Sigarennau ffug wedi'u cuddio mewn toiled
Mae dyn o Gaerdydd wedi cyfaddef bod ganddo filoedd o sigarennau ffug i'w gwerthu ar ôl iddynt gael eu darganfod wedi'u cuddio y tu ôl i banel pren mewn toiled.
Aethpwyd ag Abdulla Mohammed Abdulla i'r llys ar ôl i swyddogion Safonau Masnach o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir ddod o hyd i 3,600 o sigarennau Richmond, Chesterfields, Mayfair ac Ashima ffug wrth iddynt chwilio eiddo yn Heol y Plwca, Y Rhath, Caerdydd.
Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Mr Abdulla, 33, o Adamsdown, Caerdydd, yn euog i ddwy drosedd dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 am feddu ar sigarennau ffug i'w cyflenwi.
Yn ogystal, cyfaddefodd i ddwy drosedd o dan Reoliadau Tybaco a Chynnyrch Perthynol 2016 am feddu ar sigarennau i'w defnyddio yn ystod busnes, nad oeddent yn cario'r rhybuddion gofynnol.
Dywedwyd wrth y llys ei fod wedi llofnodi rhybudd syml am droseddau tebyg yn 2015.
Fel lliniariad, dywedodd cyfreithiwr Mr Abdulla wrth y llys fod ei gleient yn derbyn bod ganddo'r sigarennau yn yr eiddo, pan chwiliodd y swyddogion Safonau Masnach yr adeilad ym mis Awst 2016.
Derbyniodd ei fod yn eu gwerthu trwy ei fusnes ac y dylent fod wedi'u brandio'n gywir.
Dywedwyd wrth y llys nad yw'r busnes ganddo bellach ac mae'n byw ar ei ben ei hun. Dywedodd ei gyfreithiwr wrth y llys fod ei gleient yn ddi-waith a bod yn rhaid iddo fyw ar ei gynilon.
Cadarnhaodd swyddog prawf y llys ar ôl siarad â Mr Abdulla fod ganddo nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys anaf i'w feingefn, iselder, asthma a meigryn.
Dywedodd wrthi ei fod ar hyn o bryd yn gweithio mewn siop groser a chyhyd â bod dim angen codi unrhyw beth trwm, byddai'n gallu gwneud gwaith di-dâl.
Gorchmynnodd yr ynadon ef i wneud 180 awr o waith di-dâl, i dalu costau o £350 a gordal i'r dioddefwr o £85.
Rhoddwyd Gorchymyn Fforffedu ar gyfer y sigarennau a gipiwyd.
Yn dilyn yr achos, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r gyfraith yna am reswm a'r rheswm yw amddiffyn cwsmeriaid.
"Dylai'r erlyniad hwn fod yn rhybudd i bawb - ni fyddwn yn goddef neb yn ceisio gwerthu sigarennau ffug. Byddwn yn parhau i ddwyn pwysau ar gyfer erlyniadau er mwyn trosglwyddo'r neges."