The essential journalist news source
Back
8.
May
2017.
Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer Ras Cwch y Ddraig
Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer Ras Cwch y Ddraig
 
 

Mae deunaw tîm wedi cofrestru ar gyfer Ras Cwch y Ddraig yng Nglanfa’r Iwerydd ar 14 Mai. 
Bydd y timau o hyd at 20 o bobl yn cystadlu yn y gamp ddŵr sy’n tyfu gyflymaf yn y byd tra’n codi arian at elusen enwebedig yr Arglwydd Faer, Ymchwil Canser Cymru.

Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymuno yn yr hwyl a fydd yn cynnwys adloniant i blant, cerddoriaeth a stondinau bwyd. Gall timau sy'n hwyr i gofrestru wneud hynny o hyd yma a bydd croeso i wylwyr fwynhau’r hwyl cystadleuol. 

Mae Nation Radio yn noddwr i’r digwyddiad hwn a bydd cyflwynwyr brecwast Nation Radio Carl Hughes a Rachel Crew yn darlledu’n fyw o Ras Cwch y Ddraig.

Dywedodd Y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng Monica Walsh: “Dyw hi ddim yn rhy    hwyr i gofrestru tîm ar gyfer yr ŵyl hon. Does dim angen profiad blaenorol o rasio cychod draig.  Hefyd, bydd y cychod, hyfforddiant, rhwyfau, offer achub bywyd a llyw-wyr cymwys yn cael eu darparu gan drefnwyr y digwyddiad, Race the Dragon. Mae’r gwaith y mae Ymchwil Canser Cymru yn ei wneud yn achos da, ac mae hyn yn gyfle gwych i wneud gwaith da a chael hwyl ar yr un pryd."

Disgwylir i Ŵyl Cwch y Ddraig Caerdydd ddigwydd ar ddydd Sul 14 Mai rhwng 10am a 4pm. Bydd tair rownd ragbrofol a chaiff amser cyflymaf pob tîm ei ddefnyddio i bennu pwy fydd yn mynd ymlaen i’r Rownd Derfynol.