithredu'n llwyr gyda'r Swyddogion Safonau Masnach yn ystod yr ymchwiliad.

Dywedodd Llefarydd ar ran y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o fywyd beunyddiol pawb, ond dylai'r ddedfryd yma rannu neges glir nad yw'r llwyfannau hyn yn fannau rhwydd i bawb allu gwerthu nwyddau anghyfreithlon. Mae'r rheiny sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon ar-lein yn troseddu a byddwn yn parhau i gasglu cudd-wybodaeth a thystiolaeth yn erbyn y rheiny sy'n cyflawni'r gweithgaredd troseddol yma a'u rhoi nhw ger bron y llysoedd."