Caerdydd yn lansio app newydd i gadw pobl yn ddiogel yn ystod argyfyngau
Mae app newydd wedi ei lansio, sydd wedi ei ddylunio i gadw dinasyddion ac ymwelwyr Caerdydd yn ddiogel mewn argyfwng megis tân mawr, llifogydd neu derfysgaeth.
Pan fyddwch yn lawrlwytho'r app, bydd yn anfon hysbysiadau'n uniongyrchol i ffonau clyfar defnyddwyr i roi gwybod iddynt am unrhyw argyfwng yn y ddinas. Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth ddiweddar fel y gall pobl osgoi'r rhan o'r ddinas lle mae'r argyfwng ac os oes angen, cyfeirio pobl i'w man gadael agosaf.
Mae'r app, y gellir ei lawrlwytho trwy deipio ‘Evac Caerdydd' i Google Play Store ar ffonau Android ac Apple App Store ar gyfer ffonau iPhone, wedi ei lansio i gyd-fynd â Gemau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA pan fydd niferoedd mawr o ymwelwyr yn cyrraedd y ddinas.
Dywedodd y Swyddog Rheoli Argyfwng, Gwilym Owen: "Rydyn ni'n gwneud llawer o waith cefndirol i sicrhau bod Caerdydd yn barod ar gyfer unrhyw sefyllfa o argyfwng a gall yr app hwn achub bywydau. Mae'n bur annhebyg y bydd unrhyw un ohonon ni mewn sefyllfa o argyfwng, ond os ydym yn wynebu'r gwaethaf, bydd derbyn gwybodaeth a bod yn barod, leihau'r perygl yn sylweddol i bobl ac eiddo."
Yn ogystal â derbyn hysbysiadau ynghylch argyfyngau, mae'r app hefyd yn rhoi dolenni at fapiau, canllaw a fideos a fydd yn eich helpu i baratoi at argyfyngau posib yn ogystal â gwybodaeth am leoliadau defnyddiol yn y ddinas, newyddion diweddar gan brif sefydliadau lleol yn ogystal â chanfyddwr lleoliad.
Mae'r App wedi ei greu a'i ddatblygu dros y 6 mis diwethaf gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth gyda Heddlu De Cymru, Uned Eithafiaeth a Gwrth-derfysgaeth Cymru, Gwasanaethau Tân a Brys De Cymru, Ymddiriedolaeth GIG y Gwasanaeth Ambiwlans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Bws Caerdydd, Trenau Arriva Cymru, Network Rail, Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau a Cardiff Business Safe.
Dilynwch Evac Caerdydd ar Twitter @evaccardiff neu ewch i sianel YouTube ‘EVACCardiff'.